Cyhuddo Cyngor Caerdydd o 'ragrith' ar ysgolion Cymraeg

Protest Neuadd y Sir
Disgrifiad o’r llun,

Daeth ymgyrchwyr at ei gilydd o flaen Neuadd y Ddinas fore Iau i brotestio

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sy'n galw am sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd wedi cyhuddo cyngor y brifddinas o ragrith.

Maen nhw'n dweud nad yw'r cyngor yn cymryd eu cyfrifoldeb i greu'r galw am addysg Gymraeg o ddifri'.

Bu ymgyrchwyr o blaid creu pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yn y ddinas yn protestio y tu allan i Neuadd y Sir fore Iau.

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod gan yr ysgolion uwchradd presennol le ar gyfer disgyblion sydd eisiau dysgu drwy'r Gymraeg tan "o leiaf blwyddyn ysgol 2031/32", a'u bod wedi ymrwymo i hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Tair ysgol uwchradd Cymraeg sydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd - Glantaf, Plasmawr a Bro Edern

Yn ôl ymgyrchwyr mae hi'n anoddach i blant yn ne'r brifddinas gael mynediad at addysg Gymraeg.

Yn gynharach eleni fe wnaeth rhai o blant Ysgol Gynradd Hamadryad yn Nhre-biwt fethu â sicrhau lle yn Ysgol Gyfun Glantaf er mai honno yw ysgol uwchradd Gymraeg y dalgylch.

Roedd y pellter mae'r plant yn byw o'r ysgol uwchradd yn rhan o'r broblem.

Ond maes o law fe gafon nhw le yn Ysgol Glantaf.

Mae'r cyngor yn mynnu bod niferoedd myfyrwyr yn anarferol o uchel fis Medi ac na fydd y broblem yn codi eto.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carl Morris fod plant a'u teuluoedd "wedi cael eu trin yn warthus"

Ond mae Carl Morris yn mynnu bod rhaid cael ysgol Gymraeg i wasanaethu cymunedau de Caerdydd.

"Mae cabinet Cyngor Caerdydd yn hoff o frolio am fod yn ddinas werdd, am fod yn gyfeillgar i blant, am 'Gaerdydd Ddwyieithog', ac am eu hymrwymiad i dyfu'r Gymraeg," meddai.

"Rhagrith llwyr yw hyn.

"Sut gall Cyngor Caerdydd fod yn fodlon gyda'r annhegwch strwythurol sy'n amddifadu llawer o blant Tre-biwt, Grangetown, ac ardaloedd cyfagos o addysg Gymraeg?

"Mae teuluoedd a phlant Tre-biwt, yn enwedig, wedi cael eu trin yn warthus o ran y broses ceisio am le mewn ysgolion."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth plant â chlociau gyda nhw i'r brotest, gan alw ar y cyngor i ddeffro i'r angen am ysgol Gymraeg newydd

Mae ymgyrchwyr yn anfodlon fod y cyngor wedi cymryd pedwar mis i ymateb yn uniongyrchol i lythyr a gafodd ei gyflwyno iddyn nhw ym mis Gorffennaf.

Fore Iau daeth ymgyrchwyr i brotestio y tu allan i Neuadd y Sir gyda chlociau, yn galw ar y cyngor i ddeffro i'r angen am ysgol Gymraeg newydd.

Dywedodd un o'r rheiny fu yn y brotest, Catrin Dafydd: "Yn hanesyddol mae'r ardal [de Caerdydd] wedi cael ei hanwybyddu.

"Mae 'na hanes nawr o'r ardal, o safbwynt addysg Gymraeg ac addysg Saesneg, dyw'r cyngor ddim o ddifrif am ddarparu i'r ardal.

"Os oes gyda ni ysgolion cynradd yn yr ardal mae'n rhaid sicrhau bod yna ysgolion uwchradd.

"Mae'n un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghaerdydd, ac yn amlddiwylliannol hefyd.

"Os ydych chi eisiau bod o ddifrif am y cwricwlwm i Gymru, sy'n dweud y dylai addysg fod ar gael i blant yn eu cymuned, ma' angen gwireddu hynny."

Disgrifiad o’r llun,

"Os oes gyda ni ysgolion cynradd yn yr ardal mae'n rhaid sicrhau bod yna ysgolion uwchradd," medd Catrin Dafydd

Ychwanegodd fod y cyngor "ddim wedi bod o ddifrif bod y Gymraeg i bawb".

"Ni yma i ddweud, mae'r Gymraeg i bawb, ac os y'n ni o ddifrif am hynny mae'n rhaid i awdurdodau dynnu eu socks lan."

Mae'n rhaid i bob awdurdod addysg lleol gyhoeddi Cynllun Strategol Addysg Gymraeg, sy'n amlinellu sut y maen nhw'n bwriadu datblygu addysg Gymraeg.

Yn ôl ymgyrchwyr mae awgrym Cyngor Caerdydd nad oes digon o niferoedd i gyfiawnhau ysgol newydd yn dangos bod y cyngor wedi methu â chyflawni eu cyfrifoldeb ac yn adlewyrchu "diffyg dyhead" yr awdurdod.

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod lle ar gyfer disgyblion sydd eisiau dysgu drwy'r Gymraeg nes "o leiaf blwyddyn ysgol 2031/32, gyda'r hyblygrwydd i ymestyn y capasiti yn y tymor canolig petai angen" yn yr ysgolion presennol.

Dywedodd y llefarydd bod y cyngor wedi sefydlu trydedd ysgol Gymraeg yn 2012 i "gefnogi twf yr iaith Gymraeg" a bod nifer y disgyblion Cymraeg wedi cynyddu 57% dros y cyfnod.

Ychwanegodd bod "Caerdydd wedi ymrwymo i hysbysebu manteision addysg ddwyieithog", ac y byddai'n blaenoriaethu Cynllun Strategol Addysg Gymraeg fydd yn "sicrhau bod pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yn bosibl yn y dyfodol".

Dywedodd hefyd bod cwymp o 20% mewn cyfraddau geni yn cael ei adlewyrchu yn nifer y plant sy'n dechrau ysgolion cynradd, a bod nifer y llefydd gwag yn tyfu ym mhob sector.