Diwedd cyfnod i fwyty'r Garden Hotel ar ôl 40 mlynedd

Andrew ac Alice Lui
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alice ac Andrew Lui wedi bod yn rhan o gymuned Bangor ers 40 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl 40 mlynedd yn rhedeg bwyty Cantonaidd y Garden Hotel ym Mangor, mae'r perchnogion wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi'r gorau iddi – go iawn y tro yma.

"Mi drïon ni ymddeol naw mlynedd yn ôl," meddai Alice Lui, y prif gogydd, sy'n 71 mlwydd oed.

"Ar ôl tri mis, doedden ni ddim yn gwybod beth i'w wneud efo'n hunain, felly fe wnaethon ni ailagor."

Ond mae plant Alice ac Andrew wedi eu perswadio unwaith eto eu bod wedi gweithio'n ddigon caled ac yn haeddu ychydig o amser hamdden.

'Bangor yw adref'

Mae'r cwpl eisoes wedi lleihau eu dyddiau agor ac yn cau'n gyfan gwbl ar 15 Chwefror gan fod Andrew ac Alice yn mynd nôl am fis i'w gwlad enedigol, Hong Kong, i fod gyda'u hail ferch, Pamela, sy'n byw yno ac ar fin geni ei thrydydd plentyn.

Ar ôl dod nôl fe fyddan nhw'n rhoi cynnig ar ymddeol; dyna'r bwriad beth bynnag.

"Mae'n anodd achos mae'r ddau ohonon ni'n workaholics," cyfaddefa Alice.

Mae eu merch hynaf, Sandra, yn gweithio gyda nhw yn y busnes ac fe fydd hi'n parhau i redeg gwesty'r Garden.

"Mae'n mynd i fod yn anodd iawn eu cadw nhw allan o'r gegin a'r bwyty," meddai.

Garden HotelFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Garden Hotel; calon y gymuned Chineaidd ym Mangor ers degawdau

Mae gan Andrew ac Alice chwech o ferched i gyd: Sandra sy'n magu dau o blant ym Mangor ar ôl graddio mewn ieithoedd; Pamela sy'n radiograffydd yn Hong Kong; Debra sy'n therapydd; Monica sy'n gydlynydd gofal ym maes llawdriniaethau plastig yng Nghanada; Olivia sy'n athrawes yn Abu Dhabi a Portia sy'n syrfëwr.

"Mae fel ddoe," meddai Andrew, 70, wrth gofio sefydlu'r busnes yn 1984. "Mae wedi mynd mor gyflym.

"Dwi'n cofio'r tro cyntaf imi ddod i Fangor, yn ddieithryn llwyr, a rŵan Bangor ydi fy nghartref.

"Bob tro dwi'n mynd i ffwrdd, unrhyw le yn y byd, hyd yn oed i Hong Kong, pan dwi'n dod nôl, mi fydda i bob amser yn meddwl, dwi'n saff yma, dyma fy nghartref.

"Mae gan Gymru a China rhywbeth yn gyffredin – mae'r ddau'n blant i'r ddraig. Dim ond dwy ddraig sydd yn y byd i gyd – y ddraig Chineaidd a'r ddraig Gymreig.

"Rydyn ni fel brodyr! Pe bai economi Cymru fel China fydden ni'n iawn!"

O Hong Kong i Bwllheli

Daeth Andrew i Brydain yn 16 oed i gael addysg ac astudiodd radd mewn peirianneg cemegol ym Mhrifysgol Newcastle.

Merch ifanc 16 oed oedd Alice hefyd pan adawodd hi ei chartref yng nghefn gwlad Hong Kong ac ymgartrefu ym Mhwllheli.

Roedd Hong Kong ar y pryd yn rhan o'r Deyrnas Unedig a llawer yn dod i Brydain i gael addysg neu fywyd gwell.

"Pan ddes i draw, doedd hi ddim yn hawdd achos doeddwn i'n gwybod dim Saesneg [na Chymraeg]," meddai Alice.

"Fis Medi 1970 oedd hi ac ro'n i'n oer iawn, dwi'n cofio gwisgo dwy got yn y bore."

Sandra, Andrew ac Alice
Disgrifiad o’r llun,

Sandra gyda'i rhieni, Andrew ac Alice

Amaethwyr oedd ei theulu nôl yn Hong Kong a'i thad oedd meddyg esgyrn y gymuned wledig lle roedden nhw'n byw, ymhell o unrhyw siopau ac ysbytai.

Byddai pobl yn dod ato i ofyn iddo'u gwella o bob math o anhwylderau gyda meddyginiaeth draddodiadol.

Pan ymunodd â'r teulu i fyw yng Nghymru, mae Alice yn cofio y byddai ei thad yn mynd i draeth Pwllheli i chwilio am gregyn gleision â pherlau ynddyn nhw i'w malu'n fân i wneud meddyginiaeth.

Heb Saesneg na Chymraeg, doedd dim modd i Alice gael swydd heblaw helpu ym mwyty lleol ei brawd i ddechrau.

Cymerodd gwraig leol hi dan ei hadain a dysgu Saesneg, ac ychydig o Gymraeg, iddi. Bu'n gweithio fel gweinydd mewn bwyty ym Manceinion hefyd.

Cyfarfu ag Andrew adre ym Mhwllheli pan ddaeth y myfyriwr ifanc i'r dref lan môr i weithio dros wyliau'r haf i ennill ychydig o bres.

Ar ôl priodi fe brynon nhw hen dafarn y Gwynedd Hotel yn 1 Stryd Fawr Bangor, dafliad carreg o'r orsaf drenau, a chychwyn eu busnes.

Penderfynodd Alice ei bod am ddysgu'n iawn sut i goginio bwyd Chineaidd o safon, i gynnig bwyd oedd yn well na'r hyn oedd i'w gael mewn bwytai tecawê gorllewinol lleol.

Felly, a hithau bum mis yn feichiog gyda'i thrydydd plentyn, i ffwrdd â hi i fwytai Hong Kong i ddysgu coginio bwydydd traddodiadol Hong Kong, Malaysia a Singapore, diolch i'r cysylltiadau oedd gan ei thad-yng-nghyfraith, dyn busnes yn Hong Kong.

"Ro'n i'n lwcus iawn," meddai Alice, "a phan ddes i nôl ro'n i'n gallu creu bwyty o ansawdd uchel."

Hong KongFfynhonnell y llun, Marci Marc ar Pixabay
Disgrifiad o’r llun,

Dysgodd Alice sut i goginio yn rhai o fwytai gorau Hong Kong

Mae Alice wedi rhoi ei stamp ei hun ar y ryseitiau dros y blynyddoedd hefyd ac addasu i'r chwaeth Orllewinol.

"Dwi'n gwneud popeth fy hun," meddai Alice, "dwi ddim yn prynu unrhyw sawsiau parod, dwi'n eu gwneud fy hun efo perlysiau - dyna pam maen nhw'n blasu'n well."

Maen nhw'n pwysleisio nad ydyn nhw'n defnyddio unrhyw liw na blas artiffisial, gan ddefnyddio orenau a lemonau ffres, weithiau mefus neu binafal hefyd, i wneud eu pryd mwyaf poblogaidd, cyw iâr melys a sur (sweet and sour).

"Yn anffodus doedd y bobl leol yma ddim eisiau gwybod i ddechrau; fe gymerodd amser, tair blynedd gyfan, i addysgu pobl beth oedd bwyd Chineaidd go iawn," meddai Alice."

Ffeits yn y pyb ac agor ysgol

Mae Sandra yn cofio'r 80au fel adeg pan fyddai "Dad yn rhedeg y dafarn ar un ochr a Mam yn rhedeg y bwyty".

"Ar ôl tua 12 mlynedd dywedodd Mam mai digon yw digon achos roedden ni'r merched yn tyfu i fyny ac roedd y dafarn reit fywiog bryd hynny a doedd Mam ddim eisiau inni weld y ffeits yn y pyb!

"Felly fe wnaethon nhw ganolbwyntio ar y bwyty a daeth yn fwyty mwy, ac yna'n westy hefyd."

Dros y blynyddoedd rhoddodd Alice ac Andrew bwyslais mawr ar gig da, lleol, y cynhwysion gorau a choginio iach.

Eu meddylfryd ydi mai dim ond bwyd y bydden nhw fel teulu yn ei fwyta y bydden nhw'n ei roi i'w cwsmeriaid hefyd.

"Mae ein cwsmeriaid rheolaidd fel teulu i ni," meddai Andrew, "rydyn ni'n hoffi eu trin fel teulu nid fel cwsmer."

Ysgol Tsieineaidd Gogledd CymruFfynhonnell y llun, Ysgol Chineaidd Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ar y penwythnos roedd cyfle i blant lleol ddysgu iaith a diwylliant China

Yn ogystal â magu chwech o ferched ac adeiladu busnes teuluol llwyddiannus gydag enw am fwyd o safon, mae'r cwpl wedi bod yn rhan allweddol o sefydlu a rhedeg ysgol Chineaidd gyntaf gogledd Cymru a chymdeithas Chineaidd gogledd Cymru.

Roedd Andrew yn ysgrifennydd y gymdeithas am 40 mlynedd ac yn bennaeth ar yr ysgol am 35 mlynedd.

Mae addysg yn hynod o bwysig iddyn nhw ac roedden nhw am sicrhau bod eu merched yn dysgu'r iaith ac am ddiwylliant China, yn ogystal â Saesneg a Chymraeg.

Fe fydden nhw'n eu gyrru'r holl ffordd i Fanceinion bob dydd Sul am wersi cyn i'r gymuned ddod at ei gilydd i agor yr ysgol, yn y Garden i ddechrau, cyn iddi dyfu i dros 100 o blant yn ei anterth.

Bu'n rhaid cau'r ysgol wedi i'r pandemig adael ei ôl ar y niferoedd.

Dros y blynyddoedd hefyd mae ysgolion a sefydliadau lleol wedi troi at y teulu i gael eu dysgu am arferion a thraddodiadau'r Flwyddyn Newydd Chineaidd gan gynnwys sut i wneud dawns y llewod, sy'n hebrwng lwc dda i mewn efo'r flwyddyn newydd.

Y teulu yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn 2024Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y teulu at ei gilydd i ddathlu'r Flwyddyn Newydd Chineaidd yn 2024

Yn gynharach yn y mis, fe gafodd y cwpl wobr Arwyr y Gymuned am eu cyfraniad i'w cymuned.

Maen nhw wedi hel miloedd o bunnau i elusennau lleol dros y blynyddoedd ac yn ystod y cyfnod clo fe goginiodd Alice 850 o brydau bwyd am ddim yn rhodd i staff mewn gwahanol adrannau o Ysbyty Gwynedd pan glywodd hi pa mor anodd oedd yr amodau yn yr ysbyty.

"Dwi mor falch ohonyn nhw," meddai Sandra. "Dydyn nhw erioed wedi disgwyl dim byd. Maen nhw wedi'n dysgu ni mai rhoi nid derbyn sy'n bwysig mewn bywyd.

"Roedden nhw'n gweithio bob dydd o'r flwyddyn, hyd yn oed diwrnod Nadolig.

"Mae wedi bod yn anodd iawn iawn iddyn nhw i sefydlu. Dwi'n credu ei bod wedi bod yn haws ar ôl i'r bwyty dyfu, roedd pobl yn ymddiried yn Mam a Dad.

"Roedd y gymuned Chineaidd yn fach iawn ar y dechrau... fe welon nhw lot o hiliaeth. Ond fe dyfodd eu henw da a daeth pethau'n haws."

Gweithio fel teulu

Ond allen nhw fyth fod wedi rhedeg y busnes heb help y merched chwaith, meddai Alice.

Byddai'r merched yn dod adre o'r ysgol, newid, gwneud eu gwaith, yna dod i'r gegin i helpu.

"Dyna oedd y norm i ni," meddai Sandra. "Roedden ni'n eu gweld nhw'n gweithio'n galed felly roedden ni eisiau helpu. Mae Mam a Dad wedi'n dysgu ni, os ydych chi eisiau rhywbeth, wneith o ddim dod yn hawdd, rhaid i chi weithio amdano fo.

"Mae Mam wastad yn dweud bod bwyd yn dod â phobl at ei gilydd... hyd heddiw mae hi'n dweud y bydd bwyd bob amser yn barod am 16:30 ac mae pwy bynnag sydd o gwmpas yn dod adre erbyn hynny."

Wrth i ddathliadau'r Flwyddyn Newydd Chineaidd ddod i ben yr wythnos hon, mae pennod newydd yn agor ym mywyd Andrew ac Alice.

Ond peidiwch â synnu os byddan nhw'n sleifio mewn i'r gegin bob hyn a hyn ar gyfer ambell noson arall o goginio, gweini, a chroesawu eu cwsmeriaid ffyddlon i'r Garden.