Neil Foden 'wedi cael rhyw â phlentyn ar dripiau'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae cynnwys isod all beri gofid.
Mae llys wedi clywed bod Neil Foden wedi dweud wrth ferch ei fod yn ei charu, a'i fod wedi cael rhyw gyda hi ar dripiau.
Roedd Mr Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes
Mae'n gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â phum plentyn.
Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys cyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
- Cyhoeddwyd25 Ebrill
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener gan ferch sy'n cael ei chyfeirio ati fel Plentyn E.
Yn ei chyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd y ferch ei bod hi mewn perthynas gyda Mr Foden.
Soniodd ei bod hi'n ystyried Mr Foden fel "partner", gan ychwanegu bod ganddyn nhw ffugenwau ar gyfer ei gilydd.
"Fo oedd Mr Perfect, neu fy Mr P... Roedd o'n fy ngalw i yn ST, neu my little ST," meddai.
Eglurodd y ferch fod hynny'n sefyll am "Sex Toy".
Clywodd y llys bod y ferch wedi teithio gyda Mr Foden i ddigwyddiadau y tu hwnt i Wynedd, a bod y ddau wedi cyflawni gweithredoedd rhywiol, ac wedi cael rhyw.
Fe ddywedodd Plentyn E y byddai Mr Foden hefyd yn chwarae gemau o natur rywiol gyda hi, gan gynnwys ei chlymu yn ei gar.
Clywodd y rheithgor yn gynharach yn yr achos bod cyffion wedi eu darganfod yng nghefn car Mr Foden oedd ag olion DNA Plentyn E, a'i olion DNA ef, arnyn nhw.
Wrth ddisgrifio’r berthynas rhwng y ddau, dywedodd y ferch: "Wrth gwrs roedd o'n gymhleth ar y dechrau - roedden ni'n gwybod na fyddai pobl yn hapus am y peth.
"O'n i'n poeni? Na, ro'n i'n hapus."
Ychwanegodd eu bod wedi cadw'r berthynas yn gyfrinach.
Yn ôl Plentyn E, fe wnaeth hi roi gwybod i'r heddlu am y berthynas wedi i Mr Foden gael ei arestio yn 2023.
"Dwi'n deall nad oedd o'n iawn, na ddylai o fod wedi digwydd. Ond ro'n i'n teimlo'n ddiogel," meddai wrth yr heddlu.
"Dwi'n edrych yn ôl rŵan, a dwi'n gweld pa mor anghywir oedd yr holl beth."
Mae Mr Foden wedi gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae'r achos yn parhau.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.