Pasio cyllideb 'am fod yn anodd' os yw Llafur yn colli is-etholiad

Llafur sydd wedi cynrychioli etholaeth Caerffili ers dechrau datganoli yn 1999
- Cyhoeddwyd
Fe allai'r Blaid Lafur ei chael hi'n anodd pasio cyllideb yn y Senedd os ydyn nhw'n colli yn is-etholiad Caerffili, meddai'r Prif Weinidog.
Dywedodd Eluned Morgan y gallai'r wlad wynebu "toriadau sylweddol" os nad oedd modd i'r Senedd ddod i gytundeb ar gynlluniau gwariant.
Byddai colli yn yr is-etholiad ar 23 Hydref yn gadael Llafur ar 29 sedd allan o'r 60 yn y Senedd, a fyddai'n golygu y byddai'r blaid angen cefnogaeth dau aelod o bleidiau eraill er mwyn pasio mesurau.
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llafur o geisio "godi ofn" ar etholwyr, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod pobl yng Nghymru wedi "cael digon ar Lywodraethau Llafur".
Yn y cyfamser fe awgrymodd Ms Morgan fod Reform yn "benderfynol" o greu rhaniadau o fewn cymunedau - rhywbeth yr oedd y blaid yn ei wrthod yn llwyr.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd13 Awst
Daw'r is-etholiad yn etholaeth Caerffili yn dilyn marwolaeth yr AS Hefin David ddiwedd Awst.
Mae Llafur wedi dewis Richard Tunniclife fel eu hymgeisydd nhw, tra bod Plaid Cymru wedi cyhoeddi mai Lindsay Whittle fydd yn eu cynrychioli nhw yn y ras.
Mae disgwyl i'r Ceidwadwyr a Reform gyhoeddi eu hymgeiswyr erbyn diwedd yr wythnos.

Mae Richard Tunnicliffe yn rhedeg cwmni cyhoeddi llyfrau gyda'i wraig
Pe bai Llafur yn methu a phasio cyllideb, fe fyddai'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn yn cael ei dorri fel rhan o'r gyfraith yn ymwneud a datganoli.
Dywedodd Ms Morgan: "Rydyn ni'n canolbwyntio ar wneud popeth o fewn ein gallu i ennill yr is-etholiad yma. Mae'n is-etholiad pwysig.
"Rydyn ni'n gwybod os nad yw'r niferoedd gennym ni, yna fe fydd hi'n anodd i ni basio cyllideb.
"Os nad ydyn ni'n gallu gwneud hynny, rydyn ni'n wynebu toriadau sylweddol i wasanaethau lleol - ac rydyn ni wedi gweld, er enghraifft, nad yw Plaid Cymru yn barod i'n cefnogi wrth i ni geisio amddiffyn y gwasanaethau hynny."
Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy oedd cystadleuaeth fwyaf Llafur, dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn trin "bygythiad" Reform fel un "difrifol iawn".
"Rydyn ni'n credu eu bod nhw'n blaid sy'n benderfynol o greu rhaniadau o fewn ein cymunedau, ac yn blaid sydd ddim yn deall Cymru."
Dywedodd ymgeisydd Llafur yn y ras, Richard Tunniclife, fod Hefin David wedi ei annog i sefyll dros y blaid ym mis Mai.
"Dwi'n meddwl ei fod wedi gweld rhywbeth ynof nad oeddwn i yn ei weld fy hun, felly mewn ffordd, rydw i'n ceisio parhau gyda'i waith ef," meddai.
'Pobl wedi cael digon'
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Dyw hyn ddim mwy nag ymgais gan Lafur i geisio codi ofn ar ôl cymryd cefnogaeth pobl Caerffili yn ganiataol am yn rhy hir.
"Mae'n chwerthinllyd i glywed Llafur yn sôn am amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus pan mae eu record nhw yn adrodd stori wahanol iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK yng Nghymru: "Mae 26 mlynedd o lywodraethau Llafur yng Nghymru wedi gadael Cymru ar waelod y tabl o ran addysg, iechyd a diweithdra ymhlith yr ifanc.
"Dyw sylwadau di-sail Ms Morgan ond yn ymgais i geisio tynnu sylw i ffwrdd o fethiannau ei phlaid."
Ychwanegodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar: "Mae pobl Cymru wedi cael digon o lywodraethau Llafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, sy'n canolbwyntio ar derfynau cyflymder 20mya a chynyddu nifer y gwleidyddion.
"Y Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig opsiwn gwirioneddol arall. Mae gennym ni gynllun clir i drwsio Cymru, gydag agenda i dorri trethi a rhoi rhagor o arian ym mhocedi pobl."