Naw o lyfrau i'w darllen dros yr haf

- Cyhoeddwyd
Wrth i wyliau'r haf agosáu, dyma ddetholiad o lyfrau i'w mwynhau yn yr haul i ddarllenwyr o bob oed.
Mari Siôn o Gyngor Llyfrau Cymru sy' wedi dewis naw llyfr sy'n hawdd i ymgolli ynddynt:
Plant a phobl ifanc

Dymuniad Dylan: I Ble Aeth yr Athrawon? Joanne Davies
Dyma nofel berffaith i blant sy'n dechrau darllen yn annibynnol am y tro cyntaf.
Mae Dylan yn gandryll wedi i'w athro ei wahardd rhag mynd ar y trip ysgol. Beth yw ei ddymuniad? I bob athro ar y ddaear ddiflannu! Ar ôl i'w ddymuniad ddod yn wir, mae'r plant yn holi ble mae'r athrawon, ond dim ond Dylan sydd â'r ateb...

Gwen ac Arianrhod – Lleucu Gwenllian
Mae Gwen wedi syrffedu ar ei bywyd newydd yng Nghricieth – dydy hi ddim yn ffitio i mewn, mae ganddi hiraeth am Gaerdydd, ac ar ben bob dim arall, dydy hi ddim yn gallu nofio'n ddigon da er mwyn ei chynnwys yn nhîm yr ysgol.
Ond un diwrnod, mae ei byd yn newid. Mae hi'n cyfarfod ag Arianrhod, tywysoges Cantre'r Gwaelod, ar lan y môr.
Nofel graffeg am gyfeillgarwch a galar a fydd yn sicr o swyno darllenwyr ifanc.

Celwydd Noeth – Heiddwen Tomos
Mae bywyd Gwen, sydd ym Mlwyddyn 10, wedi newid am byth ar ôl i luniau ohoni gael eu rhannu ar-lein heb ei chaniatâd. Ond mae cael sylw am lun da yn werth popeth ... yn tydi?
Stori lawn emosiwn ar gyfer yr arddegau sy'n ddilyniant i Heb Law Mam. Mae'r nofel hon yn mynd i'r afael â phynciau anodd fel secstio, cyfeillgarwch ac iechyd meddwl.
Oedolion

Penllechwedd – Rhiannon Thomas
Pentref bach distaw yw Penllechwedd... nes i gorff gael ei ddarganfod yno. Wrth i'r heddlu ymchwilio, mae sawl dirgelwch arall yn dod i'r amlwg. Ni fydd y pentref na'r ardal wledig o'i gwmpas fyth yr un fath eto.
Stori dditectif grefftus, llawn cymeriadau crwn sy'n 'gyfres deledu ar blât i S4C' yn ôl Manon Steffan Ros.

Cath Fenthyg – Myfanwy Alexander
Nofel bryfoclyd wedi ei gosod yng nghefn gwlad canolbarth Cymru yw Cath Fenthyg.
Mae Cath yn wraig fferm ganol oed, yn fam i dri o blant, ac wrthi'n ceisio jyglo bywyd bob dydd. Pan ddaw ei gŵr adref a datgan ei fod yn ei gadael i fynd i fyw at amgylcheddwraig, mae'n rhaid i Cath ddelio â'r canlyniadau.
Doniol a doeth gan y ddihafal Myfanwy Alexander.

Lladd Arth – Kayley Roberts
Mae Nia yn penderfynu mynd am un antur olaf cyn 'setlo i lawr' gan deithio – ynghyd â phedwar gwyddonydd arall – i Ynys Safisk yn yr Arctig i wneud gwaith ymchwil. Maent yn dysgu am aderyn prin sy'n trigo yno, gan newid tirlun ei gynefin yn y broses, ac mae'r ynys yn gwylltio ac yn penderfynu dial.
Wrth i chwarae droi'n chwerw, mae'r gwyddonwyr yn gorfod brwydro yn erbyn yr oerni, yr unigrwydd, eu teimladau… a rhywbeth llawer iawn mwy peryglus.

Y Tŵr – Rebecca Thomas
Dyma nofel gampws, ddystopaidd sy'n dychanu'r Gymru gyfoes.
Dilyna'r stori Dr Heledd Owen, darlithydd Cymraeg sy'n symud i safle newydd Y Tŵr, y brifysgol mae'n gweithio iddi. Mae cyfrinachau tywyll yn y nendwr modern a rheolau newydd sy'n rhaid eu dilyn.
Dyma gyfundrefn sy'n caniatáu i rai ddringo wrth i eraill ddioddef – ac mae pris i'w dalu er mwyn aros yn y gêm.

Atgofion drwy ganeuon: Llechan yn y Gwaed – Gai Toms
Edrych ymlaen i weld Anweledig ar lwyfan y maes nos Wener ola'r Eisteddfod? Dyma damaid i aros pryd! Gai Toms sy'n adrodd ei hanes drwy ei ganeuon: o'i fagwraeth yn Nhanygrisiau, ei ddyddiau coleg, i'w daith gerddorol gyda'r grwpiau Anweledig a Brython Shag, ac fel artist unigol.
Wrth fyfyrio ar y profiadau sydd wedi llywio'i daith, mae'n rhannu'r teimladau a'r weledigaeth sy'n gefndir i rai o'i ganeuon mwyaf adnabyddus.

Casa Haf – Rhian Cadwaladr
Os byddwch chi'n aros adre'r haf hwn, Casa Haf yw'r gyfrol i chi! Dyma gasgliad hardd o ryseitiau hafaidd hawdd eu dilyn, o fwydydd picnic i bwdinau blasus.
Yn clymu'r gyfrol ynghyd mae pytiau o atgofion difyr gan Rhian am hafau ei phlentyndod, a phlentyndod ei phlant, yn ogystal â lluniau a fydd yn tynnu dŵr o'ch dannedd gan y ffotograffydd Kristina Banholzer.
Mae'r llyfrau hyn ar gael o'ch siop lyfrau leol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd8 Mehefin
- Cyhoeddwyd29 Mehefin