'Cefais lythyrau gan fy nhreisiwr o Garchar y Parc'

Rieve Nesbitt-Marr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rieve Nesbitt-Marr yn dweud ei fod wedi derbyn saith llythyr o fewn 10 mis gan y dyn wnaeth ei threisio

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw sydd wedi goroesi trais rhywiol yn beirniadu carchar yn ne Cymru am beidio â “chadw dioddefwyr yn ddiogel” ar ôl iddi dderbyn llythyrau gan ei hymosodwr.

Mae Carchar y Parc, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, eisoes dan bwysau ar ôl i 10 carcharor farw o fewn tri mis.

Fe ildiodd Rieve Nesbitt-Marr, 21, ei hawl i fod yn anhysbys i ddweud wrth y BBC ei bod wedi derbyn saith llythyr o fewn 10 mis gan y dyn wnaeth ei threisio.

Digwyddodd hyn er iddi ofyn i’r awdurdodau i weithredu.

Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc eu bod yn cymryd diogelwch y cyhoedd “o ddifrif” a’u bod wedi ceisio atal y llythyrau.

Rhybudd: Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys manylion a all achosi gofid.

Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Rieve Nesbitt-Marr y llythyr cyntaf tua thair wythnos ar ôl i Harding symud i Garchar y Parc

Roedd Ms Nesbitt-Marr wedi bod yn gweld John Harding, 28, am 12 diwrnod pan gafodd ei charcharu yn ei fflat a'i threisio ym mis Gorffennaf 2023.

Safodd Harding ar ei phen a'i llusgo ar hyd y llawr yn ystod yr ymosodiad, a dywedodd wrthi nad oedd "yn ddigon ofnus".

Fe lwyddodd Ms Nesbitt-Marr i ddianc o'i fflat yng Nghasnewydd y bore canlynol a rhedeg i'r siop Boots leol lle dywedodd wrth staff ei bod wedi cael ei threisio.

Cafodd Harding ei arestio yr un diwrnod, ac aed ag ef i Garchar y Parc i aros am yr achos llys.

Oddeutu tair wythnos yn ddiweddarach, derbyniodd Ms Nesbitt-Marr y llythyr cyntaf ganddo. Anfonwyd y llythyr trwy gyd-garcharor.

Yn y llythyr, a welwyd gan y BBC, dywedodd Harding ei fod yn gweld eisiau y teimlad o'i “chroen noeth” a dywedodd ei fod eisiau bod mewn perthynas â hi pan fydd “yn dod allan”.

Disgrifiad o’r llun,

“'Nes i rewi a gwelais yr holl ymosodiad yn digwydd eto”, meddai Rieve

Cafodd Ms Nesbitt-Marr ddiagnosis o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ar ôl yr ymosodiad.

Fe ddywedodd ei bod yn teimlo bod Harding ei hun wedi rhoi’r llythyr iddi.

“Nes i rewi a gwelais yr holl ymosodiad yn digwydd eto,” meddai.

Fe gysylltodd â Heddlu Gwent a derbyn rif cyfeirnod trosedd, ac fe awgrymodd swyddog iddi gysylltu â’r carchar.

Dywedodd y carchar wrthi am ddefnyddio cynllun lle gall dioddefwyr ofyn am atal cyswllt digroeso gan garcharorion.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Harding yn euog o chwe chyhuddiad gan gynnwys carcharu ar gam a threisio, ym mis Rhagfyr

Lansiwyd y cynllun hwnnw gan lywodraeth Geidwadol y DU yn 2022.

Er iddi ddilyn cyngor y carchar a defnyddio’r cynllun, parhaodd y llythyrau.

Dywedodd iddi dderbyn cyfanswm o saith llythyr y llynedd, cyn ac ar ôl achos llys Harding.

Cafwyd Harding yn euog o chwe chyhuddiad, gan gynnwys carcharu ar gam a threisio, ym mis Rhagfyr.

Yn yr un achos fe’i cafwyd yn euog o bedwar cyhuddiad yn erbyn dioddefwr 16 oed, gan gynnwys carcharu ar gam, tagu a bygythiadau i ladd.

Cafodd ei garcharu am 15 mlynedd, a rhoddwyd gorchymyn iddo i beidio â chysylltu â Ms Nesbitt-Marr yn uniongyrchol neu drwy rywun arall, ond parhaodd y llythyrau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd fideos TikTok Rieve eu gweld gannoedd o filoedd o weithiau

Yn y pen draw, mewn anobaith, rhannodd Ms Nesbitt-Marr ei stori ar TikTok.

Cafodd y fideos eu gweld cannoedd o filoedd o weithiau, ac fe anfonodd menywod negeseuon ati i ddweud eu bod wedi profi problemau tebyg.

Ond fisoedd yn ddiweddarach, dywedodd Ms Nesbitt-Marr nad oedd y carchar preifat wedi estyn allan ati nac wedi ymddiheuro, gan ei gadael "yn y tywyllwch".

'Gwneud i mi deimlo’n flin iawn'

Bu tad Ms Nesbitt-Marr, Paul, yn gweithio fel rheolwr diogelwch carchar am 20 mlynedd.

Dywedodd fod atal llythyrau rhag cyrraedd dioddefwyr yn rhan “sylfaenol” o ddyletswydd carchar i gadw aelodau o’r cyhoedd yn ddiogel.

Ar ôl i Harding anfon ail lythyr at ei ferch, dywedodd iddo alw'r carchar i drafod y sefyllfa.

Dywedodd: “Eglurais mai fy nealltwriaeth i oedd y dylai’r rheolwr diogelwch fod yn briffio’r staff sy’n delio â’r post ac yn dweud wrthynt na ddylai unrhyw ohebiaeth gydag enw a chyfeiriad y dioddefwr fod yn gadael y sefydliad, o dan unrhyw amgylchiadau.”

Dywedodd iddo gael sicrwydd y byddai hynny'n digwydd, ond ni wnaeth.

Ychwanegodd: “Mae’n gwneud i mi deimlo’n flin iawn. Pan oeddwn i’n gweithio mewn carchardai, dyma fyddai un o’r dyletswyddau mwyaf sylfaenol.”

Disgrifiad o’r llun,

Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Dywedodd G4S, sy’n rhedeg Carchar y Parc, eu bod wedi cymryd “pob cam priodol” ond fe wnaeth y carchar gydnabod nad oedd wedi gallu atal y llythyrau.

Dywedodd eu bod wedi cymryd camau, gan gynnwys disgyblu Harding a dau garcharor arall, a’i fod wedi cysylltu â’r heddlu ynglŷn â’r llythyrau.

Ond dywedodd fod Harding, “wedi dewis torri ei orchymyn i beidio â chysylltu trwy ddefnyddio trydydd parti”.

Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym yn gwerthfawrogi y byddai'r llythyrau hyn wedi achosi straen aruthrol ac rydyn yn cydymdeimlo â Ms Nesbitt-Marr."

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn ymchwilio i'r llythyrau.

Disgrifiad o’r llun,

“Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y system gyfiawnder yn cefnogi goroeswyr yn iawn," meddai Ellie Wilson

Mae’r ymgyrchydd trais yn erbyn menywod a merched, Ellie Wilson, yn canmol Ms Nesbitt-Marr am siarad yn gyhoeddus.

Fe ildiodd Ms Wilson ei hawl i fod yn anhysbys wedi iddi hi oroesi trais rhywiol, i ymgyrchu am fwy o gefnogaeth.

Fe ddywedodd fod goroeswyr yn cael eu trin fel “ôl-ystyriaeth” gan y system gyfiawnder.

Cafwyd ymosodwr Ms Wilson, Daniel MacFarlane, yn euog o ddau gyhuddiad o dreisio a’i ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar ym mis Gorffennaf 2022, ar ôl iddi roi recordiad sain i’r heddlu ohono’n cyfaddef iddo ei threisio.

Ers hynny mae Ms Wilson wedi ymgyrchu’n llwyddiannus am gynllun peilot yn Yr Alban, i roi mynediad am ddim i ddioddefwyr i’r cofnodion o’r hyn a gafodd ei ddweud yn y llys.

Wrth drafod profiad Ms Nesbitt-Marr, dywedodd: “Mae’n ofnadwy clywed beth mae hi wedi mynd drwyddo oherwydd y dyn a ymosododd arni ond hefyd oherwydd y system.

“Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y system gyfiawnder yn cefnogi goroeswyr yn iawn, ac yn sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei ddarparu mewn gwirionedd.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sara Kirkpatrick nad Ms Nesbitt-Marr yn unig sydd wedi cael profiad o'r fath

Dywedodd Sara Kirkpatrick o Gymorth i Ferched Cymru nad Ms Nesbitt-Marr yn unig sydd wedi cael profiadau o'r fath.

"Rydym yn derbyn galwadau gan bobl sy’n cael cysylltiad heb eisiau gan droseddwyr sydd yn y carchar ar hyn o bryd," meddai.

"Fy nghyngor clir i fyddai, peidiwch â’i daflu yn y bin. Rhannwch y wybodaeth honno gyda’r heddlu, gydag awdurdodau’r carchar, gyda’ch gweithiwr cymorth, oherwydd mae’n drosedd."

Helpu goroeswyr eraill

Dywedodd Rieve Nesbitt-Marr ei bod yn gobeithio y bydd ei stori'n helpu goroeswyr trais rhywiol eraill.

Mae hi wedi symud tŷ er mwyn ceisio dianc rhag y llythyrau.

Dywedodd iddi ddewis rhannu ei stori er mwyn amddiffyn dioddefwyr eraill.

“Fi’n teimlo bod angen i chi allu fy ngweld, a gweld faint o boen rwy’n mynd drwyddo, i helpu i newid pethau,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

“Fi eisiau i fenywod wybod nad yw hyn yn ddim byd i fod ag embaras amdano”

“Rôl carchar yw cadw dioddefwyr yn ddiogel a hyd yma dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny.

“Hoffwn ymddiheuriad gan y carchar oherwydd nid wyf wedi derbyn un o hyd, a hoffwn beidio â chael unrhyw gyswllt gan y dyn wnaeth ymosod arna’i yn rhywiol.”

Dywedodd Ms Nesbitt-Marr ei bod hi hefyd eisiau dangos i ddioddefwyr eraill nad ydyn nhw ar ben eu hunain.

“Fi eisiau i fenywod wybod nad yw hyn yn ddim byd i fod yn embaras amdano,” meddai.

“Yr unig berson sydd angen bod yn embarrassed yw’r person sydd wedi ymosod arnoch chi.”

Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod wedi cael eich effeithio gan faterion a godwyd yn y stori hon, mae ffynonellau cymorth ar gael drwy Linell Weithredu’r BBC.