Dŵr Cymru i dalu £40m wedi iddyn nhw gamadrodd ffigyrau

tapiau dwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ofwat fod Dŵr Cymru wedi camadrodd ffigyrau dros gyfnod o bum mlynedd, gan fychanu "ei berfformiad gwael yn sylweddol".

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Dŵr Cymru wedi’u cyhuddo o wneud camgymeriadau “na ellir eu hamddiffyn” wrth adrodd am ollyngiadau a'r defnydd o ddŵr.

Mae Ofwat wedi gorchymyn i'r cwmni dalu £40m "er budd eu cwsmeriaid".

Mae hyn yn cynnwys ad-daliad o £10 ar fil pob cwsmer - sydd eisoes wedi'i gyhoeddi.

Dywedodd Dŵr Cymru mai'r gosb a roddwyd iddynt gan y rheolydd oedd 'iawndal mewn enw' o £1.

Mae'r cwmni wedi ymddiheuro am faterion y dywedon nhw eu bod wedi datgelu eu hunain ac wedi'u cyfeirio at y rheolydd.

Dechreuodd Ofwat ymchwilio ym mis Mai 2023 ar ôl i adolygiad mewnol gan Dŵr Cymru ganfod “methiannau o ran llywodraethu a goruchwylio” wrth adrodd ar ddata.

Mae Ofwat yn gosod targedau perfformiad blynyddol ar gyfer cwmnïau dŵr ar ollyngiadau a defnydd y pen.

Dywedodd llefarydd ar ran Ofwat fod eu hymchwiliad wedi dod o hyd i dystiolaeth fod Dŵr Cymru wedi camadrodd ffigyrau dros gyfnod o bum mlynedd, gan fychanu "eu perfformiad gwael yn sylweddol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ad-daliad o £10 ar fil pob cwsmer Dŵr Cymru

Dywedodd David Black, Prif Swyddog Gweithredol Ofwat fod Dŵr Cymru wedi "camarwain cwsmeriaid a rheoleiddwyr wrth gofnodi gollyngiadau [a mesurau i] arbed dŵr".

"Mae angen i ni fuddsoddi degau o biliynau o bunnoedd dros y 30 mlynedd nesaf i leihau llygredd a sicrhau bod ein seilwaith dŵr yn gallu tyfu gyda'n poblogaeth ac addasu ar gyfer newid hinsawdd," meddai.

"Bydd cwsmeriaid a buddsoddwyr ond yn cytuno i ariannu hyn os ydyn nhw'n ymddiried mewn cwmnïau dŵr i ddarparu gwybodaeth gywir am eu perfformiad."

Fel rhan o'r pecyn gorfodi arfaethedig, dywedodd Ofwat y byddai Dŵr Cymru yn talu £39.4m am eu methiannau.

Roedd hyn eisoes wedi'i gyhoeddi gan y cwmni ac yn cynnwys ad-daliad o £10, a dalwyd i'w 1.4 miliwn o gwsmeriaid y llynedd.

Er mwyn mynd i’r afael â “pherfformiad gwael” ar ollyngiadau a defnydd dŵr gan gwsmeriaid bydd y cwmni hefyd yn buddsoddi £59m ychwanegol cyn 2025 ar uwchraddio seilwaith.

Dywedodd Peter Perry, prif weithredwr Dŵr Cymru fod hi'n "ddrwg gan y cwmni bod hyn wedi digwydd".

Dywedodd fod y methiannau goruchwylio llywodraethu a rheoli a nodwyd gan y cwmni ac yr ymchwiliwyd iddynt wedi hynny gan Ofwat, bellach wedi cael sylw.

“Fe wnaethon ni ddwyn y mater hwn i sylw Ofwat ym mis Ebrill 2022 ar ôl ei nodi fel rhan o’n proses sicrwydd perfformiad blynyddol,” meddai.

“Mae casgliadau allweddol Ofwat ynglŷn â’r hyn aeth o’i le yn cyd-fynd â’n hymchwiliadau ein hunain a rannwyd gydag Ofwat ynghyd â’n cynigion ar gyfer gwneud iawn i gwsmeriaid a buddsoddiad ychwanegol i fynd i’r afael â gollyngiadau a defnydd y pen.”

Ychwanegodd y byddai cyflawni'r gostyngiad arfaethedig mewn gollyngiadau yn heriol ond bod y cwmni "wedi ymrwymo i gynnydd sylweddol mewn gwariant yn y maes hwn ac (wedi) cryfhau'r timau gweithredol perthnasol".

Pynciau cysylltiedig