Canslo streiciau Prifysgol Caerdydd a dim diswyddo gorfodol yn 2025

Ni fydd y cytundeb newydd o reidrwydd yn effeithio ar gynlluniau tymor hir i dorri swyddi yn y brifysgol
- Cyhoeddwyd
Mae streiciau oedd wedi'u cynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael eu canslo, ar ôl addewid na fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol yn digwydd eleni.
Mae aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) wedi cymeradwyo cytundeb ar ôl trafodaethau rhwng undebau a rheolwyr y brifysgol mewn cyfarfod arbennig ddydd Iau.
Fis diwethaf cyhoeddodd UCU gynlluniau ar gyfer sawl diwrnod o streic a boicot marcio i wrthwynebu colli swyddi.
Yn flaenorol, mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr undebau a'r brifysgol eu bod am weithio mewn partneriaeth er budd staff, myfyrwyr a chymuned ehangach y brifysgol.
Daw'r ymgynghoriad ar gynigion i dorri cannoedd o swyddi a chau rhai adrannau yn y brifysgol i ben yr wythnos nesaf.
Ni fydd y cytundeb newydd yn newid y broses ymgynghori barhaol, gyda chynlluniau terfynol yn cael eu cymeradwyo ar 17 Mehefin - ac ni fydd o reidrwydd yn effeithio ar gynlluniau tymor hir i dorri swyddi.
Mewn diweddariad yn gynharach yn y mis, dywedodd Prifysgol Caerdydd fod cynlluniau i achub yr adran nyrsio yn cael eu hystyried, a'u bod wedi torri ar nifer y swyddi sy'n cael eu colli o 400 i 286 - ar ôl i nifer o staff ddewis diswyddo gwirfoddol.
'Cadarnhaol ac adeiladol iawn'
Ond mae cynigion i gau adrannau eraill - fel cerddoriaeth, hanes yr henfyd ac ieithoedd modern - yn parhau, gyda thoriadau wedi'u cynllunio ar draws sawl adran.
Y gwasanaeth cymodi ACAS wnaeth gadeirio'r trafodaethau yma, oedd hefyd yn cynnwys undebau Unite ac Unison.
Cafodd y trafodaethau eu disgrifio fel rhai "cadarnhaol ac adeiladol iawn".
Yn gynharach yn yr wythnos, cytunodd UCU i atal y gweithredu diwydiannol oedd wedi'i gynllunio ar gyfer dydd Iau - er mwyn cyfarfod gyda'r brifysgol i drafod y prosiect 'Ein Dyfodol Academaidd'.
Mae'r prosiect yn edrych ar ba ddisgyblaethau a phynciau y maen nhw'n eu haddysgu ac yn ymchwilio ynddyn nhw - er mwyn gweld lle gallan nhw wella a newid.
'Ymddiriedaeth yn y Bwrdd wedi'i dinistrio'
Dywedodd llefarydd ar ran UCU Caerdydd: "Mae rheolwyr y brifysgol wedi cael eu gorfodi i eistedd i lawr i drafod yr wythnos hon oherwydd y gwrthwynebiad enfawr gan y staff, y myfyrwyr, y cyhoedd ac yn wleidyddol i'w cynigion am doriadau enfawr.
"Er mwyn osgoi streiciau'r haf a boicot marcio ac asesu, fe wnaethant gynnig gwarant na fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol mewn perthynas â'u cynlluniau ailstrwythuro ar gyfer yr holl staff ym mlwyddyn galendr 2025.
"Wrth wneud hynny gwnaethant fodloni'n llawn ein galw allweddol o dan y mandad gweithredu presennol, ac rydym yn croesawu hynny.
"Ond mae ein haelodau'n dal yn anhapus iawn gyda'r broses ailstrwythuro, a'r ffordd y mae'n cael ei gyflawni.
"Am y rheswm hwnnw, rydym hefyd wedi penderfynu ceisio adnewyddu ein mandad gweithredu diwydiannol pan ddaw'r un presennol i ben.
"Mae ymddiriedaeth a hyder ym Mwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi'u dinistrio, a bydd hyn yn cymryd amser i'w ailadeiladu.
"Rydym yn croesawu'n fawr y dull newydd sy'n pwysleisio'r partneriaeth y mae'r Brifysgol wedi ymrwymo iddo, ac edrychwn ymlaen at gydweithio'n llawer agosach nag yr ydym wedi gallu ei wneud hyd yn hyn.
"Byddwn yn rhyddhau datganiad ar y cyd ynghylch y cytundeb maes o law.
"Mae ein haelodau wedi ennill buddugoliaeth fawr heddiw, ond mae'r problemau sy'n wynebu staff Prifysgol Caerdydd ymhell o fod ar ben. Mae'r frwydr yn parhau."
Dadansoddiad
Mae atgofion o'r streics diwethaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2023 dal yn fyw yn y cof felly bydd yna rhyddhad mawr – yn enwedig ymhlith myfyrwyr sy'n gorffen eu cyrsiau - bod yna gytundeb i atal mwy o darfu.
Roedd y gweithredu yna'n rhan o anghydfod ehangach ar draws y Deyrnas Unedig ond y tro yma mae'r ffrae am gynlluniau penodol y brifysgol i dorri swyddi.
Er bod y cytundeb yn golygu na fydd diswyddiadau gorfodol yn 2025, beth fydd yn digwydd ymhen wyth mis?
Mae'r ymgynghori ar gynlluniau sy'n cynnwys cael gwared ar rai adrannau fel cerddoriaeth a ieithoedd modern yn parhau, gyda'r cynllun terfynol i'w gyhoeddi fis nesa.
Mae dros 1,200 o staff dal yn wynebu'r ansicrwydd o fod 'o fewn sgôp' o gael eu diswyddo.
Felly bydd chwant am fwy o eglurder ar yr un pryd â chroeso i gam sydd efallai'n osgoi argyfwng tymor byr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Ebrill