Calan Mai: Cychwyn yr haf?
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffotograff o blant yn dawnsio o amgylch polyn Mai yn Rhiwbeina
Roedd 1 Mai yn arfer bod yn ddyddiad pwysig yng nghalendr Cymru.
Dyma ddyddiad Calan Mai sef cychwyn swyddogol yr haf, a byddai llawer o ddathlu ar draws y wlad.
Dyma olwg ar rai o'r traddodiadau ac arwyddocâd y diwrnod.
Dechrau'r haf
Roedd Calan Mai, neu Galan Haf yn cael ei ystyried fel dechrau’r haf ond roedd hefyd yn bwysig i'r ffermwyr oedd yn symud yr anifeiliaid o'r hendre i'r hafod.
Ers talwm byddai'r anifeiliaid yn treulio misoedd y gaeaf yn yr hendref (ar dir isel yn y dyffryn) er mwyn cadw'n gynnes, ac yn treulio'r haf yn yr hafod (ar y mynydd).

Gweithwyr fferm yn Llanwnnen, Ceredigion, tua 1880
Canu penillion
Ben bore ar ddiwrnod Calan Mai byddai pobl y pentrefi a’r ffermydd cyfagos yn mynd o gwmpas y tai'n canu penillion Calan Mai.
Byddent yn dymuno lwc dda a haf ffrwythlon i'w cymdogion ar ôl gaeaf caled.
A fyddwch chi'n dathlu Calan Mai heddiw?
Cadw ysbrydion i ffwrdd
Ar noswyl Calan Mai roedd yr ysbrydion a'r byd go iawn agosaf at ei gilydd yn ôl credoau yr hen Gymry.
Oherwydd hynny, byddai pobl yn rhoi croes mewn calch ar ddrws y tŷ er mwyn atal ysbrydion drwg a gwrachod rhag dod i mewn.
Coelcerth
Roedd cynnau coelcerth hefyd yn draddodiad ar noswyl Calan Mai er mwyn gweld y dyfodol.
Byddai'r goelcerth hefyd yn atal ysbrydion drwg, yn sicrhau haf ffrwythlon ac yn gwarchod anifeiliaid rhag afiechyd.

Y ddraenen wen
Ar Galan Mai byddai pobl yn addurno tu allan eu tai gyda'r ddraenen wen gan ei fod yn arwydd o ffrwythlondeb.
Roeddent yn credu ei fod yn anlwcus i gario'r goeden yma i mewn i'r tŷ.

Dathliadau Calan Mai y Rhyl, 1915
Dawnsio
Roedd canu a dawnsio mewn cylchoedd yn rhan fawr o’r dathliadau.
Byddai'r trigolion yn mynd ati i greu Bedwen Fai, sef polyn wedi ei addurno gyda rhubanau, dail y fedwen a blodau gwyllt.
Yna byddent yn dawnsio o amgylch Bedwen Fai.

Plant yn ne Cymru'n dawnsio o amgylch y polyn ym mis Mai 1960
Geirfa:
Swyddogol / Official
Traddodiadol / Traditional
Arwyddocâd / Significance
Ffermwyr / Farmers
Tir isel / Low land
Dyffryn / Valley
Dymuno / Wish
Ffrwythlon / Fruitful
Noswyl / Eve
Ysbrydion / Ghosts
Credoau / Beliefs
Croes / Cross
Calch / Chalk
Atal / Prevent
Cynnau / To light
Coelcerth / Bonfire
Addurno / Decorate
Afiechyd / Disease
Draenen wen / Maythorn
Anlwcus / Unlucky
Trigolion / Residents
Y Fedwen / Birch
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd19 Mawrth