Tân gwyllt wedi 'saethu at dorf a tharo pobl' yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni'n dweud bod eu plant wedi “dychryn” ar ôl i dân gwyllt saethu i gyfeiriad y dorf mewn digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin nos Fawrth.
Roedd plant yn sgrechian, meddai pobl leol, wrth i’r gwreichion “dasgu tuag at a dros y dorf” yn Neuadd Mynyddygarreg ger Cydweli.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am tua 19:30 ond doedd dim angen i griw fynychu.
Mae'r trefnwyr wedi cael cais am sylw.
'Anhrefn llwyr'
Dywedodd un rhiant, Danielle fod ei phlant, Sofia-Mai, pump, a Steffan, wyth, yn eistedd ym mlaen y dorf pan ddechreuodd y tân gwyllt “saethu tuag at y dorf a tharo pobl”.
"Roedden nhw wedi dychryn. Roedd yn llawn plant yn sgrechian o'n cwmpas, gan gynnwys fy rhai i," meddai.
“Fe lwyddon ni o’r diwedd i gael lle i fynd allan o’r dorf ond hyd yn oed pan oedden ni allan roedden ni’n gallu gweld ei fod yn dal i ddigwydd.”
Dywedodd fod ei gŵr, Emyr, wedi cael ei daro yn ei ysgwydd a bod gwreichion wedi glanio ar ei mab.
“Does neb mewn cysylltiad, hyd yn oed tra oedd yn digwydd a phobl yn sgrechian.
"Dydw i ddim yn gwybod pam y bydden nhw’n parhau yn lle dweud wrth bobl am adael.”
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd mam arall, Rhian, fod ei thri phlentyn wedi cael eu hysgwyd ar ôl y digwyddiad.
"Roedd yn rhaid i mi daro côt fy mab ar ôl iddo gael ei fwrw ger ei wddf,” meddai.
“Roedden nhw’n dod tuag aton ni, doedden ni ddim yn gwybod ble i droi, felly fe wnaethon ni ruthro i’r cefn.
"Roedd yn anhrefn llwyr. Fyddan nhw byth eisiau mynd i weld tân gwyllt eto."
Dywedodd nad oedd unrhyw un wedi cysylltu o’r Neuadd nac wedi ymddiheuro ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi cael galwad am 19:26 ddydd Mawrth “ar ôl i dân gwyllt hedfan yn llorweddol dros dorf”.
“Fodd bynnag, nid oedd angen unrhyw griwiau i fynychu ac nid oedd angen unrhyw gamau pellach.”
Dywedodd rhiant arall, Alan Wall, fod cefn côt ei ferch wedi'i daro gan wreichionen tân gwyllt, a bod ei bartner wedi'i tharo yn ei hwyneb.
“Welon ni'r un cyntaf yn sgimio ar draws y gwair a'n ffrwydro o'n blaenau," meddai.
"Wedyn roedd yna rai eraill yn dod. Fe wnes i gydio yn fy merch a'i thynnu i mewn ataf oherwydd roedden nhw'n bownsio ym mhobman.
“Dyna pryd cafodd fy mhartner ei tharo yn ei hwyneb.”
Dywedodd iddo weld dawnsiwr a oedd yn y digwyddiad yn dod draw at blentyn gerllaw i weld os oedd hi'n iawn.
“Ni welais unrhyw drefnwyr yn dod draw. Roedd 'na lawer o dân gwyllt a aeth i ffwrdd yn y dorf. Roedd o'n dal i fynd, ac roedd pobl yn rhuthro i adael.”
Dywedodd Cyngor Sir Gâr nad ydyn nhw wedi derbyn cwynion am y digwyddiad, ac na fyddai angen trwydded gan yr awdurdod am ddigwyddiad o'r fath.