Rheolwyr Carchar y Parc 'yn araf yn gweithredu'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bennaeth carchar yn dweud y dylai rheolwyr yng Ngharchar y Parc fod wedi gweithredu'n gynt yn dilyn y farwolaeth gyntaf yn ymwneud â chyffuriau yno.
Dywedodd Vanessa Frake, cyn-bennaeth diogelwch yng Ngharchar Wormwood Scrubs yn Llundain, y dylai rheolwyr fod wedi cynnal archwiliad mawr am gyffuriau yn y carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae 10 carcharor wedi marw yn y carchar, sydd yn cael ei reoli gan gwmni diogelwch G4S, ers 27 Chwefror.
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran cwmni G4S: "Rydyn ni eisioes yn taclo'r amryw o ffyrdd mae cyffuriau yn dod i'r carchar o'r gymuned ehangach ac rydyn ni hefyd yn parhau i gryfhau ein mesurau diogelwch er mwyn gwarchod carcharorion a staff.
"Mae hynny'n cynnwys archwilio staff, ymwelwyr a charcharorion ar hap."
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd19 Mai 2024
- Cyhoeddwyd2 Mai 2024
Dywedodd Ms Frake, sydd â 27 mlynedd o brofiad yn y gwasanaeth carchardai: “Mae cael 10 marwolaeth mewn ychydig dros dri mis yn rhywbeth chi bron byth yn clywed amdano.
“Byddech chi'n meddwl pe bawn i wedi colli un carcharor trwy gyffuriau, bydden ni’n gwneud rhywbeth am y peth a pheidio ag aros i hynny droi yn ddwy, tair a phedair marwolaeth.
“Fi’n gwybod fod yr Ombwdsmon Carchardai wedi gofyn i garcharorion daflu unrhyw gyffuriau sbeis oedd ganddyn nhw, a fi’n credu fod hynny’n dweud y cyfan.
“Mae’n swnio fel nad oedd rhai gweithredoedd fel archwilio celloedd, archwilio carcharorion ac archwilio staff wedi digwydd.”
Fe wnaeth cyfarwyddwr Carchar y Parc, Heather Whitehead, adael ei swydd yn syth ddydd Mawrth ar ôl bod wrth y llyw ers Awst 2023.
Will Styles sydd wedi’i benodi’n gyfarwyddwr newydd.
Mae wedi bod gyda G4S am flwyddyn yn rhedeg carchar Five Wells yn Sir Northampton.
Polisïau cadarn yn 'hollbwysig'
Ychwanegodd Ms Frake: “Mae yna nifer o bethau y gellir eu gwneud i atal cyffuriau rhag mynd i mewn i’r carchar.
“Pe bawn i’n cerdded mewn fel cyfarwyddwr newydd, fe fydden i'n cael tîm i archwilio'r safle gyda chŵn a chael tîm arbenigol i fewn i archwilio’r holl garchar am gyffuriau.
“Gwiriwch bob carcharor, bob cell, bob ardal. Yna fe fydden i'n edrych ar bolisi archwilio'r carchar a gweld a yw'n ddigon cadarn.
“Mae polisi chwilio cadarn yn hollbwysig... does neb eisiau gweithio mewn carchar sydd â phroblem gyffuriau."
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2024
Y 10 o farwolaethau yng Ngharchar y Parc eleni yw’r nifer uchaf o farwolaethau mewn unrhyw garchar yng Nghymru ar gofnod.
Ar hyn o bryd mae’r gyfradd o 6.4 marwolaeth i bob 1,000 carcharor bron i ddwbl y cyfartaledd ar hyd carchardai’r DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024, sef 3.3.
Mae Leo Deacon, 23 oed o Abertyleri, wedi treulio amser yng Ngharchar Caerdydd a Charchar y Parc yn 2020, wedi iddo ymosod ar swyddog heddlu.
Mae Mr Deacon wedi cael triniaeth am fod yn gaeth i alcohol ac mae'n dweud iddo gael cynnig cyffuriau yng Ngharchar y Parc.
“Mae’r staffio yn hollol wahanol yng Ngharchar y Parc, does dim cymaint o staff o’i gymharu â charchar Caerdydd a does ganddyn nhw ddim yr un offer," meddai.
“Mae gan staff yng Nghaerdydd yr offer cywir fel yr heddlu - mae ganddyn nhw chwistrell bupur, baton, a chyffion.
"Does ganddyn nhw ddim hynny yn y Parc... mae ganddyn nhw radio yn unig, a dydy’r staff heb gael eu hyfforddi yn yr un ffordd."
'Cyfnod pryderus' i deuluoedd
Ychwanegodd Mr Deacon: “Pan mae rhywbeth yn digwydd, fel carcharorion yn ymladd, maen nhw'n ymateb yn gyflym yng Nghaerdydd. Ond yn y Parc roedd e bob amser yn cymryd hirach i’w gael o dan reolaeth.
“Mae 'na lawer mwy o staff dibrofiad yn y Parc hefyd. Roedden nhw’n edrych yn ifanc, tua’r un oed â fi, a dim ond 20 oeddwn i ar y pryd.”
Dywedodd Mr Deacon bod ei frawd hefyd yn garcharor yng Ngharchar y Parc ar hyn o bryd, a'i fod wedi bod yn y ddalfa ers mis Mawrth.
Mae’n dweud ei fod yn gyfnod pryderus i’w deulu wedi’r holl farwolaethau.
Dywedodd: “Maen nhw wedi penodi cyfarwyddwr newydd o garchar Five Wells - sy'n garchar sy’n methu - a nawr maen nhw wedi ei benodi mewn carchar arall sy’n methu sef y Parc.
“Bydden i wrth fy modd pe bai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cymryd drosodd a rhedeg y Parc gyda’u staff.”
Fe ddaeth adroddiad gafodd ei gyhoeddi fis Medi'r llynedd gan Fwrdd Monitro Annibynnol i'r casgliad fod gan garchar Five Wells ormod o "staff dibrofiad" a bod "staff yn amharod i herio carcharorion”.
Dywedodd yr adroddiad hefyd fod cyffuriau ar gael yng ngharchar Five Wells.
Ymateb G4S
Wrth ymateb i'r sylwadau am Garchar y Parc, dywedodd llefarydd ar ran cwmni G4S eu bod "yn parhau i gryfhau eu mesurau diogelwch er mwyn gwarchod carcharorion a staff".
Maen nhw hefyd yn dweud bod gan staff yr holl offer a hyfforddiant angenrheidiol, eu bod yn dilyn holl ganllawiau'r Gwasanaeth Carchardai a'u bod nhw wedi gwneud archwiliad llawn o'r carchar gyda'r gefnogaeth angenrheidiol ar ôl i gyffuriau gael eu darganfod ar y safle.