Eisteddfodau'r Urdd yn denu dros 80,000 o gystadleuwyr ifanc

Plant yn cystadluFfynhonnell y llun, Mudiad yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 80,937 o blant a phobl ifanc wedi cofrestru yn y cystadlaethau llwyfan, 10,000 yn fwy na'r llynedd, meddai'r Urdd

  • Cyhoeddwyd

Mae mudiad yr Urdd wedi cyhoeddi bod mwy o blant nag erioed wedi cystadlu ar lwyfannau Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth eleni.

Roedd 80,937 o blant a phobl ifanc wedi cofrestru ar gyfer y cystadlaethau llwyfan, 10,000 yn fwy na'r llynedd.

Y rhanbarth â'r nifer uchaf o gystadleuwyr ar draws Cymru yw'r ardal sy'n croesawu'r brifwyl eleni, sef Gorllewin Morgannwg.

Mae'r Urdd yn gobeithio y bydd y ffigwr terfynol - ar ôl derbyn holl geisiadau'r adrannau celf a chrefft ddiwedd Ebrill - yn cyrraedd 100,000 a mwy gan guro record Eisteddfod Maldwyn y llynedd o 100,454.

Dywedodd cyfarwyddwr y celfyddydau, Llio Maddocks: "Ry'n ni'n ymfalchïo mewn gweld cynnydd yn ein cystadleuwyr ar draws Cymru unwaith eto eleni.

"Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddathliad o ddoniau di-ri ein plant a'n pobl ifanc, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a chynnal y Gymraeg ynghyd â'r celfyddydau yng Nghymru."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hefyd y bydd teuluoedd incwm is yn gallu hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni.

Bydd modd i deuluoedd incwm is eu hawlio drwy gynllun Aelodaeth £1 yr Urdd neu drwy wefan yr Urdd.