Prifysgol Aberystwyth: 'Newid sylweddol' i wneud arbedion
- Cyhoeddwyd
Mae is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi "newid sylweddol" i'r ffordd mae'r sefydliad yn gweithredu, wrth iddyn nhw geisio gwneud o leiaf £15m o arbedion.
Dywedodd yr Athro Jon Timmis y bydd y brifysgol yn dechrau cynllun diswyddo gwirfoddol er mwyn ceisio gwneud arbedion.
Ychwanegodd, ar sail y lefelau presennol o incwm a gwariant, fod y brifysgol yn rhagweld y bydd yn gwario tua £15m yn fwy na'r hyn y bydd yn ennill y flwyddyn nesaf.
Er mwyn mynd i'r afael â'r trafferthion, bydd y brifysgol yn datblygu 'rhaglen drawsnewid', sydd â'r nod o arbed costau a buddsoddi mewn ffyrdd newydd o gynhyrchu incwm.
Wrth ymateb, dywedodd dirprwy faer Aberystwyth, Maldwyn Pryse: "Dyw e ddim y fath o newyddion ma' dyn yn hoffi ei glywed ond eto i gyd ry'n ni'n ymwybodol o'r toriadau a'r heriau sy'n wynebu'r sector uwch yn Aberystwyth, Cymru a'r Deyrnas Unedig.
"Mae e wedi bod fel cwmwl ar y gorwel a mae e bellach uwch ein pennau ni."
Gobeithio osgoi diswyddiadau gorfodol
Mewn cyhoeddiad i staff bu'r Athro Timmis yn trafod yr amgylchiadau heriol sy'n wynebu'r sector addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig.
Dywedodd fod hyn o ganlyniad i effeithiau chwyddiant uchel, ffioedd myfyrwyr domestig sydd heb gynyddu gyda chwyddiant, a chwymp mewn marchnadoedd recriwtio rhyngwladol.
Oherwydd hyn, mae'n dweud fod y brifysgol - sydd â thua 8,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff - angen gwneud arbedion sylweddol.
"Fel nifer o brifysgolion eraill yng Nghymru, fel rhan o'r cynlluniau i wneud arbedion, bydd y sefydliad yn cychwyn cynllun diswyddo gwirfoddol a fydd yn helpu i leihau gwariant," meddai datganiad gan y brifysgol.
Ychwanegwyd fod hyn yn cael ei gyflwyno "fel rhan o'r ymdrechion i osgoi diswyddiadau gorfodol cyn belled ag sy'n bosibl".
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
Fis diwethaf fe gyhoeddodd prifysgol arall yng Nghymru - Prifysgol Abertawe - eu bod hwythau yn torri swyddi oherwydd "heriau ariannol".
Dywedon nhw fod 189 o weithwyr wedi gwneud cais llwyddiannus am ddiswyddiad gwirfoddol ers mis Medi.
Mae Prifysgol De Cymru hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n cynnig diswyddiadau gwirfoddol er mwyn gwneud arbedion ariannol.
Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Met Caerdydd wedi dweud nad oes ganddyn nhw gynlluniau diswyddo gwirfoddol ar hyn o bryd, ond y gallai hynny gael ei gyflwyno yn y dyfodol oherwydd caledi ariannol.
Yn ogystal â'r cynlluniau i wneud arbedion, mae Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi rhoi awgrym o'r meysydd sydd "wedi eu hadnabod ar gyfer eu datblygu".
Mae'r rheiny'n cynnwys darpariaeth dysgu o bell y brifysgol, hwb gwybodaeth newydd i fyfyrwyr, sylw penodol i gefnogi cyflogadwyedd myfyrwyr, a'r berthynas gyda chyn-fyfyrwyr a dyngarwch.
Dywedodd yr Athro Timmis: "Rwy'n deall y bydd y cyfnod o drawsnewid sydd i ddod yn heriol i bawb sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth, ond mae'n hanfodol ar gyfer ein dyfodol wrth inni ymateb i'r pwysau ariannol sy'n effeithio ar y sector addysg uwch gyfan.
"Bydd ein trawsnewidiad yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob agwedd o'n gweithrediadau'n gynaliadwy o ran cyllid ac yn darparu'r sylfeini ar gyfer sefydliad sy'n llawer cryfach, yn fwy gwydn ac sydd ag ymdeimlad newydd o optimistiaeth ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y pwysau ariannol sydd ar sefydliadau addysg uwch", gan ddweud bod "Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymgysylltu’n rheolaidd ac yn adeiladol ag arweinwyr y sector ar hyn”.
Dywedodd dirprwy faer Aberystwyth, Maldwyn Pryse: "Mae'n braf gweld bod gan y brifysgol gynllun cadarn ar gyfer y dyfodol a sut mae delio ag e ond yn naturiol mae e'n creu ansicrwydd nid yn unig yn y brifysgol ond hefyd yn y dre', yn arbennig o fewn ein busnesau ni.
"Ry'n ni'n hyderu'n fawr fel cyngor tref y bydd 'na drafodaeth agored iawn rhwng y brifysgol a'r undebau fel bod 'na gydweithio positif i wynebu'r her."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2023