Pobl ifanc i godi tŷ unnos ar Gomin Pontypridd
- Cyhoeddwyd
Ar fachlud haul nos Wener bydd criw o bobl ifanc yn codi tŷ ar Gomin Coedpenmaen ym Mhontypridd, gan ail-greu’r hen draddodiad Cymreig o godi tŷ unnos.
Mae codi adeiladau o'r fath yn rhan o lên gwerin Cymru.
Yn ôl y chwedl, os oes yna do ar dŷ a mwg yn dod o’r simdde erbyn toriad dydd, bydd y rheiny fu'n gyfrifol am ei adeiladu yn cael byw yno, a ffermio’r tir o’i gwmpas hyd at y pellter y gellir taflu bwyell o ddrws y tŷ.
Digwyddiad celf wedi'i drefnu gan Citrus Arts yw'r gwaith ddydd Gwener, gyda'r nod o ysgogi trafodaeth am dai fforddiadwy.
Fe fydd y gwaith o godi'r tŷ unnos yn cychwyn ar fachlud haul nos Wener, gyda phobl ifanc rhwng 18 a 30 oed o bob cwr o Gymru yn gyfrifol am y gwaith
Bydd Seremoni Torri Tir Newydd yn dechrau am 18:30, lle caiff y gynulleidfa weld codi’r tŷ, perfformiadau gan Syrcas Ieuenctid Citrus Arts, lluniadau tân, cerddoriaeth fyw gan Fand Pres Cynhwysol Cathays a darn gwerin wedi'i gomisiynu'n arbennig gan Cerys Hafana.
Ddydd Sadwrn bydd modd i'r gynulleidfa barhau i weld y tŷ yn cael ei godi, ynghyd â gweithgareddau o hanner dydd gan gynnwys gweithdai, cerddoriaeth fyw, a sgyrsiau tân gwersyll.
Ar fachlud haul nos Sadwrn, mae’r artist rhyngwladol Mark Anderson wedi creu profiad sain Nodau o Rybudd ar y cyd â Liam Walsh.
Mae'r holl ddigwyddiadau yma am ddim ar Gomin Coedpenmaen ym Mhontypridd.
Bu dwy sy'n cymryd rhan yn y prosiect - Seren Haf a Lucie Powell - yn siarad amdano ar Dros Frecwast fore Gwener.
"Ni ddim yn 'neud e dros nos - dyw e ddim mor fawr â 'na!" meddai Seren.
"Fydden ni'n 'neud e probably mewn tua awr, awr a hanner, a bydd y tŷ unnos wedyn yn aros lan am 24 awr.
"Wrth i hyn ddigwydd bydd llawer o berfformiadau - lot o hwyl yn mynd 'mlaen."
Ychwanegodd Lucy mai'r gobaith yw y bydd y gwaith yn ennyn sgwrs am y trafferthion y gall pobl ifanc wynebu yn ceisio prynu tŷ ar hyn o bryd.
"Blwyddyn yma mae Citrus Arts yn gwneud blwyddyn o ddigwyddiadau ar y pwnc 'cartref'," meddai.
"Felly mae'n bwysig siarad am gartref, a'r problemau mae pobl ifanc yn wynebu - yn enwedig yng Nghymru - yn prynu cartrefi.
"Felly'r nod ydy cynnal sgwrs."
'Ddim y tywydd gorau!'
Mae'r criw eisoes wedi adeiladu ffrâm ar gyfer y tŷ, ond gyda'r rhagolygon tywydd yn rhybuddio y gallai fod yn wlyb, maen nhw'n cyfaddef y gallai fod yn heriol.
"Falle fydd e ddim y tywydd gorau i adeiladu tŷ, ond ni am fynd yn ein blaenau a threial ein gorau," meddai Seren.
"Falle mynd bach yn slow gyda'r tŵls! Ond dyle fe fod yn iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2020
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018