O 'anialwch' i goedwig 'arbennig' - Gwirfoddolwyr yn dathlu 10

Coed y Bont
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas Coetir Cymunedol Coed y Bont yn dathlu 10 mlynedd ers iddyn nhw ymgymryd â’r gwaith

  • Cyhoeddwyd

Mae gwirfoddolwyr sy’n gofalu am goetir cymunedol yng Ngheredigion yn dathlu 10 mlynedd ers iddyn nhw ymgymryd â’r gwaith.

Dechreuodd Cymdeithas Coetir Cymunedol Coed y Bont edrych ar ôl y 60 erw ar 12 Ebrill 2014 – ac ers hynny mae’r coetir ym Mhontrhydfendigaid wedi ennill sawl gwobr.

Bellach mae’n cynnig cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, yn lle pwysig i gerddwyr lleol ac yn denu ymwelwyr hefyd.

Mae’r gwirfoddolwyr – mewn partneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru – wedi trawsnewid y coed o fod yn "anialwch" 10 mlynedd yn ôl i fod yn un o 14 safle sy’n rhan o Goedwig Cenedlaethol Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

“Mae’n lle arbennig, hudolus”, meddai Chris Harris, cadeirydd Cymdeithas Coetir Cymunedol Coed y Bont

Dywedodd Chris Harris – cadeirydd y gymdeithas – bod y gwirfoddolwyr wrth eu bodd yn gweld yr ardal yn cael ei defnyddio.

“Mae’n lle arbennig, hudolus”, meddai Chris. “Mae ‘na lawer o gynefinoedd yma, llawer o fywyd gwyllt ac ry’n ni’n falch iawn o Goed y Bont.

"Ry’n ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gynnal a chadw’r lle sbesial yma.”

Mae rhwng 12 a 18 o wirfoddolwyr yn cwrdd unwaith y mis i wneud gwaith cynnal a chadw yng Nghoed y Bont, fel trwsio llwybrau neu docio canghennau.

Maen nhw wedi cyflawni llawer mewn degawd a chael dros £130,000 mewn grantiau.

Yn 2020 daeth Coed y Bont yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru, ac mae wedi ennill gwobrau am y gwaith i gynnal a chadw mannau gwyrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae plant lleol yn gwneud y mwyaf o'r goedwig ers ei thrawsnewid

Mae gwaith y gwirfoddolwyr wedi helpu cynyddu’r cynefinoedd a’r rhywogaethau yn y goedwi,g ac yn ôl y cynghorydd lleol, Ifan Davies, maen nhw wedi trawsnewid y lle o’r hyn oedd yma.

“Wi’n cofio hwn 10 mlynedd yn ôl a wir gerddech chi ddim trwyddo fe, roedd e mor wlyb.

"Anialwch oedd e i ddweud y gwir, anialwch o goed ac ychydig iawn o fywyd gwyllt oedd ‘ma. Wrth gwrs, doedd e ddim wedi cael ei agor lan yn iawn.

“Ond nawr os y’ch chi’n dod yma yn y bore byddech chi’n clywed yr adar yn canu ac mae llawer mwy o fywyd gwyllt yma – maen nhw wedi creu sawl llyn yng nghanol y coed ac mae brogaod yn dod yna, bywyd gwyllt arall hefyd, ac mae e wedi dod yn ardal hyfryd iawn.”

Ffynhonnell y llun, Ysgol Pontrhydfendigaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle'n cael ei ddefnyddio'n aml gan blant Ysgol Pontrhydfendigaid

Mae dwy goedwig yng Nghoed y Bont – coetir hynafol Coed Cnwch sydd ar lethr uwchlaw safle Coed Dolgoed, sy’n cynnwys llwybrau llydan, gwastad trwy’r coed.

Sawl gwaith y flwyddyn, mae’r gwirfoddolwyr yn arwain teithiau ac mae’r coetir yn cael llawer o ddefnydd gan gerddwyr a’r ysgol leol.

Mae Ysgol Pontrhydfendigaid yn mynd i sesiynau ‘ysgol goedwig’ yno, a’r plant yn dysgu sut i ddefnyddio offer garddio a sut i gynnau tân dan reolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lois a Wil o Ysgol Pontrhydfendigaid ymysg y rhai sydd wedi mwynhau'r safle

Dywedodd Lois, sy’n chwech oed, ei bod hi wedi tostio malws melys a Wil – sy’n bump – wedi dysgu sut i dorri coed.

"Dringo’r coed" oedd hoff beth Steffan sy’n 10, a “chwilio am falwod o dan gerrig”.

Dywedodd Lucy bod Coed y Bont yn arbennig am ei fod “yn dangos i ni'r byd natur a faint o goed a faint o adar sydd ‘da ni ym Mhontrhydfendigaid”.

Yn ôl Carys Davies – un o athrawon yr ysgol – mae’r coetir wedi rhoi cyfleoedd newydd i’r plant.

“Do’n i byth wedi meddwl y byddwn i’n dysgu plant bach pump a chwech oed sut i wneud tân, ond maen nhw yn, a defnyddio offer gwahanol.

"Dim ond iddyn nhw gael yr hyfforddiant cywir – maen nhw wrth eu bodd.

“Dysgu dringo coed hefyd, fyddech chi byth yn annog hynny yn yr ysgol ond fan hyn wedyn mae’n ddiogel, dim ond iddyn nhw ddilyn y rheolau.

"Ni’n lwcus iawn i gael hyn ar ein stepen drws ni – mae fe yn rhoi profiad go iawn i’r plant o fod tu allan.”

Pynciau cysylltiedig