'Bydd newid polisi cludiant ysgol yn peryglu plant bregus'

Sam ac Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam yn poeni am ei mab Owen a fydd yn gorfod cerdded o'u cartref "ar ben mynydd" i'w ysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp o rieni'n cyhuddo un o gynghorau de Cymru o beryglu'r plant mwyaf bregus.

O fis Medi 2025, dim ond plant sydd yn byw dros dair milltir o'u hysgol uwchradd fydd yn cael cludiant yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Ar hyn o bryd, mae pawb sy'n byw dros ddwy filltir o ysgol yn cael cymorth.

Dywedodd ymgyrchwyr y gallai olygu bod plant yn teithio am ddwy awr pob diwrnod, a fyddai'n eu blino'n lân ac yn cael effaith ar eu haddysg.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cydnabod y bydd y newid yn amhoblogaidd ond bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn wyneb heriau ariannol sylweddol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "cydnabod y penderfyniadau anodd y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud."

'Dyw'r daith ddim yn ddiogel'

Mae Sam, 34, sy'n fam sengl i ddau o blant, ymhlith y rhieni a fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.

Mae gan ei mab 12 oed, Owen, epilepsi ac anhwylderau niwrolegol eraill.

Dywedodd y byddai'n cymryd dwy awr i Owen gerdded o'u cartref i Ysgol Gyfun Aberpennar.

"Rwy'n byw ar fynydd - dyw'r daith i'r ysgol ddim yn ddiogel," meddai. "Hoffwn pe bai'r person sy'n cynllunio'r polisi hyn yn dod i gerdded gydag Owen i'r ysgol.

"Does dim croesfannau, mae'n dywyll, mae'r palmentydd yn gul neu mewn mannau does dim rhai o gwbl, a does dim trafnidiaeth gyhoeddus yn lle rydyn ni.

"Mae'n bryder mawr."

Ychwanegodd: "Byddai'n rhaid iddo adael am yr ysgol am 06:30. Mae Owen yn meddwl y byddai'n cymryd dwy awr iddo gyrraedd yr ysgol."

Dywedodd y grŵp ymgyrchu, Achub Cludiant Ysgol RhCT, y byddai'r gost yn taro teuluoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Dywedodd Tina Collins o'r grŵp eu bod yn bwriadu protestio y tu allan i swyddfeydd y cyngor ym Mhontypridd ddydd Sadwrn gan ddweud bod y toriadau'n "beryglus".

"Does dim ystyriaeth am y traffig ychwanegol ar y ffyrdd, na thlodi'r teuluoedd sy'n methu fforddio'r cludiant," meddai Ms Collins.

"Mae'n £45 y mis i un plentyn ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i'r ysgol.

"Does unman iddyn nhw newid. Mae rhai ohonyn nhw'n cario offerynnau neu cit ymarfer corff - does dim disgwyl iddyn nhw gario offer tywydd gwlyb hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tina Collins ei bod yn deall angen y cyngor i wneud arbedion, ond mae hi'n ofni y bydd y newid polisi'n taro'r tlotaf yn bennaf

Ychwanegodd Ms Collins y gallai plant fod yn cerdded hyd at dair milltir cyn dechrau'r diwrnod ysgol.

"Mae rhieni'n gweithio - gall y cyngor ddim disgwyl iddyn nhw ollwng a chodi eu plant bob dydd," meddai.

"Rwy'n deall bod yn rhaid i'r cyngor wneud arbedion ond mae yna lawer o bryder gan rieni sy'n ofni na fyddant yn gallu cael eu plant i'r ysgol ac y bydd y polisi yn taro'r tlotaf galetaf.

"Mae'r tywydd yng Nghymru yn wlyb hefyd - os yw plentyn yn cerdded yn y tywydd gawson ni ddydd Mercher, bydden nhw yn yr ysgol mewn dillad gwlyb drwy'r dydd."

'Bu bron i un car daro fy mhenelin'

Mae Laura hefyd yn rhan o'r ymgyrch ac mae hi'n dweud y bydd newid y polisi'n effeithio ar 2,700 o blant yn y sir.

Bydd yn rhaid i'w meibion, Ioan ac Ieuan, gerdded 2.8 milltir i'r ysgol, ac mae hi'n dweud ei bod yn poeni am effaith hynny ar eu haddysg.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Laura bod ei mab 'yn flinedig iawn wrth gyrraedd yr ysgol' gan bod taith gerdded dros awr o hyd o'u cartref

"Dydi rhai o'r palmentydd ddim yn saff ac maen nhw'n gul," meddai.

"Fe gymerodd hi awr a 10 munud i fi a fy mab i gerdded i'r ysgol a dyw hi ddim yn ddiogel - bu bron i un car daro fy mhenelin.

"Roedd fy mab yn flinedig iawn erbyn i ni gyrraedd giât yr ysgol.

"Ni fydd yn gallu canolbwyntio yn yr ysgol drwy'r dydd ar ôl hynny."

'Heriau cyllideb sylweddol'

Fe gytunodd cabinet y cyngor Llafur ar y cynigion ym mis Mawrth - un o'r "penderfyniadau anodd" roedd yn rhaid eu cymryd i sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau "mewn modd cynaliadwy yn ariannol", meddai llefarydd mewn datganiad.

Dywedodd y bydd plant oedran cynradd sy'n byw o leiaf filltir a hanner o'u hysgolion yn parhau i gael cludiant am ddim "sy'n fwy hael na'r hyn sy'n ofynnol" ym Mesur Teithio Llywodraeth Cymru.

Mae'r cyngor, meddai, "yn cydnabod na fydd y penderfyniad yma'n boblogaidd ymhlith y rheiny fydd yn cael eu heffeithio" a'u bod, fel bob cyngor arall yn y DU, "yn wynebu heriau cyllidebol sylweddol".

Ychwanegodd bod cost cludiant o'r cartref i'r ysgol "wedi chwyddo yn y blynyddoedd diweddar" - o £8m yn 2015 i dros £15m yn 2023/24.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu cyllid ar gyfer cludiant ysgol drwy'r Grant Cynnal Refeniw i awdurdodau lleol a all flaenoriaethu eu gwariant yn unol â'r angen lleol.

"Rydym yn cydnabod y penderfyniadau anodd y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud o ran dyrannu adnoddau."

Pynciau cysylltiedig