Ymgynghori ar drafnidiaeth gogledd Cymru

Mae Leslie (chwith) yn dweud bod teithio ar fysiau yn 'reit hywlus' ond hoffai Eirlys weld mwy ohonynt yn rhedeg
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnosau nesaf bydd cyfle i bobl, busnesau ac ymwelwyr gymryd rhan mewn ymgynghoriad sy'n edrych ar brofiadau teithio lleol.
Mae'r cwbl wedi ei drefnu gan 'Uchelgais Gogledd Cymru' sy'n bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol y gogledd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam, Colegau addysg bellach - Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Cambria.
Mae pobl leol yn cael eu hannog i roi eu barn ar gynllun drafft Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer y pum mlynedd nesa.
Y bwriad ydi addasu cynlluniau presennol i gyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol, gan edrych ar reilffyrdd, ffyrdd, bysiau, cerdded a beicio a chynnig gwell dewis o deithio, cysylltedd digidol, a lleihau effeithiau amgylcheddol.
- Cyhoeddwyd28 Awst 2024
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd1 Awst 2024
Mae Harri Neville o Fangor yn astudio Gwyddor Chwaraeon yn Lerpwl ac yn teithio ar y trên yn aml.
Ond mae prisiau tocynnau yn ei boeni.
"Dwisho nhw fod yn rhatach", meddai.
"Achos bo fi yn Uni gen i railcard ond mae o dal yn costio lot."

Mae Harri am weld prisiau tocynnau trên rhatach
Dywedodd Eirlys Roberts byddai trafnidiaeth y gogledd yn well "tasa 'na fwy o fysus ar gael achos ma nhw wedi cytio lot ers cofid."
"Dwi'n gorfod ryshio i neud y negas i ddal y bws 'ma yn ôl rwan."
Weithiau dydy rhai bysus ddim yn cyrraedd meddai.
"Ma' 'na rhyw excuse weithiau bo nhw wedi cael break down a petha felly."
Yn ôl Leslie Randall o Borthaethwy "mae bob dim yn mynd yn reit hwylus i ddeud y gwir, da ni'n lwcus iawn dydan. Cyn bellad dwi'n y cwestiwn mae'r bysus yn siwtio fi yn iawn."
"Fyddai'n mynd ar y bws i Betws y Coed i Landudno weithia yn yr haf de"
"Dwi wrth fy modd efo bysus," dywedodd.

Mae Tracey yn canmol y gwasanaethau rheilffordd dim ond iddi gael sêt ar y trên meddai
Mae Tracey Thomas o Gaernarfon, o'r farn bod trenau ddim yn ddigon hyblyg ac yn dweud hoffai cael tocynnau sy'n caniatáu i chi fynd ar unrhyw drên a nid cyfyngu i amseroedd penodol.
"Swni'n licio fasa nhw yn cymryd cash. Tydi pawb ddim efo cardia' "
Mae hi'n canmol y gwasanaeth ar drên "os gai sêt!".
'Awyddus am adborth da neu drwg'

Dywed y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas bod clywed barn pobl leol yn hollbwysig
Yn ystod y cyfnod ymgynghori bydd rhai cynghorau yn dewis cynnal eu digwyddiadau ymgynghori eu hunain - mae Cyngor Ynys Môn wedi cynnal dau ddigwyddiad yn barod.
Dywed y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, sy'n is-gadeirydd i Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol 'Uchelgais Gogledd Cymru': "Mae'r ymgynghoriad yma ar gyfer pawb ar draws Gogledd Cymru. Cynllun drafft ydio i ni wella trafnidiaeth ar draws yr ardal.
"Mae o'n wbath sy'n hollbwysig i ni gyd fel unigolion ac i fusnesau ac ymwelwyr i bobl ddeud eu barn, i ddod atom ni i ddeud wrtha ni be' ma'n nhw'n ddymuno gweld fel trafnidiaeth ar draws y gogledd."
Mae ef hefyd yn gyfrifol am bortffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Ynys Môn ac yn dweud bod y byd "wedi symyd ymlaen."
"Mae newid hinsawdd wrth gwrs yn hollbwysig mewn unrhyw gynllun sgeno ni ar draws y gogledd" ac maen nhw'n awyddus i glywed adborth "yn dda neu'n ddrwg"
Daw'r ymgynghoriad cyhoeddus i ben 14eg o Ebrill 2025.