'Dim diwinyddiaeth ym mhrifysgolion Cymru yn drasiedi'

Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Caerdydd yn ystyried cael gwared ar rai pynciau yn llwyr - yn eu plith diwinyddiaeth

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Brifysgol Caerdydd ystyried dod â phwnc diwinyddiaeth i ben, dywed arbenigwr yn y maes bod "y peth yn drasiedi".

Ddiwedd Ionawr fe ddywedodd y brifysgol eu bod yn bwriadu cael gwared â 400 o swyddi academaidd llawn amser er mwyn "diogelu dyfodol hirdymor" y sefydliad.

Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys cael gwared ar rai pynciau yn llwyr - yn eu plith diwinyddiaeth.

Arferai'r Athro D Densil Morgan fod yn Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, bu'n darlithio yn y maes ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi cyhoeddi nifer helaeth o lyfrau ar y pwnc.

"Mae'n ymddangos na fydd un adran ddiwinyddol mewn prifysgol yng Nghymru o gwbl - mae'r peth yn drasiedi," meddai.

Densil Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro D Densil Morgan wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar ddiwinyddiaeth

"Mae crefydd ac athroniaeth yn cael ei ddysgu ond dyw diwinyddiaeth, fel y cyfryw, ddim yn rhan o hynny," meddai ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.

"Lle oedd 'da chi Caerdydd, Llanbed a Bangor yn cynnig holl rychwant diwinyddiaeth, astudiaethau Beiblaidd, astudiaethau athrawiaethol, hanes yr Eglwys, athroniaeth crefydd - mae'r adrannau i bob pwrpas wedi cau.

"Mae yna resymau - yn un peth mae'r broses o seciwlareiddio wedi mynd ymlaen yn garlamus dros y genhedlaeth ddiwethaf.

"Mae prifysgolion eu hunain yn gorfod 'neud arian ac oherwydd hynny mae'r pynciau sy'n llai poblogaidd yn mynd o dan warchae.

"Yn 70au ac 80au y ganrif ddiwethaf roedd y pwnc yn ffynnu ac o'dd gyda chi staff oedd yn Gymry Cymraeg oedd yn adnabyddus yn rhyngwladol - a'r adrannau yn bwydo'r eglwysi Cymraeg wrth gwrs."

Ychwanega'r Athro Morgan bod pwnc fel diwinyddiaeth yn gymorth i ddeall a dehongli cyd-destunau ehangach.

"Yr hyn sy'n gallu digwydd nawr yw bod pobl yn dweud pethau mewn anwybodaeth ac mae anwybodaeth pan mae crefydd wedi dod mor eithriadol o rymus - er drwg neu er da - yn angheuol.

"O golli diwinyddiaeth ry'ch chi'n torri eich hunan i ffwrdd o'r wybodaeth angenrheidiol 'na ry'ch ei hangen i dafoli syniadau - syniadau sy'n gallu bod yn beryglus."

'Mae 'na greisis a bod yn onest'

Tan yn ddiweddar roedd yr Athro Catrin Haf Williams yn ddarllenydd mewn Astudiaethau Testament Newydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae'n un o swyddogion TRS-UK - cymdeithas broffesiynol sy'n trafod dyfodol astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth yn y DU.

"Dwi'n credu y gallwn ni ddweud bod creisis a bod yn onest - mae 'na ryw 30 o brifysgolion yn dal i gynnig diwinyddiaeth ac astudiaethau crefyddol ond mae'r niferoedd o adrannau gyda staff niferus lawr i ryw 15 erbyn hyn.

"Yr hyn sy'n digwydd yn aml bellach yw bod y pwnc yn cael ei sugno o dan endid mwy eang - fel hanes, gwleidyddiaeth neu athroniaeth ac mae hyn yn codi cwestiwn ynghylch pa mor amlwg ydy'r pwnc i ddarpar fyfyrwyr sy'n edrych ar wefannau ac ati.

"Mae'n bryder gwirioneddol. Dwi wedi bod ar y pwyllgor yma ers pum mlynedd - mae pump adran wedi cau ers yr haf a bydden i'n dychymygu y bydd hanner y gweddill wedi cau erbyn y ddegawd nesaf."

Catrin Haf WilliamsFfynhonnell y llun, TRS-UK
Disgrifiad o’r llun,

Tan yn ddiweddar roedd yr Athro Catrin Haf Williams yn ddarllenydd mewn Astudiaethau Testament Newydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae'r Athro Williams yn ychwanegu fod problem recriwtio digon o athrawon addysg grefyddol yn rhan o'r broblem hefyd a'r newid yn y maes llafur.

"Ar gyfer TGAU a Lefel A maen nhw'n 'neud llawer mwy o foeseg ac athroniaeth sy'n golygu bod disgyblion ddim yn gwybod fawr am grefydd - ac felly mae'r nifer sy'n astudio athroniaeth yn codi ar draul astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth.

"Wrth i lai ddewis diwinyddiaeth fel pwnc - 6,500 yn llai ar draws y DU yn y ddegawd ddiwethaf - mae prifysgolion, yn sgil eu heriau ariannol, yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd am ddyfodol y pwnc.

"Be' sy' angen yw ychydig bach mwy o gydweithio er mwyn gweld be' all prifysgolion wneud gyda'i gilydd a gweithio gyda'r colegau diwinyddol a'r enwadau er mwyn gweld be' ellid ei warchod - mater yw e o allu dwyn unigolion at ei gilydd.

"Yn sicr does dim arwydd bod goleuni ar hyn o bryd y bydd y pwnc yn cael ei gynnal ar yr un raddfa - ac y mae hynny'n siom."

'Ddim yn sioc ond yn drychineb'

Mae'r Adran Ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn dilysu graddau myfyrwyr Coleg y Bedyddwyr yn y brifddinas.

"Dydy toriadau posibl y brifysgol ddim yn syndod llwyr i ni yng Ngholeg y Bedyddwyr," meddai un o'r cyn-brifathrawon, Y Parchedig Ddr Rosa Hunt.

"Er bod y brifysgol wedi addo ar lafar y llynedd i adnewyddu'r bartneriaeth hanesyddol rhwng y Coleg a'r Brifysgol am bum mlynedd, cawson ni e-bost ym mis Awst i gadarnhau taw dim ond am un flwyddyn byddai'r brifysgol yn ymrwymo.

"Felly, ers mis Medi y llynedd rydyn ni wedi bod yn archwilio opsiynau gwahanol i ddilysu cymwysterau ein myfyrwyr gweinidogol o'r tri enwad.

"Dwi'n falch i ddweud bod sawl opsiwn ar gael, ac rydyn ni'n benderfynol i ddewis opsiwn sy'n caniatáu i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith yn y Gymraeg os ydyn nhw eisiau gwneud hynny.

"Ar y lefel ôl-raddedig, mae cytundeb gyda ni yn barod gydag IBTS yn Amsterdam.

"Bydd yr addysg yn parhau i ddigwydd trwy'r Coleg, fel mae'n digwydd ar hyn o bryd, felly fydd ddim llawer o wahaniaeth i'r myfyrywr ond wrth gwrs mae'r Coleg yn drist i golli'r bartneriaeth hanesyddol sy'n hŷn na'r brifysgol ei hun."

Rosa Hunt
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Rosa Hunt yn diwtor a chyn gyd-bennaeth Coleg y Bedyddwyr

Ychwanegodd Dr Hunt bod y bwriad i gael gwared â diwinyddiaeth fel pwnc yn "drychineb".

"Mae'r datblygiad hyn yn ofnadwy i bwnc academaidd Astudiaethau Crefyddol yng Nghymru.

"O ystyried rôl crefydd wrth lunio Cymru a byd amrywiol heddiw, byddai'n drychineb colli'r maes astudio pwysig hwn i fyfyrwyr ac academyddion fel ei gilydd."

Dywed Prifysgol Caerdydd bod angen "gweithredu nawr i sicrhau ein bod yn gallu gwireddu dyheadau ein strategaeth newydd a chael prifysgol hyfyw ar gyfer y dyfodol".

Ar hyn o bryd maen nhw'n ymgynghori ar yr hyn sy'n cael ei ystyried, ac mae disgwyl i'r cynlluniau terfynol gael eu hystyried gan Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin 2025.

Pynciau cysylltiedig