Ystyried cynnig i roi codiad cyflog o 6% i wleidyddion Senedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Gallai Aelodau o'r Senedd gael codiad cyflog o 6% o dan gynigion newydd gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher.
Byddai'r cynlluniau'n dod â chyflog AS cyffredin i £76,380 yn 2025-26, i fyny o £72,057.
Mae cyflogau'r gwleidyddion yn cael eu pennu gan y bwrdd taliadau, sy'n annibynnol o Senedd Cymru.
Bydd y codiad cyflog arfaethedig nawr yn destun ymgynghoriad a fydd yn cau ar 19 Chwefror.
'Gwerth am arian'
Dywedodd Dr Elizabeth Haywood, cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, fod yr adolygiad diweddaraf wedi canolbwyntio ar "sicrhau bod Aelodau'n cael eu talu'n deg" a bod hynny'n "cynrychioli gwerth am arian".
Mae codiadau cyflog blynyddol ar gyfer Aelodau o'r Senedd wedi'u capio ar 3% ers dechrau tymor presennol y Senedd yn 2021.
Mewn cyferbyniad, gwelodd ASau yn San Steffan eu cyflogau yn codi 5.5% fis Ebrill diwethaf, tra bod Aelodau Senedd yr Alban wedi derbyn codiad o 6.7% ar gyfer 2024-25.
O dan gynigion y bwrdd taliadau, bydd uwch wleidyddion ym Mae Caerdydd - gan gynnwys cadeiryddion pwyllgorau, arweinwyr grwpiau a gweinidogion y llywodraeth - yn cael codiad ychwanegol.
Er enghraifft, byddai'r prif weinidog yn gweld ei chyflog ychwanegol yn codi i £90,701 gan ddod â chyfanswm ei chyflog i £167,081.
Byddai arweinwyr grŵp yn gweld eu cyflog llawn yn cynyddu hyd at uchafswm o £119,343, yn dibynnu ar faint o Aelodau o'r Senedd sydd gan eu plaid ym Mae Caerdydd.
Byddai Llywydd y Senedd yn gweld ei chyflog yn codi i gyfanswm o £125,310, a byddai uwch gadeiryddion pwyllgorau yn cael cyflog llawn o £91,894.
Fis Medi diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru godiad cyflog o rhwng 5-6% ar gyfer mwy na 100,000 o weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, roedd cyfradd chwyddiant y DU yn 2.6% ym mis Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl