Tata Port Talbot: Beth yw barn y pleidiau?

Tata Port TalbotFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cofnododd Tata UK golledion gwerth £364m yn 2023-24

  • Cyhoeddwyd

Mae undebau ar fin gweithredu'n ddiwydiannol, wrth i Tata fwrw ymlaen â chynlluniau ailstrwythuro mawr a thoriadau i filoedd o swyddi dur.

Mae'r cwmni, sy'n gwneud colledion o bron i £1m y dydd, yn cynnig adeiladu ffwrnais drydan gwyrddach ar ei safle mawr ym Mhort Talbot ar arfordir de Cymru.

Ond o ganlyniad i'r newidiadau hynny, fe fydd 2,800 o swyddi'n cael eu colli.

Gyda'r etholiad cyffredinol ar y gweill, beth yw safbwyntiau’r gwahanol bleidiau ar y mater?

Mae'r diwydiant dur fel ffynhonnell swyddi wedi bod ar drai yng Nghymru ers ei hanterth yn y 1970au.

Ond mae Tata UK yn dal i fod yn gyflogwr preifat mawr ac mae dur yn parhau i fod yn rhan bwysig o economi Cymru.

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer 2023-24 yn dangos fod y cwmni yn colli bron i £1m y dydd.

Mae wedi ymrwymo i fuddsoddiad o £1.25bn mewn technoleg fwy eco-gyfeillgar ym Mhort Talbot, gyda grant o £500m gan Lywodraeth y DU.

Ond yn y cyfnod pontio, mae disgwyl i filoedd o swyddi ddiflannu yn y DU.

Mae rhai undebau yn edrych ar weithredu diwydiannol, gan honni bod y cynigion yn "chwalu swyddi a chymunedau'n ddiangen".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd canlyniad yr etholiad yn effeithio penderfyniad Tata, yn ôl y cwmni

Ni fydd Tata Steel yn newid eu cynlluniau ym Mhort Talbot, dim ots pwy fydd yn ennill yr etholiad cyffredinol.

Mewn neges at staff, rhybuddiodd y prif weithredwr Rajesh Nair “nad yw’r etholiad cyffredinol na’i ganlyniad yn cael unrhyw effaith” ar y penderfyniad i gau’r ddwy ffwrnais erbyn diwedd mis Medi.

Mae’n gam y mae’r cwmni’n dadlau sy’n hanfodol i dorri ar ei golledion ariannol, a pharatoi’r ffordd ar gyfer gwneud dur gwyrddach yn ne Cymru.

Roedd undebau wedi galw am gyfnod pontio hirach, gan gadw o leiaf un ffwrnais yn weithredol nes bod y ffwrnais drydan yn weithredol.

Ond mae Tata wedi cadarnhau y bydd yn bwrw ymlaen â chau’r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot erbyn diwedd mis Medi, gyda gwaith adeiladu ar y ffwrnais drydan i fod i ddechrau ym mis Awst 2025.

Mae bwrdd pontio wedi'i sefydlu i gydlynu cymorth a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr fydd yn cael eu heffeithio, ac mae Llywodraeth y DU wedi addo rhoi £80m tuag at y gronfa, tra bod Tata Steel wedi ymrwymo £20m.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie Jones yn gweithio ar y safle ers ei fod yn 17 oed

Dywedodd Jamie Jones, sydd wedi bod yn gweithio ar y safle am 28 mlynedd, fod staff yn gweithio â "chwmwl du drostyn nhw ar y funud".

Mae Mr Jones, 45, yn gobeithio gweld y sefyllfa'n newid os fydd llywodraeth newydd yn San Steffan ar ôl yr etholiad.

Dywedodd y bydd cymunedau lleol yn cael eu "dinistrio" o ganlyniad i doriadau Tata.

"Mae pawb rownd fan hyn yn 'nabod rhywun sy'n gweithio'n y gwaith dur," meddai.

"Bydd Port Talbot a Chastell-nedd, ble dwi'n byw, bydden nhw'n cael eu dinistrio.

"Sai'n credu bod lot o jobs yna sy'n talu mor dda... fydd o'n anodd i bobl oed fi ail-trainio i wneud jobs eraill."

Beth yw barn y pleidiau?

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod gwaith dur yn parhau ym Mhort Talbot a'i fod yn ddiogel ar gyfer y dyfodol drwy gefnogi'r newid i ffwrneisi trydan.

Dywedon nhw fod Llywodraeth y DU yn buddsoddi £500m yn y ffwrneisi newydd, yn ogystal â chreu cronfa bontio gwerth £100m i gefnogi gweithwyr i ailhyfforddi.

"Mae hyn yn gyferbyniad enfawr i'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru sydd heb wario'r un geiniog yn helpu'r trawsnewid," meddai llefarydd.

Ychwanegon nhw fod miliynau hefyd yn cael ei fuddsoddi yn economi ehangach de-orllewin Cymru gyda'r Porthladd Rhydd Celtaidd, allai greu miloedd o swyddi sgiliau uchel fyddai'n talu'n dda.

Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur ar fusnes, Jonathan Reynolds, y byddai'r blaid yn addo mwy na'r £500m sydd wedi'i gynnig gan y Ceidwadwyr i gefnogi'r diwydiant dur yn ne Cymru.

“Ein cais yw nad oes unrhyw benderfyniadau di-droi’n-ôl yn cael eu gwneud cyn 4 Gorffennaf a bod y cwmni’n trafod gyda ni, gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, gyda’r undebau llafur, oherwydd mae yna fargen well y gellir ei gwneud,” meddai.

Pan holwyd Mr Reynolds am sylwadau Tata na fydd canlyniad yr etholiad cyffredinol yn newid y cynlluniau, dywedodd: “Maen nhw wedi bod yn delio â llywodraeth Geidwadol, sydd ddim wedi deall na gofalu am y diwydiant dur.

Ychwanegodd y byddai llywodraeth Lafur ar lefel y DU hefyd yn creu "cronfa trawsnewid dur gwyrdd gwerth £3bn".

Y diwydiant 'wedi'i adael i farw'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi ac ynni, Luke Fletcher AS, fod dyfodol y diwydiant dur wedi cael ei adael i "farw" gan Lafur a'r Torïaid ac nad oedd unrhyw frys gan y rhai sydd â'r pŵer i'w atal.

“O filoedd o swyddi medrus iawn sy’n talu’n dda sydd mewn perygl yn ne Cymru, i fethiant San Steffan i roi’r pwerau sydd eu hangen ar Gymru i fod yn gyfrifol am ein tynged economaidd ein hunain – rydyn ni’n gwybod nad yw hyn cystal ag y mae’n ei gael," meddai.

“Mae gan Blaid Cymru weledigaeth glir o ran diogelu’r swyddi hyn trwy drawsnewidiad cyfiawn, a cheisio pwerau dros ein hadnoddau naturiol i helpu Cymru i ddatgloi ei photensial gwyrdd.”

Dywedodd fod Bargen Newydd Werdd Gymreig y blaid yn gosod gweledigaeth economaidd sy'n cynnig "gwaith gwerth chweil, ystyrlon a theg sy’n dod i’r amlwg yn y sector gwyrdd a sero-net".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diwydiant dur wedi cael ei "adael i farw", yn ôl Luke Fletcher o Blaid Cymru

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig na allai gweithwyr Cymru gael eu “trin fel difrod cyfochrog”.

"Os na fydd y llywodraeth yn camu mewn, bydd y gymuned leol ac economi ehangach y rhanbarth yn cael eu difrodi," meddai llefarydd.

Mae'r blaid yn galw am weledigaeth hirdymor ar gyfer y diwydiant dur yng Nghymru a ledled y DU, a'n dweud fod y Ceidwadwyr wedi "methu'n llwyr â chyflawni un".

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi bod yn pwyso am gynllun moderneiddio a fyddai'n arbed swyddi a phontio i ddur gwyrdd ers blynyddoedd.

"Mae Ffrainc, yr Almaen ac eraill yn gwneud hyn, ond eto mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn cysgu wrth y llyw."

Dywedodd plaid Reform fod pob posibilrwydd mai’r gwaith dur fyddai'r "difrod nesaf sy'n cael ei achosi gan y prosiect Sero Net a wthiwyd gan y llywodraethau Llafur a Cheidwadol fel ei gilydd".

Ychwanegodd llefarydd: “Mae tair ffwrnais newydd gael eu cwblhau yn India sy’n gwneud sbort o’r sefyllfa y mae Port Talbot ynddi nawr.

"Yn bwysig iawn, mewn cyfnod mor ansicr mae angen ein dur ar gyfer ein diwydiant amddiffyn. Yna byddwn yn dibynnu ar wledydd eraill am y cyflenwad. Bydd yn sicr yn israddol o ran ansawdd o'i gymharu â Phort Talbot."

Dywedodd y blaid fod Sero Net yn "obsesiwn" i'r ddwy brif blaid, gan ychwanegu na ellid cael aer glân trwy ymateb yn fyrbwyll.