Gwasanaeth Cenedlaethol: 'Dim effaith ar gyllid Cymru'

David TC  Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ni fyddai Cymru'n colli arian o ganlyniad i gynllun gwasanaeth cenedlaethol y Ceidwadwyr, yn ôl David TC Davies

  • Cyhoeddwyd

Ni fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol petai'r Ceidwadwyr yn cyflwyno gwasanaeth cenedlaethol gorfodol, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Dywed y blaid bod bwriad cyflwyno 12 mis o wasanaeth cenedlaethol gorfodol i bobl 18 oed os ydyn nhw'n ennill yr etholiad.

Dywedodd David TC Davies wrth BBC Politics Wales y byddai'r polisi'n cael ei ariannu gyda £1.5bn yn sgil "dirwyn i ben y Gronfa Ffyniant Cyffredin" - cynllun Llywodraeth y DU i ailddosbarthu arian o amgylch y wlad ar ôl Brexit.

Fe fyddai £1bn pellach yn dod o "gau bylchau treth", meddai.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai Cymru ar ei cholled oherwydd diwedd y cynllun, atebodd Mr Davies: "Dydw i ddim yn meddwl y bydd pobl ifanc Cymru yn ei weld o felly."

Byddai pobl 18 oed yn gallu gwneud cais am un o 30,000 o leoliadau milwrol llawn amser neu wirfoddoli un penwythnos y mis yn gwneud gwasanaeth cymunedol.

Dywed y Ceidwadwyr y byddai'r cam yn helpu sicrhau bod pobl ifanc heb waith, addysg na hyfforddiant yn osgoi "bywydau o ddiweithdra a throsedd".

'Anobeithiol, a hollol boncyrs'

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r cynlluniau.

“Dyma ymroddiad anobeithiol arall o £2.5bn heb ei ariannu gan Blaid Dorïaidd sydd eisoes wedi chwalu’r economi, gan achosi morgeisi i godi'n sylweddol, a maen nhw'n ysu nawr am fwy," dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: “Cynnig y Torïaid i bobl ifanc yn yr etholiad hwn yw dileu buddsoddiad yn eu dyfodol a’u gorfodi i ymuno â’r fyddin. Mae o nid yn unig yn anobeithiol ond yn hollol boncyrs."

Cyhuddodd llefarydd amddiffyn y Democratiaid Rhyddfrydol, Richard Foord AS, y Ceidwadwyr o dorri niferoedd milwyr.

Dywedodd: “Pe bai’r Ceidwadwyr o ddifrif ynglŷn ag amddiffyn, fe fydden nhw’n dadwneud eu toriadau niweidiol i’n lluoedd arfog proffesiynol o safon fyd-eang yn hytrach na’u dinistrio, gyda thoriadau aruthrol i nifer ein personél gwasanaeth arferol.”

Aeth David TC Davies ymlaen i amddiffyn record Y Ceidwadwyr o lywodraethu'r DU ers 2010, gan grybwyll camau yn ymateb i heriau'r pandemig a'r rhyfel yn Wcráin.

"Wnaethon ni wario £100bn ar wneud yn siŵr bod busnesau'n aros ar agor... a wnaethon ni lwyddo i ddod â'r chwyddiant anochel i lawr yn sydyn iawn i o gwmpas 2%."

Fe ymosododd ar record Llafur o ran iechyd ac addysg yng Nghymru.

Awgrymodd Jo Stevens o'r Blaid Lafur mae'r rheswm pam "y mae'r Ceidwadwyr mor negyddol am Gymru" yw "achos ni allen nhw ymgyrchu ar eu record eu hunain am ei fod mor ofnadwy".

Ychwanegodd taw'r hyn sy'n bwysig i bobl yn yr etholiad yw "newid" a "sicrhau sefydlogrwydd economaidd", ac y byddai Llafur yn "cryfhau" Swyddfa Cymru.

Dywedodd Liz Saville Roberts mai Plaid Cymru fyddai "llais" Cymru yn yr etholiad.

"Mae pobol eisiau newid," meddai, gan awgrymu bod pobl wedi blino gyda'r ddwy brif blaid.

Galwodd hefyd am gynnwys Plaid Cymru ymhob ddadl Gymreig yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, dywedodd y Cynghorydd Rodney Burman: "Mae yna gydnabydddiaeth bod gyda ni rywbeth dilys i'w ddweud ein bod yn cynnig dewis amgen sy'n fwy synhwyrol, efallai, ac mae pobol yn troi atom ni fwyfwy."