Gweithwyr dur i streicio am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd tua 1,500 o staff Tata Steel yn dechrau streic am gyfnod amhenodol fis nesaf dros gynlluniau'r cwmni i dorri miloedd o swyddi, yn ôl undeb Unite.
Dyma fydd y tro cyntaf mewn 40 mlynedd i weithwyr dur yn y DU fynd ar streic.
Bydd tua 2,800 o weithwyr Tata yn colli eu swyddi pan fo'r cwmni'n cau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot erbyn diwedd Medi.
Mae'r cwmni yn bwriadu gosod ffwrnais drydanol gwerth £1.25bn yno er mwyn parhau â'r gwaith, ond bydd angen llawer llai o weithwyr ar honno.
Mae Tata yn dweud y bydd eu cynllun nhw yn achub dyfodol gwneud dur yn y DU, ac mae Llywodraeth y DU yn cyfrannu £500m tuag at adeiladu'r ffwrnais drydan newydd.
- Cyhoeddwyd10 Mehefin
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd9 Mai
Bydd staff Unite ym Mhort Talbot a safle Llanwern yng Nghasnewydd yn dechrau streicio ar 8 Gorffennaf.
Mae staff yr undeb eisoes wedi dechrau ar weithredu diwydiannol, gan wrthod gweithio dros eu horiau gwaith, a dydyn nhw ddim ychwaith yn gwneud unrhyw waith ychwanegol i'w cytundebau.
Mae Tata wedi annog Unite i ohirio'r gweithredu diwydiannol a dychwelyd i'r bwrdd trafod, fel y mae undebau eraill yn ei wneud.
Mae undebau Community a GMB - sydd hefyd yn cynrychioli llawer o weithwyr dur - wedi dweud eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad i beidio â threfnu unrhyw weithredu diwydiannol cyn yr etholiad cyffredinol.
Dadansoddiad ein gohebydd busnes Huw Thomas
Mae streicio yn gam allweddol a difrifol yn yr anghydfod rhwng undeb Unite a Tata Steel.
Tra bo’r ddau undeb arall - Community a’r GMB - yn dal i drafod dyfodol a diswyddiadau gweithwyr dur yn ne Cymru, mae Unite yn gamblo bod streicio yn gallu gwella’r hyn sy’n wynebu’r 2,800 fydd yn colli eu swyddi.
Eisoes mae Tata Steel wedi dweud y bydd pecyn ariannol fwyaf ffafriol y cwmni yn cael ei dynnu oddi ar y ford, a hynny oherwydd penderfyniad Unite i gynnal gweithred ddiwydiannol yn barod.
Ac fe all y cwmni fynd i’r llys er mwyn ceisio atal y streic. Mae Tata Steel yn dweud bod gweithrediadau diwydiannol yn “anghyfreithlon” oherwydd “anghysondebau” ym mhleidlais Unite.
Dyw’r cwmni ddim wedi gofyn i farnwr benderfynu ar y mater hyd yn hyn.
Mae Unite hefyd yn gamblo’n wleidyddol.
O fewn diwrnodau o’r etholiad cyffredinol fe fydd yn rhaid i’r llywodraeth newydd ddelio â’r streiciau cyntaf yn y diwydiant dur ers 40 mlynedd.
Dywedodd Tata Steel eu bod yn "hynod siomedig gyda phenderfyniad Unite i streicio".
“Mae ein hasedau gwneud dur presennol yn agos at ddiwedd eu hoes, yn ansefydlog yn weithredol ac yn achosi colledion anghynaladwy o £1m y dydd," meddai llefarydd.
"Dyna pam nad yw'r paratoadau i gau'r ffwrneisi chwyth a'r gweithfeydd cysylltiedig ym Mhort Talbot wedi newid.
"Fodd bynnag, os ydy diogelwch a sefydlogrwydd ein gweithrediadau yn cael eu peryglu gan y cam yma, byddwn yn cael ein gorfodi i gyflymu’r cynlluniau cau.
“Ar ôl trafodaethau helaeth gyda’r undebau fe wnaethom wella’n sylweddol y gefnogaeth a gynigir i weithwyr fydd yn cael eu heffeithio – y pecyn mwyaf hael yn ein hanes.
"Yn hytrach na streicio, byddem wedi disgwyl i Unite gyflwyno ein cynnig gwell i’w aelodau."