'Antur o gwmpas Awstralia mewn campervan ar ben fy hun'
- Cyhoeddwyd
"Roeddwn i'n mynd i ddod i Awstralia ers mod i'n 18 ac oedd o'r amser cywir rŵan. Dwi wedi dod yma i weithio ond rili i gael antur."
Roedd Mae Morgan o Landrillo, Corwen, yn benderfynol o gael antur yn 2024. Ar ôl symud adref i gynilo arian wedi iddi fod yn gweithio fel nyrs yn Rhydychen, ei breuddwyd oedd mynd i Awstralia i weithio ac i deithio.
A dyma wnaeth hi ar ddiwedd 2024 pan deithiodd o gwmpas Awstralia mewn campervan ar ei phen ei hun.
Ar ôl hedfan i Brisbane dechreuodd Mae gynllunio'r antur, fel wnaeth hi esbonio ar raglen Caryl ar Radio Cymru: "Mi wnes i gychwyn yn y dwyrain a mynd i fyny i Cairns ar fws a wedyn meddwl, os dwi'n fflio i Darwin dwi'n gallu mynd lawr i Adelaide, lawr canol Awstralia a gyrru a neud bach o daith ohono.
"Mae Awstralia yn llawn backpackers a phobl yn gweithio felly 'nes i ddysgu wrthyn nhw beth oedd y peth iawn i neud.
"Yng nghanol y wlad mae'r Stuart Highway ac yn y gorffennol oedd o'n cael ei ddefnyddio am telegrams yn mynd i fyny ac i lawr. Wedyn 'nath nhw neud y ffordd syth yma. Felly o'n i'n meddwl, mae hynny yn ecseiting."
Y daith
Cyrhaeddodd Mae yn Awstralia ym mis Medi, gan benderfynu teithio am 3-4 mis cyn cychwyn gweithio yno fel nyrs am gyfnod.
Ar ôl hedfan i Brisbane roedd rhaid dal bws Greyhound i Darwin ac yna cychwynnodd ar ei thaith mewn campervan ar hyd y Stuart Highway i lawr i'r de.
Ac mae'r rheswm am ddewis campervan yn mynd yn ôl i blentyndod Mae, fel mae'n esbonio: "Pan o'n i'n ifanc o'n i'n caru Scooby Doo ac maen nhw'n gyrru y mystery machine. Mae'n rhad yma i gael nhw felly 'nes i neud y daith mewn mystery machine."
Faint o bellter sy', felly, rhwng Darwin a Adelaide?
Meddai Mae: "'Nes i fynd i ffwrdd o'r ffordd a 'nes i neud 5800km. Mae'n bell.
"Naill ochr i'r ffordd syth mae 'na lot i weld - mae 'na lefydd fel y National Park yn Kakadu.
"Mae 'na lot o blanhigion a lot o anifeiliaid!
"Dwi wedi gweld 2-3 neidr. Dwi'n well 'da'r creepy crawlies na o'n i'n meddwl. Dyw nhw ddim isio cyfarfod gyda ti felly jest cario mlaen.
"O'n i'n ofnus yn cerdded yn y bush achos mae na lot yno."
Ond y perygl mwyaf oedd y ffaith fod 'na bellteroedd mawr rhwng trefi – ac hefyd dim signal ffôn – felly roedd rhaid i Mae baratoi'n drylwyr gan ei bod ar ei phen ei hun, fel mae'n esbonio: "O'n i'n gorfod cael bwyd am 2 wythnos. Yn y llefydd mawr mae 'na siopau ond rhag ofn ti'n gorfod cael 2 wythnos o fwyd.
"Ac oedd pawb yn dweud dŵr – mae dŵr yn fwy pwysig na bwyd. O'n i'n cario 10 litr o ddŵr bob amser. Ti'n gorfod meddwl am y campervan hefyd a beth os mae'n rhy boeth...
"Yn Darwin oedd o'n 45 degrees felly ti'n gorfod yfed un litr o ddŵr am bob awr chi tu allan."
Beth os oedd rhywbeth yn mynd o'i le ar y fan?
Meddai Mae: "Dwi'n gwybod sut i newid teiar ac os mae'r levels yn anghywir dwi'n gallu fixeo hynny. Os fydden i mewn tref fydden i'n gallu ffonio rhywun."
Ar cychwyn y daith roedd y campervan yn dangos 300,000 o km ar y cloc ond 'nath hynny ddim poeni Mae: "Doedd yr air conditioning ddim yn gweithio felly oedd y ffenestri ar agor. Dwi'n caru pethau hen ddo – os ydy nhw'n gweithio maen nhw'n iawn."
Ond roedd y nosweithiau yn fwy heriol: "Yn y noson gyntaf o'n i ddim yn cysgu – oedd 'na anifeiliaid a sŵn wahanol. Ond ar ôl hynny mae jest yn normal. Mae rhywbeth yn eich ymennydd yn newid a chi'n gorfod cysgu.
"Dwi'n hoffi dysgu am bethau eraill."
Beth, felly, yw'r antur nesaf? Ar ôl gorffen y daith yn Rhagfyr aeth Mae yn ôl i Brisbane i weithio fel nyrs. A'r antur nesaf yw Zeland Newydd yn Chwefror.
Cyngor Mae i unrhyw un sy'n ystyried teithio
"Mae pawb yn gallu neud o ond chi'n gorfod planio. Dwi wedi cyfarfod lawer o bobl sy' wedi dod am flwyddyn a ddim yn gwybod beth maen nhw isho neud. Os ti'n neud rhywbeth fel hwn neu unrhyw antur, planiwch a chymryd yr amser i weld popeth.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2024