Profiadau 'erchyll' cleifion yn 'argyfwng' i unedau brys ysbytai

YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae unedau brys ysbytai Cymru "wedi cyrraedd pwynt argyfwng" ac yn "methu gormod o bobl", yn ôl adroddiad newydd gan gorff sy'n cynrychioli cleifion.

Ymhlith y pryderon mwyaf cyffredin mae amseroedd aros hir o hyd at 24 awr ac ardaloedd aros gorlawn, gydag un claf yn disgrifio eu profiad "hollol erchyll" o fod mewn adran frys oedd fel "parth rhyfel".

Dywedodd Llais, gafodd ei sefydlu yn 2023, fod "gwelliannau ar unwaith yn hanfodol" ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod adrannau brys "dan bwysau sylweddol", gan ychwanegu eu bod nhw'n buddsoddi er mwyn i bobl gael gwell mynediad at ofal.

Ym mis Medi fe gyhoeddodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddigwyddiad argyfwng yn dilyn galw uwch ac oedi wrth drosglwyddo pobl i ysbytai dros gyfnod y Nadolig.

Cafodd lefelau uwch na'r disgwyl o achosion ffliw eu beio am gynyddu'r pwysau ar wasanaethau, tra bod undeb meddygon wedi galw am flaenoriaethu achosion brys dros gwtogi rhestrau aros.

Nawr mae adroddiad gan Llais yn dweud bod y "newid yn rhy araf" a bod pobl ddim yn gweld "gwelliannau gwirioneddol", er gwaethaf ymdrechion i wella'r sefyllfa mewn adrannau brys.

Ychwanegodd awduron yr adroddiad bod "bylchau difrifol mewn gofal", yn dilyn 42 ymweliad ag ysbytai ac unedau man anafiadau, ac ar ôl siarad â thros 700 o bobl.

Y gofal ei hun 'yn dda'

Roedd rhain yn cynnwys arosiadau hir mewn coridorau gorlawn, gydag ychydig iawn i'w yfed a'i fwyta, a diffyg cyfathrebu.

Dywedodd un claf anabl yn Ysbyty'r Faenor, Cwmbrân eu bod wedi gorfod eistedd mewn "sedd anghyfforddus" tra'n aros o leiaf 24 awr, a hynny ar ddau achlysur gwahanol.

Un ôl un arall, fu'n glaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, roedd eu profiad yn yr adran frys yn "hollol erchyll".

"Roedd e'n teimlo fel triage mewn parth rhyfel," meddai. "Rydw i wir yn credu y bydd pobl yn marw yn yr ystafell aros."

Uned Ddamweiniau Ysbyty GwyneddFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd cwynion eraill yn cynnwys diffyg gofod hygyrch, gyda sawl ardal aros "ddim yn diwallu anghenion pobl anabl, pobl niwroamrywiol, neu blant".

Oherwydd oedi i ambiwlansys roedd rhai cleifion hefyd yn gyrru eu hunain i'r ysbyty er nad oeddent yn teimlo'n dda, gan gynnwys un dyn a yrrodd i Ysybyty Treforys yn Abertawe er bod ganddo "boen difrifol yn ei frest".

Er i'r adroddiad ganfod fod profiadau pobl unwaith roedden nhw'n cael eu gweld yn "dda ar y cyfan", roedd eu profiad cyffredinol "yn straenus ac yn rhwystredig, ac yn rhy aml yn teimlo'n anniogel".

Maen nhw wedi galw am chwe cham i wella'r sefyllfa, gan gynnwys gweithredu ar y cyd o fewn y GIG, arweiniad ac atebolrwydd clir dros bwy sy'n gyfrifol os nad yw safonau'n cael eu cyrraedd, a lleihau amseroedd aros a gorlenwi.

Fe ddywedon nhw hefyd bod angen sicrhau bod cleifion yn gyfforddus a chydag urddas, y dylai eu hadborth nhw gael ei ddefnyddio'n gynt i wella pethau, a bod angen rhannu arfer da yn well ar draws Cymru.

'Amser gweithredu'

"Mae'r lleisiau rydyn ni wedi'u clywed yn rhoi darlun llwm o system sydd dan bwysau aruthrol," meddai Alyson Thomas, prif weithredwr Llais.

"Er ein bod yn canmol ymroddiad staff gofal iechyd, maent yn gweithio mewn system nad yw'n rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt hwy na'r bobl y maent yn gofalu amdanynt."

Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, cadeirydd Llais, fod "gofal brys yng Nghymru wedi cyrraedd pwynt argyfwng".

"Mae angen atebion brys ar bobl: beth fydd yn gwella pethau, a phwy fydd yn sicrhau bod newid gwirioneddol yn digwydd," meddai.

"Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi nodi egwyddorion cryf, ond ni fydd egwyddorion yn unig yn gwella system mewn argyfwng. Nawr yw'r amser i weithredu."

'Amharod' datrys y broblem

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae adrannau brys yng Nghymru dan bwysau sylweddol, fel gwasanaethau ar draws y DU.

"Rydyn ni wedi buddsoddi £200m eleni i helpu i reoli mwy o bobl yn saff yn y gymuned, osgoi teithiau ambiwlans, derbyniadau ysbyty, ac anfon pobl adref mewn da bryd.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r GIG i wella mynediad i ofal brys. Gall y cyhoedd hefyd gefnogi'r GIG wrth ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion."

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig bod gofal brys "yn colli hanfod ei bwrpas".

"Ni ddylai unrhyw un fod yn aros dros 12 awr, yn sicr nid y miloedd yr ydym yn eu gweld bob mis", meddai James Davies AS.

"Mae llywodraeth Lafur Cymru yn ymddangos yn gwbl amharod i fynd i'r afael â'r sefyllfa."

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Mabon ap Gwynfor fod yr adroddiad yn dangos effaith "25 mlynedd o gamreoli gan Lafur".

"Mae'r adroddiad yn amlinellu fod 'arweinyddiaeth ac atebolrwydd clir' ar goll, sef rhywbeth arall y mae Plaid Cymru wedi amlinellu ein bod am fynd i'r afael ag ef yn ein cynlluniau i roi dechrau newydd i'r GIG," meddai.