Dyn eisiau prynu safle tirlenwi i chwilio am Bitcoin gwerth £620m

James Howells
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyn-bartner James Howells wared ddarn o gyfrifiadur, drwy gamgymeriad, yn 2013

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a gollodd gais i erlyn Cyngor Casnewydd er mwyn cael chwilio safle tirlenwi am werth mwy na £620 o Bitcoin yn ystyried prynu'r safle.

Mae'r cyngor yn bwriadu cau safle Docksway, ac adeiladau Fferm Solar ar ran o'r safle, ac mae James Howells wedi cychwyn trafodaethau gyda buddsoddwyr.

Mae Mr Howells, o Gasnewydd, yn honni fod ei gyn-bartner wedi taflu'r gyriant caled (hard drive) a oedd yn cynnwys 8,000 Bitcoin mewn camgymeriad yn 2013.

Bitcoin yw'r arian dychmygol sy'n cael ei ddefnyddio yn y byd cyfrifiadurol ac mae modd ei gyfnewid am nwyddau ar-lein.

Cafodd ei gais yn yr Uchel Lys ei wrthod ym mis Ionawr gyda'r barnwr yn dweud nad oedd "sail resymol" dros ddwyn yr achos ac nad oedd gan Mr Howells unrhyw "obaith realistig" o lwyddo mewn achos llawn.

Mae Mr Howells bellach yn ceisio cael caniatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw yn y Llys Apêl.

"Rwy'n edrych ymlaen at fynd â fy achos i'r Llys Apêl," meddai.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu cau safle tirlenwi Docksway yn y flwyddyn ariannol 2025-26.

"Mae'r safle tirlenwi yn dod i ddiwedd ei oes, felly mae'r cyngor yn gweithio ar gynllun i gau a chapio'r safle dros y ddwy flynedd nesaf," meddai llefarydd ar eu rhan.

Mae'r awdurdod lleol hefyd wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer fferm solar ar ran o'r tir.

"Mae'r newyddion bod y safle'n cau mor fuan yn dipyn o syndod," meddai Mr Howells, gan ychwanegu: "Yn enwedig gan fod y cyngor wedi honni yn yr Uchel Lys y byddai cau'r safle tirlenwi i ganiatáu i mi chwilio yn cael effaith andwyol ar bobl Casnewydd, tra ar yr un pryd roedden nhw'n bwriadu cau'r safle beth bynnag."

Safle tirlenwi
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyngor wedi dadlau nad oedd hi'n bosib archwilio'r safle tirlenwi

Mae'r safle tirlenwi yn dal mwy na 1.4m tunnell o wastraff, ond mae Mr Howells yn meddwl bod yr offer cyfrifiadurol mewn ardal lai sy'n cynnwys tua 100,000 tunnell o wastraff.

Fe glywodd yr Uchel Lys y byddai trwyddedau amgylcheddol yn gwahardd unrhyw ymgais i gloddio'r safle i chwilio am y gyriant caled.

Dywedodd Mr Howells fod y cyhoeddiad am gau'r safle yn golygu ei fod o bellach yn ystyried gwneud cais i'w brynu.

"Mae'n bosib y bydd gennyf ddiddordeb i brynu'r safle tirlenwi", meddai.

"Rwyf wedi trafod y syniad gyda phartneriaid buddsoddiad, mae'r opsiwn ar y bwrdd."

Mae'n galw ar Gyngor Casnewydd i gytuno i ddechrau cynnal trafodaethau am brynu'r safle am bris y farchnad.

Dywedodd Cyngor Casnewydd nad oedden nhw am wneud sylw.

Pynciau cysylltiedig