Darganfod hen lun gan Dafydd Iwan mewn siop elusen

Marian Antrobus gyda'r llun a'i chyd-weithwyr yn siop elusen Tŷ'r EosFfynhonnell y llun, Hospis Tŷ'r Eos
Disgrifiad o’r llun,

Marian Antrobus a'i chyd-weithwyr gyda'r llun yn siop elusen Tŷ'r Eos, ym Mwcle

  • Cyhoeddwyd

Yng nghefn meddwl nifer o bobl wrth chwilota mewn siopau elusen mae 'na gwestiwn: oes ‘na drysor cudd yn llechu yma sy'n disgwyl i gael ei ddarganfod?

Dyna’n union ddigwyddodd i ddynes o Fwcle pan ddaeth o hyd i ddarlun wedi ei beintio gan Gymro adnabyddus… ond un sydd ddim yn enwog am ei luniau.

'Does bosib bod o'n peintio hefyd'

Roedd Marian Antrobus, sydd o Lanefydd yn wreiddiol, yn gwirfoddoli yn siop elusen Tŷ’r Eos ym Mwcle yn ddiweddar - fel mae wedi gwneud unwaith yr wythnos ers pum mlynedd.

Un o'i thasgau cyntaf yn y bore ydi paratoi'r ffenest siop i geisio denu cymaint o bobl â phosib i ddod i mewn a gwario, er mwyn codi cymaint o arian â phosib i’r hosbis yn Wrecsam.

Wrth iddi weithio yn y ffenest fe welodd un o’r rhoddion oedd ar werth - llun o Garn Fadryn, Pen Llŷn.

Ffynhonnell y llun, Hospis Tŷ'r Eos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Garn Fadryn yn olygfa amlwg ym Mhen Llŷn ac mae'n fryngaer sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Haearn

Mewn cyfweliad ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru dywedodd: “Dyma fi’n gweld yr ochr arall, tu ôl i’r llun - ac roedd ‘na amlen ac roedd o’n dweud ‘Dafydd Iwan’ ar un o’r lluniau.

"O'n i’n meddwl am tua 10 munud ‘wel dwi’n nabod Dafydd Iwan fel gwleidydd a chanwr a phregethwr ac mae ganddo lot o ddawn wahanol ac wedyn nesh i feddwl... dim posib bod y dyn yn peintio hefyd’.”

Ar ôl gorffen gosod y ffenest fe aeth i nôl y llun ac agor yr amlen. Ynddi roedd ‘na bapur gydag enw Dafydd Iwan ac Oriel Plas Glyn y Weddw 2008 arno.

Roedd darn arall o bapur yn nodi enw'r arlunydd ‘Dafydd Iwan’ ac yn dweud ei fod wedi cael ychydig o wersi arlunio yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman.

Ffynhonnell y llun, Hospis Tŷ'r Eos
Disgrifiad o’r llun,

Y llun a'r nodiadau oedd yn yr amlen

'Jacpot!'

Ond boed yn Dafydd Iwan neu’n Da Vinci, mae’n rhaid bod gant y cant pwy ydi'r artist cyn gwerthu unrhyw waith celf.

“Dyma fi’n ffonio’n ffrind yn y Wyddgrug a gofyn i Margaret i ba ysgol aeth Dafydd Iwan, achos faswn i ddim yn gwybod y pethe yma,” eglurodd Marian. “A dyma hi’n deud ‘ia i Ysgol Dyffryn Aman aeth o’ a nesh i feddwl ‘wel jacpot! Am wych!’

“Mae unrhywbeth ‘da ni’n ffeindio ‘da ni’n meddwl sy’n drysor ‘da ni isho neud pres allan ohono fo - achos hel arian yda ni yn de.”

Ffynhonnell y llun, Hospis Tŷ'r Eos
Disgrifiad o’r llun,

"Yn yr ysgol mi ges... lessons art...?"

Fe gysyllton nhw gyda theulu Dafydd Iwan, wnaeth gadarnhau a dweud y bydden nhw'n hapus petai'r darn celf yn gwneud arian i'r elusen.

Felly dyma ei roi ar werth ar wefan Ebay - ac fe gafodd ei brynu am £308.

“Dwi’n hapus iawn mod i wedi ffeindio trysor a hefyd faswn i’n deud mod i ‘di ffeindio rwbath sydd wedi cael ei achub mewn ffordd,” meddai Marian.

“Mae ‘na lot o bethe sy’n dod fewn i siop elusen sydd yn gwerthu’n dda, ond dydi llunia ddim yn hawdd iawn eu gwerthu fel arfer - maen nhw’n bethe reit bersonol.

“O'n i mor hapus achos mae arian mor bwysig i’r hosbis.”

Pynciau cysylltiedig