Rees-Zammit i gychwyn i Gymru yn erbyn Japan ddydd Sadwrn

Louis Rees-ZammitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hon fydd y gêm gyntaf i Louis Rees-Zammit gychwyn ar y cae i Gymru ers Cwpan y Byd 2023

  • Cyhoeddwyd

Bydd yr asgellwr Louis Rees-Zammit yn dechrau i dîm rygbi Cymru ar gyfer y prawf adref yn erbyn Japan ddydd Sadwrn.

Dyma'r tro cyntaf iddo gychwyn ar y cae ers Cwpan y Byd 2023. Mae'n cael ei ddyrchafu o fainc a gafodd gweir yn erbyn yr Ariannin penwythnos diwethaf.

Mae Steve Tandy, y prif hyfforddwr, wedi gwneud pedwar newid i'r 15 wnaeth golli'r ornest honno gyda sgôr o 52-28 yn Stadiwm Principality.

Bydd Olly Cracknell, rhif wyth, yn cymryd lle'r capten Jac Morgan yn y tîm, wedi iddo gael ei anafu ddydd Sul, tra bod Zammit yn cymryd lle Tom Rogers ar yr asgell.

Y wynebau newydd eraill ydy Nicky Smith ac Archie Griffin, sy'n lle Rhys Carre a Keiron Assiratti yn y rheng flaen.

Dewi Lake fydd capten y tîm yn absenoldeb Morgan.

Tîm Cymru

Cymru: Murray; Rees-Zammit, Llewellyn, B Thomas, Adams; Edwards, T Williams; Smith, Lake (capten), Griffin, D Jenkins, Beard, Wainwright, Mann, Cracknell.

Eilyddion: Belcher, Carre, Assiratti, F Thomas, Plumtree, Hardy, J Evans, Tompkins.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig