'Llwyth o bobl ifanc' yn awyddus i wneud gwasanaeth cenedlaethol - AS

Fay JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n adnabod llwyth o bobl ifanc a fyddai'n hoffi chwarae eu rhan," meddai Fay Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi honni ei bod hi'n adnabod "llwyth" o bobl ifanc fyddai'n hoffi cymryd rhan mewn cynllun gorfodol sy'n ymwneud â gwasanaeth cenedlaethol.

Mae'r Ceidwadwyr wedi addo y bydd pob person 18 oed yn gwneud gwasanaeth milwrol neu ddi-filwrol os ydyn nhw'n ennill etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

Dywedodd gweinidog Swyddfa Cymru, Fay Jones, fod y cynigion yn brawf "ein bod yn buddsoddi yn ein pobl ifanc".

Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi beirniadu'r cynnig.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rishi Sunak yn bwriadu cyflwyno 12 mis o wasanaeth cenedlaethol gorfodol i bobl 18 oed os ydy'r Torïaid yn ennill yr etholiad

Mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi cefnogi polisi arfaethedig i gyflwyno ffurf o Wasanaeth Cenedlaethol i bobl ifanc wedi'r etholiad cyffredinol.

Os fyddan nhw'n ennill, mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd pobl 18 oed yn gwneud gwasanaeth cenedlaethol, gyda 30,000 yn mynd at y lluoedd arfog yn llawn amser, a'r gweddill yn gwneud un penwythnos bob mis gyda nifer o wasanaethau cyhoeddus eraill gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y Gwasanaeth Tân a gwasanaethau gofal ymhlith eraill.

Wrth siarad ar Radio Wales Breakfast fore Llun, dywedodd Fay Jones, sy'n AS dros Frycheiniog a Sir Faesyfed: "Does gen i ddim problem o gwbl gyda sicrhau bod pobl ifanc ledled Cymru yn cael y cyfleoedd bywyd sydd eu hangen arnynt.

"Rwy'n meddwl bod buddsoddi ynddynt, darparu cyfleoedd iddynt, ffyrdd o wirfoddoli neu wasanaethu eu milwrol, fel y mae cymaint o bobl eisiau ei wneud, rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth y bydd pawb ledled Cymru yn ei groesawu.

"Rwy'n adnabod llwyth o bobl ifanc a fyddai'n hoffi chwarae eu rhan."

'Profiad gwych'

Cafodd y cynllun ei ddisgrifio fel "boncyrs" gan Blaid Cymru, tra bod Llafur yn dweud y byddai'n well pe byddai'r Ceidwadwyr heb dorri cylliad i'r lluoedd arfog a gwasanaethau i bobl ifanc ers 14 mlynedd.

Ond mynnodd David TC Davies mai cynnig cyfleoedd i bobl ifanc Prydain sydd ar gael mewn nifer o wledydd Ewropeaidd oedd y nod.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David TC Davies y byddai'n "trysori am weddill fy mywyd" ei gyfnod gyda'r Fyddin Diriogaethol

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Llun, dywedodd Mr Davies, Ysgrifennydd Cymru: "Mae'n bwysig cynnig yr un cyfleoedd i bobl ifanc Prydain ag y maen nhw'n cael mewn nifer o wledydd Ewrop... cynnig y cyfle i wasanaethu mewn pethau fel y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth tân.

"Mae rhai yn canolbwyntio ar yr elfen milwrol, ond dim ond 30,000 o lefydd milwrol fydd yna o dan y cynllun hwn ac wrth gwrs ni'n disgwyl i'r mwyafrif mawr i wneud pethau eraill.

"Pan o'n i'n 18 oed fe dreuliais i amser gyda'r territorial army ac roedd e'n brofiad gwych y byddai'n trysori am weddill fy mywyd."

Disgrifiad o’r llun,

Huw Thomas

Ond dywedodd Huw Thomas o'r blaid Lafur bod angen edrych ar record y Ceidwadwyr.

Dywedodd: "Os ydyn nhw am fuddsoddi yn ein pobl ifanc ni, yna pam maen nhw wedi torri arian ni'r gwasanaethau yn ein cymunedau a gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc dros y 15 mlynedd diwethaf?

"Os ydyn nhw'n poeni am stad y fyddin a'r lluoedd arfog, pam ydyn nhw wedi torri'r lluoedd arfog i'w lefelau isaf ers oes Napoleon?

"Wythnos yn ôl roedd gweinidog yn yr adran amddiffyn, mewn ateb ysgrifenedig i gwestiwn, yn dweud nad oedd unrhyw gynllun ganddyn nhw i gyflwynno mesur o'r math yma am rhesymau ymarferol a rhesymau milwrol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Saville-Roberts fod y Ceidwadwyr "wedi chwalu dyfodol pobl"

Canolbwyntio ar record y Ceidwadwyr wnaeth Liz Saville-Roberts hefyd, gan ddweud eu bod nhw wedi "difetha dyfodol cymaint o bobl ifanc" ers bod mewn grym.

Dywedodd: "Y Ceidwadwyr ddewisodd dod ag austerity i mewn. Maen nhw wedi dewis dod â Brexit i mewn, a'r math o Brexit sy'n difetha cymaint o gyfleoedd oedd gan bobl ifanc o'r blaen.

"Ry'n ni mewn argyfwng economaidd a grewyd gan brif weinidog a ddewiswyd gan y Ceidwadwyr - a'r Ceidwadwyr yn unig - sef Liz Truss.

"Maen nhw wedi chwalu dyfodol pobl, a dyma'r gorau maen nhw'n gallu cynnig ydy gwasanaeth gorfodol, a dydyn nhw ddim hyd yn oed wedi meddwl am y manylion."

Byddai'r arian am y cynllun (tua £1.5bn) yn dod yn rhannol drwy ddileu'r Gronfa Rhannu Cyfoeth (Shared Prosperity Fund) erbyn 2028.

Dyna oedd cynllun Llywodraeth y DU i gynnig arian oedd yn arfer dod o'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd gwrthbleidiau y byddai'r Ceidwadwyr yn "dweud eu bod yn buddsoddi mewn cymunedau ar un llaw, ond cymryd yr arian allan gyda'r llaw arall".

Gwadodd y Ceidwadwyr y byddai arian i Gymru'n cael ei golli drwy'r cynllun.