Trydaneiddio rheilffyrdd y gogledd ddim yn flaenoriaeth - gweinidog

Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
  • Cyhoeddwyd

Nid yw trydaneiddio rheilffyrdd gogledd Cymru yn flaenoriaeth, meddai ysgrifennydd trafnidiaeth llywodraeth Lafur y DU.

Dywedodd Heidi Alexander AS bod ei llywodraeth yn cadw prosiectau trydaneiddio dan adolygiad, ond eu bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i leddfu tagfeydd ar linellau rheilffordd allweddol yn ne a gogledd Cymru.

Dywedodd yr ysgrifennydd trafnidiaeth eu bod eisoes wedi ymrwymo i'r "lefel uchaf erioed o fuddsoddiad" yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, ond ni chadarnhaodd a fyddai trydaneiddio yn digwydd o dan y llywodraeth Lafur hon.

"Byddwn yn cadw prosiectau trydaneiddio dan adolygiad wrth i'r dechnoleg ar y trenau ddatblygu," meddai.

Yn lle hynny, dywedodd fod y blaenoriaethau yr oedd hi a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n "agos" arnynt yn cynnwys gwella gwasanaethau yng ngogledd Cymru, yn ogystal â phrosiectau rheilffordd i leddfu tagfeydd yn ne-ddwyrain Cymru.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth ysgrifennydd trafnidiaeth Cymru Ken Skates gyhoeddi cynllun gwerth £2.1bn i ailwampio rhwydwaith rheilffyrdd gogledd Cymru.

Ond byddai'r cynllun yn ddibynnol ar arian gan Lywodraeth y DU er mwyn ei gwireddu.

Bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn cael ei gyhoeddi ar 26 Tachwedd.

Yn 2023 fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog Ceidwadol, Rishi Sunak, addo trydaneiddio llinellau'r gogledd ar gost o tua £1bn - addewid na gafodd ei wireddu.