Cefnogwyr yn 'rhwystredig' yn sgil problemau teithio i'r Swistir

Stadiwm yn Lucerne
Disgrifiad o’r llun,

Bydd merched Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn Euro 2025 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Lucerne brynhawn Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai cefnogwyr sydd ar y ffordd i'r Swistir i wylio tîm merched Cymru yn Euro 2025 yn wynebu trafferthion teithio "rhwystredig".

Fe fydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn erbyn Yr Iseldiroedd yn ninas Lucerne, yng nghanolbarth Y Swistir brynhawn Sadwrn.

Ond mae rhai cefnogwyr wedi gweld hediadau yn cael eu canslo neu eu gohirio yn sgil gweithredu diwydiannol gan weithwyr rheoli traffig awyr yn Ffrainc.

Dywedodd Daniel Davies o'r Rhondda ei fod yn bwriadu hedfan i Basel gyda'i deulu fore Gwener, ond fod yr hediad wedi ei ganslo.

"Ma'r hediad wedi ei ganslo ac o'dd fy mrawd fod ar flight o Gatwick neithiwr hefyd - ond cafodd hwnnw ei ganslo hefyd," meddai wrth raglen Dros Frecwast.

Dywedodd Mr Davies nad oedd o'n siŵr bellach "os fydden ni'n gallu cyrraedd y Swistir".

"Ar hyn o bryd mae'n edrych yn bur debyg na fyddwn ni, achos mae'r opsiynau yn ddrud iawn," meddai.

Ychwanegodd ei fod o a'i deulu mewn gwesty ger Maes Awyr Gatwick ar hyn o bryd.

"Bwriado' ni godi'n gynnar, ond cafon ni wybod neithiwr tua hanner nos fod yr hediad wedi ei ganslo - a dyna ni really."

Mae streicio gan weithwyr rheoli traffig awyr yn Ffrainc wedi arwain at ohirio a chanslo nifer o hediadau ddydd Iau a dydd Gwener.

Yn ogystal â hediadau i ac o Ffrainc, mae gwasanaethau sy'n teithio drwy Ffrainc hefyd wedi eu heffeithio.

Yn ôl y grŵp lobio Airlines for Europe, mae 1,500 o hediadau wedi eu canslo dros gyfnod y streic.

'Teimlo fel Race Across the World'

Esboniodd Mr Davies fod ei frawd hefyd wedi wynebu heriau tebyg: "Mae fy mrawd wedi llwyddo i gael hediad o Fryste, ond mae ei gar e' yn Gatwick – bach yn ddiddorol - mae'n teimlo fel Race Across the World yndyw e'?

"Ni wedi edrych ar sut fydden ni'n gallu cyrraedd yno ond oherwydd yr holl hediadau wedi canslo, mae'n anodd iawn.

"Mae saith ohonom ni i gyd, fi, y wraig, tri o blant a fy mam a 'nhad. O'dd fy mrawd i 'da pump ar hediad nhw hefyd."

Ychwanegodd Daniel fod y sefyllfa'n "rhwystredig", gan eu bod wedi prynu tocynnau, wedi archebu gwesty yn Basel ac yn bwriadu dal trên i Lucerne ddydd Sadwrn.

"Ond gobeithio cawn ni arian nôl gan yr yswiriant – dyna le 'da ni arni," meddai.

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog Cymru wedi wynebu trafferthion teithio hefyd, ond mynnodd y llywodraeth y byddai Eluned Morgan yn cyrraedd Y Swistir mewn pryd.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod angen "ail-drefnu hediad y prif weinidog oherwydd problemau technegol ar yr awyren".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.