Trethi busnes yn creu ‘corwynt’ ariannol ar y stryd fawr

Stryd Fawr, Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Pryder y bydd rhagor o siopau Bangor yn cau oherwydd costau cynyddol

  • Cyhoeddwyd

Mae cynnydd mewn cyfraddau busnes wedi creu “corwynt perffaith” i gwmnïau lletygarwch a siopau, yn ôl corff sy’n eu cynrychioli.

Ers mis Ebrill mae'r gostyngiad ar drethi busnes ar gyfer y sectorau hynny wedi newid o 75% i 40%.

Bu’r newid yn gadael rhai busnesau “ar y dibyn”, meddai UK Hospitality Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gynnig cymorth cyfraddau busnes, gyda dim ond un o bob pump yn talu'r bil llawn.

Beth ydy cyfraddau busnes?

Mae cyfraddau busnes, neu ardrethi annomestig, yn dreth sy’n seiliedig ar werth yr eiddo a ddefnyddir gan y busnes.

Awdurdodau lleol sy’n eu casglu a’u talu i mewn i gronfa genedlaethol dan ofal Llywodraeth Cymru, dolen allanol.

Y llywodraeth sy'n penderfynu pa ostyngiadau, neu gymorth, mae busnesau yn gallu hawlio.

Ym mis Ebrill gostyngodd y cymorth o 75% i 40% ar gyfer busnesau manwerthu a lletygarwch.

Mae busnesau tebyg yn Lloegr yn parhau i dderbyn cymorth o 75%.

Disgrifiad o’r llun,

Cynnydd yn y gyfradd busnes sy'n gorfodi Sophia Ingham i gau ei siop

Costau cynyddol sy’n gorfodi rhai busnesau i gau eu drysau ym Mangor.

“Mae gennym ni’r stryd fawr hiraf yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n un o’r strydoedd mawr mwyaf gwag yn y Deyrnas Unedig,” meddai’r dylunydd dillad a chlustogwaith, Sophia Ingham.

Ers mis Gorffennaf diwethaf mae hi wedi rhedeg siop yng nghanolfan siopa Deiniol, ond mae’n disgwyl gorfod cau’r haf hwn.

Penderfyniad fyddai “yn gyfan gwbl oherwydd y cynnydd yn y gyfradd”.

Hwn fydd y busnes diweddaraf ym Mangor i gau.

“Mae’r rhan fwyaf o’r siopau yma ar gau neu wedi’u bordio fyny,” meddai Ms Ingham.

Galwodd ar y llywodraeth i dorri cyfraddau’n llwyr “i helpu i adfywio’r strydoedd mawr, yn hytrach na’u chwalu. Mae'n hollol wallgof.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Evans yn talu £15,000 y mis mewn cyfraddau busnes fel perchennog y Black Boy yng Nghaernarfon

Yng Nghaernarfon mae costau rhedeg un o dafarndai amlycaf y dref wedi cynyddu ers dechrau mis Ebrill.

Dros £15,000 y mis ydy’r bil mae John Evans bellach yn wynebu.

“Be' sy’n annheg yw ein bod ni’n talu mwy yng Nghymru rwan ‘na mae rheina’n Lloegr yn talu,” meddai Mr Evans.

Mae’n dweud bod costau cynyddol, gan gynnwys y newid i’r cyfraddau busnes, yn cael effaith weladwy yn y dref.

“W’rach bod o’n dangos bod y trefi, yn y strydoedd mawr, yn gwagu. Y bobl yn mynd tu allan.”

Dywedodd Mr Evans bod nifer o berchnogion busnes yn dewis gadael y diwydiant lletygarwch, a’i fod yn poeni am y dyfodol.

“Mae ‘na amryw o ffrindiau i fi oedd yn rhedeg tafarndai, ac mae rheiny i gyd wedi mynd a gwerthu fyny.

“Ac os 'da chi’n pigo ar un o’r agency websites ‘ma sy’n gwerthu hotels, mi welwch chi un ar y farchnad bob wythnos rŵan, a ma hynna’n drist,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae penderfyniad busnesau eraill i gau yn "drist", meddai perchennog y Black Boy

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn dal i gynnig gwerth £78m o ostyngiadau ar eu trethi busnes i sectorau manwerthu a lletygarwch.

Ond dywedodd y corff sy'n cynrychioli gwestai, tafarndai a bwytai fod y sector dan straen ariannol enfawr.

“Dyw hi ddim yn storm berffaith, ond yn gorwynt perffaith,” meddai David Chapman, cyfarwyddwr UK Hospitality Cymru.

“Rydyn ni wedi cael y cau gorfodol yn ystod Covid, rydyn ni wedi cael prisiau ynni uchel, a lefelau uchel o chwyddiant ar fwyd a diod. Does dim arian parod wrth gefn, rydym yn talu benthyciadau Covid yn ôl.

“Yr unig gefnogaeth gawson ni oedd y cymorth ar gyfraddau busnes, ac mae hynny wedi cael ei dorri oddi wrthym ni,” meddai.

Mae Mr Chapman eisiau i Lywodraeth Cymru adfer y rhyddhad, fyddai'n cyfateb unwaith eto i’r gostyngiad sydd ar gael yn Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi "ychydig yn annheg" bod busnesau yn Lloegr yn cael mwy o gymorth gyda'u cyfraddau busnes, meddai Andria Thomas

Yn Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin mae siopau annibynnol yn llenwi’r stryd, er bod pryderon ymhlith rhai am effaith y costau cynyddol.

Mae Andria Thomas yn rhedeg siop ddillad Dot, lle mae’n gwerthu brandiau ffasiwn Ewropeaidd wedi’u mewnforio.

Dywedodd fod y cynnydd yn ei threthi busnes “ychydig yn annheg” pan fo siopau yn Lloegr yn talu cyfraddau is.

“Rydyn ni’n gorfod talu mwy na’r hyn mae [busnesau] ar draws y bont yn Lloegr yn talu, er bod ein costau rhedeg y busnes yn debyg iawn,” meddai.

Mae Ms Thomas hefyd yn gwerthu dillad ar-lein, ond mae hi eisiau aros ar y stryd fawr.

“Mae pob cost ychwanegol yn effeithio ar faint o elw y gallwch chi ei wneud.

“Cymaint ag yr ydw i am barhau i gael siop ar y stryd fawr, mae'r costau ar-lein tipyn yn rhatach.

“Felly fe fyddai lleihau costau cyfraddau busnes yn ddylanwad enfawr i’n helpu ni, fel pobl leol, i aros yn lleol.”

Disgrifiad o’r llun,

Siopau yn Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin sy'n poeni am gyfraddau busnes uchel

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn gwneud “popeth y gallwn ni, gyda’r adnoddau a’r pwerau sydd ar gael i ni” i roi cymorth i fusnesau.

“Rydym yn darparu ystod o gymorth ardrethi annomestig parhaol i fusnesau, gwerth £250m y flwyddyn ac wedi’u hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

"Mae hyn yn cynnwys Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, sy’n cefnogi trethdalwyr ar gyfer tua 70,000 eiddo ledled Cymru, ac mae mwy na dwy ran o dair ohonynt yn talu dim byd o gwbl.

“Rydym yn darparu cymorth ardrethi annomestig ychwanegol gwerth £134m yn 2024-25.

"Mae hyn yn cynnwys pumed flwyddyn yn olynol o gymorth i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda’u biliau ardrethi, ar gost o £78m, gan adeiladu ar y bron i £1bn o gymorth a ddarparwyd mewn cymorth ardrethi i’r sectorau hyn ers 2020-21.

"Dim ond un o bob pum eiddo sydd gorfod talu eu bil llawn eleni.”

Pynciau cysylltiedig