Cyfarwyddwr Carchar y Parc wedi gadael ei swydd
![Carchar y Parc](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/3a21/live/86af25a0-2278-11ef-a248-13d66dddaaef.jpg)
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr Carchar y Parc ym Mhen-y-bont, Heather Whitehead, wedi gadael ei rôl ar unwaith.
Dywedodd cwmni diogelwch G4S, sy'n rheoli'r carchar preifat, nad yw'r penderfyniad "mewn ymateb i un digwyddiad unigol".
Fe ddechreuodd Ms Whitehead redeg y carchar ym mis Awst 2023.
Mae Will Styles wedi’i benodi’n gyfarwyddwr newydd y carchar o ddydd Mawrth ymlaen.
Mae Mr Styles wedi bod yn gweithio i G4S am flwyddyn yn rhedeg Carchar Five Wells yn Sir Northampton.
![William Styles](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1600/cpsprodpb/36d3/live/abf1d420-2282-11ef-a13a-0b8c563da930.png)
Will Styles sydd wedi'i benodi'n gyfarwyddwr ar y carchar
Ers 27 Chwefror mae 10 carcharor wedi marw yng Ngharchar y Parc - gyda'r diweddaraf - Warren Manners, 38 - yn marw ddydd Mercher diwethaf.
Cafodd tri o garcharorion hefyd eu cludo i'r ysbyty yn dilyn "dau ddigwyddiad ar wahân" ar y safle ddydd Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran y carchar: “Mae Will Styles wedi’i benodi’n gyfarwyddwr newydd CEM a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc.
"Mae gan Will dros 30 mlynedd o brofiad yn y gwasanaeth carchardai ar ôl arwain nifer o garchardai mawr, cymhleth, cyhoeddus a phreifat.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd19 Mai 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024