Dadorchuddio murlun er cof am 'gawr i'r Adar Gleision'

Mae'r gymuned wedi bod yn helpu i beintio'r murlun ar Ffordd Penarth yn Grangetown
- Cyhoeddwyd
Mae murlun wedi cael ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd er cof am un o gapteiniaid mwyaf poblogaidd yr Adar Gleision.
Chwaraeodd Sol Bamba ran allweddol yn ystod un o gyfnodau mwyaf llewyrchus Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, gan eu helpu i gyrraedd Uwchgynghrair Lloegr yn 2018.
Roedd y cyn-amddiffynnwr yn rheoli tîm Adanaspor yn Nhwrci pan fu farw'r llynedd yn 39 oed, ar ôl brwydr hir gyda chanser.
Dywedodd y cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips - cefnogwr brwd a llais Stadiwm Dinas Caerdydd - fod y murlun "mor addas bo' nhw wedi ei wneud e ar gyfer rhywun oedd yn gawr o ddyn i Gaerdydd".
"Mae e nawr yn gawr ar wal yng Nghaerdydd."

Roedd Sol Bamba gyda Chaerdydd rhwng 2016 a 2021, ac fe ddaeth yn ôl fel is-reolwr am gyfnod yn 2023
Fe chwaraeodd Sol Bamba 118 gwaith i Gaerdydd rhwng 2016 a 2021, gan sgorio 10 gôl.
Bu'n chwarae i nifer o glybiau eraill hefyd ar hyd a lled Ewrop, gan ennill dros 40 o gapiau i'r Traeth Ifori.
Ar ddiwedd tymor 2021-22 fe ymddeolodd o chwarae ac fe gafodd ei wneud yn is-reolwr ar Gaerdydd y tymor canlynol.

Bu farw Sol Bamba yn Awst 2024 yn dilyn brwydr â chanser
Un oedd yn adnabod Bamba yn dda oedd Rhydian Bowen Phillips, sy'n gyhoeddwr i'r clwb yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dywedodd fod y murlun yn "un o'r llunie eiconig 'na o Sol, yn edrych ar y cefnogwyr".
"Fi just yn falch bod rhywbeth fel 'na yn talu teyrnged i fe yng Nghaerdydd," meddai.
"Mae e'n lun eiconig ar gyfer cymeriad eiconig."

Roedd Sol Bamba yn "'neud i chi deimlo fel yr unig berson yn yr ystafell", medd Rhydian Bowen Phillips
"Nawn ni byth anghofio Sol," meddai Rhydian Bowen Phillips.
"O'dd e'n rhywun oedd yn licio mynd mas i'r gymuned i helpu ac i fod yn rhan o'r cefnogwyr 'fyd.
"O'dd wastad gwên gyda Sol ar gyfer unrhyw un ac wedyn oeddet ti'n gwenu yn gweld Sol yn y gymuned."
Ychwanegodd fod Bamba yn "'neud i chi deimlo fel yr unig berson yn yr ystafell".
"O'dd e'n ddyn bythgofiadwy."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2024
- Cyhoeddwyd2 Medi 2024