Torri swyddi ym Mhrifysgol Bangor wedi 'cyfnod heriol'

Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brifysgol yn dweud eu bod angen arbed tua 8% o’u cyfanswm costau

  • Cyhoeddwyd

Bangor yw’r brifysgol ddiweddaraf i gyhoeddi cynlluniau ar gyfer toriadau oherwydd cyfnod ariannol “heriol” yn y sector addysg uwch.

Dywedodd y brifysgol y byddai 60 i 80 o swyddi yn diflannu “drwy drosiant staff arferol a thrwy beidio ail-lenwi swyddi gwag” fel rhan o’r ymdrech i arbed £12.5m.

Ond yn ôl datganiad ar eu gwefan, does dim disgwyl y bydd angen cynllun diswyddo gwirfoddol ar draws y sefydliad.

Wythnos diwethaf, fe ddywedodd Prifysgol Caerdydd y byddai’n agor cynllun diswyddo gwirfoddol, wedi i Aberystwyth, Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru gyhoeddi cynlluniau i geisio lleihau costau.

Ynghyd â phrifysgolion eraill, dywedodd Prifysgol Bangor ei bod yn wynebu costau uwch, ond nad yw ei hincwm yn cynyddu’n ddigonol.

Dywedodd y brifysgol eu bod wedi cydnabod ym mis Ionawr bod angen arbed tua 8% o’u cyfanswm costau.

“Nid yw'r incwm a ddaw o ffioedd israddedigion cartref wedi cynyddu ar yr un raddfa a chwyddiant.

"Nid yw'r cynnydd bychan i £9,250 yng Nghymru wedi gwneud yn iawn am y gostyngiad yn y grant addysgu a gawn”, meddai’r sefydliad mewn datganiad.

Hanner yr arbedion 'eisoes wedi eu gwneud'

Ychwanegodd y brifysgol bod rheolau fisa newydd i fyfyrwyr rhyngwladol wedi cael effaith.

“O gymharu â llawer o brifysgolion, sy'n cael oddeutu 25% o'u hincwm o ffioedd rhyngwladol, mae Prifysgol Bangor yn llai dibynnol ar y ffynhonnell honno, gyda ffioedd rhyngwladol yn cyfrif am 16% o'n hincwm y llynedd.

“Fodd bynnag, mae'r rheolau fisa newydd wedi cael effaith sylweddol ar recriwtio myfyrwyr”.

Dywedodd llefarydd bod tua hanner yr arbedion eisoes wedi eu gwneud.

Ymhlith y mesurau eraill i dorri costau mae cynlluniau i ddileu modiwlau llai poblogaidd ar rai cyrsiau, llenwi ystafelloedd gwag yn llety myfyrwyr y brifysgol, a dim ond gwario ar “y prosiectau mwyaf hanfodol yn strategol”.

Dywedodd y brifysgol ei bod “yn hyderus o’i gallu i lywio’r heriau ariannol a dod yn gryfach yn y pendraw”.