Cyflenwad dŵr wedi ei adfer i'r rhan fwyaf o gwsmeriaid
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bobl yn wynebu penwythnos heb gyflenwad dŵr ar ôl i bibell fyrstio.
Cafodd tua 40,000 o gartrefi eu heffeithio gan y digwyddiad yn Nolgarrog, Conwy ddydd Mercher.
Erbyn nos Sadwrn, dywedodd Dŵr Cymru fod cyflenwadau 65% o'u cwsmeriaid wedi eu hadfer, ond y byddai'n rhaid i eraill aros tan nos Sul.
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud fod angen i Dŵr Cymru ystyried a oes angen cynyddu'r iawndal "yn sylweddol" i deuluoedd a busnesau gafodd eu heffeithio ar ôl i'r bibell ddŵr fyrstio.
Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, fod yna "rwystredigaeth ofnadwy am yr hyn sydd wedi digwydd" a bod "gwersi i'w dysgu" o ran y ffordd y mae Dŵr Cymru wedi ymateb i'r sefyllfa.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni y bydd cwsmeriaid yn cael ad-daliad o £30 am bob 12 awr heb gyflenwad, tra bydd busnesau yn derbyn £75 am bob 12 awr fel taliad sylfaenol.
Fe fydd proses hefyd lle bydd modd i fusnesau hawlio mwy o arian yn seiliedig ar enillion sydd wedi eu colli.
Mae Dŵr Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru mai creigiau'n pwyso yn erbyn y bibell oedd yn gyfrifol am y difrod.
Roedd y cwmni wedi cadarnhau bod 8,000 o gartrefi wedi colli cyflenwad nos Fercher, a bod hyd at 33,000 o gartrefi mewn perygl o golli eu cyflenwadau.
Er bod y gwaith atgyweirio wedi ei gwblhau, mae Dŵr Cymru yn dweud bod angen sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.
"Mae hon yn brif bibell ddŵr pwysedd uchel, ac rydym mewn cyfnod anodd iawn yn y broses," meddai'r cwmni mewn datganiad.
"Mae angen i ni ail-lenwi'r prif gyflenwad dŵr a'r rhwydwaith dŵr ehangach yn ofalus iawn er mwyn osgoi problemau pellach."
Yn ôl Mr Skates, fe ddylai Dŵr Cymru ailystyried faint o iawndal y maen nhw'n ei gynnig i gwsmeriaid.
"Mae trigolion, cwsmeriaid domestig a busnesau wedi dioddef poen meddwl ofnadwy yn ystod y cyfnod yma," meddai.
"Mae nifer o fusnesau hefyd wedi colli symiau enfawr o arian o ran refeniw.
"Mae'n angenrheidiol fod Dŵr Cymru wir yn ystyried yr iawndal maen nhw'n ei gynnig, ac a oes angen cynyddu'r swm yna yn eithaf sylweddol."
'Angen i Dŵr Cymru fod yn agored'
Ychwanegodd Mr Skates fod y cwmni angen bod yn agored ynglŷn ag unrhyw broblemau gyda'u rhwydwaith, fel bod modd osgoi problemau tebyg yn y dyfodol.
"Mae angen i ni wybod sut gyflwr sydd ar y pibellau," meddai.
"Mae angen i ni wybod os yw'r fath yma o fyrstiau yn bosib yn y dyfodol. Os ydi'r fath sefyllfa yn debygol o ddigwydd eto, yna gallwn ni baratoi ar ei gyfer.
"Os yw'n debygol o ddigwydd eto yna mae angen i ni fuddsoddi mwy wrth foderneiddio ein seilwaith. Ry'n ni yma i gefnogi Dŵr Cymru, ond mae angen i ni wybod."
- Cyhoeddwyd21 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae'r sefyllfa yn dal i gael effaith ar ddigwyddiadau a busnesau yn yr ardal hefyd.
Cafodd digwyddiad Park Run Conwy - oedd fod i gael ei gynnal fore Sadwrn - ei ganslo oherwydd ansicrwydd ynglyn â'r mynediad at doiledau.
Er hyn, bu cannoedd o bobl yn rhan o Ras 10k Twin Piers ym Mae Colwyn fore Sadwrn.
Dywedodd Elwyn Evans, a oedd wedi cymryd rhan yn y ras, fod cyflenwad dŵr ei gartref wedi ei adfer ddydd Sadwrn.
"Da'th o nôl bore 'ma, mae'r dŵr dal yn frown, pwysau isel arno fo, so da' ni ddim yn defnyddio fo rili.
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn dal i "ddibynnu ar boteli dŵr" a does dim modd iddo gael cawod ar hyn o bryd.
Roedd degau o ysgolion a chanolfannau addysg ar gau ddydd Gwener tra bod rhai ysbytai, meithrinfeydd a busnesau hefyd wedi cau am nad oedd ganddyn nhw gyflenwad dŵr.
Dywedodd rhai yn Ninbych fod y cyflenwad dŵr wedi cychwyn dod yn ôl tua phedwar o'r gloch fore Sadwrn.
Bellach mae pedair gorsaf poteli dŵr wedi eu hagor ym Mharc Eirias, Zip World, Maes Parcio West Shore Llandudno a safle Bodlondeb yng Nghonwy.
Mae eglwysi ar draws Conwy hefyd wedi sefydlu canolfannau dŵr brys i gefnogi'r cymunedau lleol.
Fe wnaeth Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, ymddiheuro i'r rheiny sydd wedi eu heffeithio, gan ddisgrifio'r sefyllfa fel "argyfwng sylweddol" nad oedd modd i'r cwmni ei ragweld.
Dywedodd y cwmni ddydd Gwener i'r bibell gael ei difrodi yn sgil pwysau cerrig arni.