Gollwng dŵr heb ei drin yn 'anochel', medd Dŵr Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd gollwng dŵr heb ei drin yn anghyfreithlon o rwydwaith Dŵr Cymru yn "anochel" o ystyried maint ac oedran ei seilwaith, meddai penaethiaid y cwmni.
Fis diwethaf fe gyfaddefodd Dŵr Cymru eu bod wedi torri dwsinau o drwyddedau.
Ond yn y Senedd ddydd Iau, mynnodd eu prif weithredwr Peter Perry fod y cwmni wedi bod yn "agored a thryloyw".
Ac eto cyhuddodd prif weithredwr y rheoleiddiwr dŵr Ofwat y cwmni o fod yn "llawer llai uchelgeisiol" na chwmnïau yn Lloegr wrth leihau lefel a nifer gollyngiadau carthion.
Dywedodd David Black wrth bwyllgor amgylchedd y Senedd nad oes gan Dŵr Cymru "mewn gwirionedd gynllun a fydd yn sicrhau gostyngiadau ystyrlon erbyn 2030".
Ychwanegodd bod gan y cwmni "faterion mawr i fynd i'r afael â nhw o ran buddsoddi mewn dŵr gwastraff" ac "o ran gwella gwytnwch eu rhwydweithiau a systemau triniaeth".
Holwyd prif weithredwr y cwmni, Mr Perry, am ollwng dŵr heb ei drin yn anghyfreithlon o orlifau carthffosydd cyfun a dywedodd fod y trwyddedau a dorrwyd yn cyfateb i tua 6% o'r 3,500 o drwyddedau sydd ganddo.
"Gyda'r nifer hwnnw o drwyddedau, gyda 36,000 cilomedr o garthffosydd, 830 o weithfeydd carthffosiaeth, 2,500 o orsafoedd pwmpio, a 2,500 o orlifiadau carthffosydd cyfun, mae'n anochel gyda seilwaith amherffaith rydych chi'n mynd i ddod o hyd i bethau," meddai.
"Ond rydyn ni wastad wedi cael polisi o fod yn gwbl agored a thryloyw. Pan rydyn ni'n dod o hyd i'r problemau hynny rydyn ni'n tynnu sylw atynt."
Roedd Mr Perry yn cydnabod fod yr achosion o dorri amodau trwydded yn anghyfreithlon, ond ychwanegodd nad oedd y cwmni erioed wedi ymddwyn mewn ffordd "lechwraidd".
Eglurodd fod buddsoddiad yn ei le i wneud y gwelliannau angenrheidiol erbyn 2030.
Gofynnwyd iddo hefyd am berfformiad ehangach Dŵr Cymru ar ôl i sgôr y cwmni gael ei israddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'u disgrifio fel cwmni "ar ei hôl hi" gan Ofwat.
'Siomedig iawn'
Dywedodd Mr Perry fod y cwmni'n "siomedig iawn" i gael eu gradd wedi'i hisraddio ond bod cynlluniau ar y gweill i "adfer ein perfformiad".
Roedd yn credu bod anawsterau'r cwmni oherwydd eu seilwaith sy'n heneiddio ac effaith newid hinsawdd.
Dywedodd prif swyddog ariannol Dŵr Cymru, Mike Davis, wrth y pwyllgor fod y cwmni yn buddsoddi £3.5bn erbyn 2030.
Cafodd y ffigwr hwnnw ei gwestiynu'n ddiweddarach gan uwch swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Mr Davis y gallai'r cwmni dŵr fuddsoddi mwy ond bod angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o'r effaith ar filiau cwsmeriaid.
"Mae ein biliau yn uchel. Rydym yn gwasanaethu rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn unrhyw le yng Nghymru neu Loegr," meddai Mr Davis.
"Mae'n rhaid i gynnydd mewn biliau fod yn gydbwysedd i ni ac os edrychwch chi ar y codiadau biliau rydyn ni wedi'u cynnig o gymharu â chwmnïau eraill, maen nhw'n llawer mwy cymedrol.
"Oherwydd y cyfaddawd hwnnw y mae'n rhaid i ni wneud," meddai.
Esboniodd Mr Davis hefyd y byddai'r arian sy'n cael ei wario yn cael ei adennill dros 25 mlynedd "felly mae effaith y bil gwirioneddol yn eithaf bach".
Mae biliau Dŵr Cymru ymhlith yr uchaf yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd Mr Davis mai'r rheswm pennaf am hynny oedd y diffyg buddsoddiad hanesyddol mewn trin carthion arfordirol sy'n effeithio'n benodol ar Dŵr Cymru.
Gwadodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddarach nad oedd wedi llwyddo i ddal "traed Dŵr Cymru i'r tân".
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, Gareth O'Shea, fod y prosesau a ddilynodd yn gyfrifol am i'r cwmni dŵr ymrwymo i'w rhaglen fuddsoddi "fwyaf eto".
Ond ychwanegodd: "Byddwn i'n dweud ffigwr o £1.2bn o fuddsoddiad cyfalaf.
"Rwy'n gwybod pam y byddai'r cwmni dŵr yn defnyddio ffigwr o dri a hanner [£3.5bn] oherwydd y byddent yn cynnwys cynnal a chadw, ond mae hynny ar y lefel uchaf erioed i ddelio â rhai o'r problemau, a'r broses reoleiddio honno sydd wedi cyflawni hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023