'Sut mae cartrefi gofal yn mynd i barhau' gyda chynnydd treth?
- Cyhoeddwyd
Fe allai cartrefi gofal gau a meddygfeydd roi cytundebau yn ôl i fyrddau iechyd os yw Llywodraeth y DU yn parhau â’u cynllun i godi treth yswiriant gwladol i gyflogwyr, yn ôl undebau.
Fe gafodd y gyfradd i gyflogwyr ei chodi i 15% yn ystod y gyllideb fis diwethaf, ac er na fydd yn effeithio ar y gwasanaeth iechyd mae meddygfeydd, hosbisau a chartrefi gofal wedi eu heithrio ac felly yn gorfod talu.
Mae undebau'n rhybuddio y bydd ‘na lai o wasanaethau, gan alw ar Lywodraeth y DU i wneud tro pedol.
Yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth roedd newid cyfraniadau i’r dreth yn “benderfyniad anodd” ond angenrheidiol er mwyn ail osod sylfeini.
'Lle mae pobl yn mynd i fyw?'
Mae Cartref Gofal Bryn Seiont yng Nghaernarfon yn gartref i 107 o breswylwyr a thros 240 o staff.
Mae’r cartref yn amcangyfrif y gallai’r cynnydd mewn yswiriant gwladol olygu cost o £75,000 y flwyddyn.
“Ma’n £75,000 i ni y flwyddyn ond i’r cwmni gyd [sydd â chartrefi eraill], 'da chi’n son am dros £700,000”, meddai rheolwraig y cartref, Sandra Evans.
“Sut mae cartrefi bach yn mynd i gario mlaen?”
“Ma’n mynd i olygu y bydd cartrefi yn cau ac mae hynny’n mynd i gael effaith mawr ar yr ysbytai... mae rheiny yn llawn dop ar y funud felly lle mae pobl yn mynd i fyw?”
Dydy’r gwasanaeth iechyd fel cyflogwr ddim yn gorfod talu’r cynnydd mewn yswiriant gwladol, ond dadlau mae Llywodraeth y DU bod meddygfeydd, hosbisau a chartrefi gofal yn gwmnïau preifat ac y dylen nhw dalu.
Mae hynny hefyd yn wir am elusennau a’r trydydd sector.
Wrth ymateb mae undeb feddygol y BMA yn galw am dro pedol, gan ddweud eu bod nhw’n amcangyfrif y bydd y cynnydd yn dod ar gost o £20,000 i bob meddygfa.
“Yr unig opsiwn fydd gyno ni dan amgylchiadau fel hyn ydy 'neud colled”, meddai Dr Phil White, llefarydd ar ran yr undeb.
“A’r unig opsiwn wedyn fydd rhoi’r contract yn ôl i’r byrddau iechyd ac mae hyn wedi digwydd yn aml dros Gymru ac yn arbennig yng ngogledd Cymru."
Mae’r BMA a Fforwm Gofal Cymru yn rhybuddio bod ergyd driphlyg i’r sector gyda chynnydd yswiriant gwladol ar y gweill, ond hefyd cynnydd isafswm cyflog a'r phenderfyniad i ostwng y trothwy mae yswiriant gwladol yn cael ei dalu ar gyflogau.
Yn ôl Sandra Evans o gartref Bryn Seiont mae’r newidiadau yn ergyd arall i’r sector wedi sawl blwyddyn heriol.
“Ma’n draining”, meddai.
“Ma' bob dim yn mynd fyny, mae costau staff wedi mynd fyny ac yn teimlo bod o just yn constant battle."
Dweud mae Llywodraeth y DU eu bod nhw wedi gwneud penderfyniadau "anodd er mwyn trwsio’r sylfeini ac i sicrhau bod cynnydd o £22bn i’r gwasanaeth iechyd” ledled Prydain.
“Dyw’r cynnydd mewn cyfraniadau treth ystyriant gwladol i gyflogwyr ddim yn dechrau tan Ebrill y flwyddyn nesaf, ac mi fyddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion ar gyllid maes o law."
Ychwanegodd llefarydd bod rhagor o gyllid sylweddol ar y gweill i Lywodraeth Cymru yn dilyn y gyllideb a bod maes iechyd wedi’w ddatganoli.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref
- Cyhoeddwyd30 Hydref
- Cyhoeddwyd12 Mehefin