Cynlluniau seiclo yng Nghymru mewn perygl, yn ôl ymgyrchwyr

Mae nifer o lonydd seiclo newydd wedi eu creu yng Nghaerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi rhybuddio y gall newidiadau i bolisïau seiclo Llywodraeth Cymru danseilio'r ymdrechion i annog mwy o bobl i feicio.
Mae'r llywodraeth wedi gwario miliynau o bunnau ar ymgyrch i annog pobl i gerdded a seiclo, gyda chynghorau yn gallu ceisio am arian i adeiladu seilwaith newydd.
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates mai ei flaenoriaeth bellach yw teithio cynhwysol - gan gynnwys trwsio palmentydd i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer pobl ag anableddau - sydd yn awgrymu y bydd llai o ffocws ar lwybrau seiclo.
Ychwanegodd y gweinidog Llafur: "Os yw ein strydoedd yn ddiogel i'r rhai mwyaf bregus, fe fyddan nhw'n ddiogel i bawb."
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd30 Awst 2024
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
Mae'r toriadau arfaethedig i gyllideb y llywodraeth wedi arwain at ffrae ymhlith aelodau Llafur y Senedd, gyda rhagflaenydd Mr Skates yn y swydd, Lee Waters yn ei gyhuddo o fod yn "anonest".
Mae'n ymddangos bod lobïo gan ymgyrchwyr ac eraill - gan gynnwys Mr Waters, yn ôl ffynonellau - yn ystod y broses o lunio'r gyllideb ddiweddaraf wedi ysgogi tro pedol ar doriadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
O 2026 bydd cyllid yn cael ei ddatganoli i gyrff trafnidiaeth rhanbarthol, ac ni fydd Llywodraeth Cymru bellach yn nodi ar be yn union y bydd rhaid gwario'r arian.
'Pwyslais ar drwsio strydoedd'
Fel rhan o'u cynllun newid hinsawdd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio annog mwy o bobl i deithio ar feic neu i gerdded o dan ei pholisi teithio llesol.
Yn ôl Archwilio Cymru, gwariodd awdurdodau lleol Cymru £218m o'r gronfa teithio llesol rhwng 2018 a 2024.
Ond mae adroddiadau yn awgrymu nad yw polisi teithio llesol y llywodraeth wedi llwyddo, a bod Mr Skates wedi dweud wrth aelodau'r Senedd fod ei flaenoriaethau wedi newid.
Ym mis Ionawr, dywedodd: "Yn 2025-26 rydym ni am roi pwyslais ar drwsio strydoedd a gwella palmentydd, a chanolbwyntio ar gerdded i'r ysgol ac adref."

Yn ôl Gwenda Owen, mae'r arian teithio llesol wedi galluogi cynghorau i gynllunio ar gyfer y dyfodol
Dywedodd Gwenda Owen o Cycling UK fod "buddsoddiad cyson wedi bod mewn teithio llesol" dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chynghorau'n gallu adeiladu capasiti a "chynllunio ar gyfer y dyfodol".
"Heb y buddsoddiad hwnnw mewn seilwaith beicio rydym mewn perygl o golli'r cyfle i alluogi mwy o bobl i ddewis beicio," meddai wrth raglen Politics Wales y BBC.
Rhybuddiodd os nad oedd cyllid yn cael ei glustnodi "bydd meysydd eraill yn ceisio hawlio'r arian".
"Ry' ni'n gwybod nad yw cerdded a beicio ar frig yr agenda wleidyddol yn aml iawn," ychwanegodd.

Dywedodd Jake Curran fod angen mwy o seilwaith beicio yng Nghaerdydd
Cymysg oedd y farn am rwydwaith seiclo Caerdydd ymhlith staff a chwsmeriaid caffi trwsio beiciau Workhorse yn y brifddinas.
Dywedodd y prif fecanydd Jake Curran, 30, y byddai mwy o lwybrau seiclo yn gwneud iddo deimlo'n fwy diogel.
"Mae'n braf ym Mhenarth oherwydd does dim llawer o ffyrdd i feicio arni ond pan chi'n dechrau cyrraedd Caerdydd, mae mwy o draffig. Chi ddim yn teimlo mor ddiogel wrth reidio o amgylch Caerdydd ag yr hoffwn i fod."
Ychwanegodd Jen Allan: "Ar y cyfan mae'n iawn, dwi bob amser yn gallu dod o hyd i lwybr sy'n mynd â fi mewn ffordd eithaf diogel," meddai.
Yn ol Rich Morgan, mae'r rhwydwaith wedi gwella ers iddo ddechrau byw yn y ddinas, ond bod "bylchau" a "datgysylltiadau" yn parhau.

Mae Ken Skates wedi dweud ei fod am ganolbwyntio ar deithio cynhwysol
Dywedodd Skates wrth bwyllgor ym mis Ionawr fod pryderon gan ymgyrchwyr beicio "yn ddi-sail oherwydd ein bod ni wedi gweithredu'r fenter diogelwch ffyrdd fwyaf mewn 25 mlynedd gyda 20mya".
Wrth ymateb i'r sylw, dywedodd Lee Waters mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fod "defnyddio'r gostyngiad mewn anafiadau ar ffyrdd 20mya i gyfiawnhau torri'n ôl ar seilwaith teithio llesol yn anonest".
"Yn enwedig wrth ystyried fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos cynnydd mewn anafiadau ar ffyrdd lle mae'r terfyn cyflymder dros 40mya," ychwanegodd.
Ym mis Ionawr, ysgrifennodd John Griffiths, AS Dwyrain Casnewydd, at Mr Skates ar ran y grŵp trawsbleidiol yn y Senedd ar deithio llesol, gan fynegi "pryder sylweddol".
Yn benodol, roedd yn cwyno am newidiadau yng nghyllideb llywodraeth Cymru a oedd yn golygu bod yr arian yr oedd modd i gynghorau wneud cais amdano "mwy neu lai wedi gostwng 50%" gan fod nifer y cynlluniau wedi lleihau.
Esboniodd Mr Griffiths fod safbwynt y llywodraeth bellach wedi newid: "Rydym yn falch iawn bod y llywodraeth i'w weld wedi ymateb, oherwydd bydd modd i awdurdodau lleol fwrw ymlaen â mwy nag un cynllun".

Mae elusen RNIB Cymru am weld cynlluniau teithio llesol "sy'n gweithio i bawb"
Mae rhai grwpiau am weld cynlluniau mwy cynhwysol o ran teithio llesol.
Dywedodd Liz Williams, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus RNIB Cymru, ei bod yn hapus i weld "mwy o bwyslais ar cerdded".
"I bobl ddall a golwg rhannol maen nhw'n dibynnu ar y gallu i gerdded o gwmpas yn hyderus ac yn hapus," meddai.
"Ar y funud ry' mae 'na gynlluniau ar draws Cymru sy'n rili peryglus ar gyfer pobl ddall a golwg rhannol, ac i ddweud y gwir dydi pobl ddim yn hoffi nhw.
"Un enghraifft yw'r lonydd beics sy'n rhedeg rhwng y man aros a'r orsaf bws, felly mae angen i rywun gerdded mewn i'r lon feicio er mwyn mynd ar neu adael y bws, ac yn amlwg mae hyn yn gallu bod yn beryglus i bawb - ond i rywun sydd ddim yn gallu gweld, mae'n hynod o beryglus oherwydd mae beics yn symud mor gyflym."
'Wedi gwrando ar bobl ledled Cymru'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi disgwyl i ddechrau y byddai'r cyllid ar gyfer grantiau llywodraeth leol yn "gostwng yn sylweddol oherwydd yr angen i barhau i fuddsoddi mewn uwchraddio rheilffyrdd".
Ar ôl sicrhau cyllid ychwanegol, llwyddodd y llywodraeth i adfer y gronfa i lefel debyg o'r flwyddyn flaenorol - o £45m i £50m. Dywedodd y llywodraeth nad oedd rhaid gwahodd mwy nag un cais, ond bod cyllid ychwanegol yn golygu bod modd bwrw mlaen gyda mwy o gynlluniau.
Dywedodd Ken Skates: "Mae trafnidiaeth well yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon, ac rydym wedi gwrando ar bryderon pobl ledled Cymru.
"Yn 2025-26 byddwn yn cynnal lefel y cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth a byddaf yn darparu mwy o fanylion am y rhain yr wythnos nesaf.
"Roedd yn fwriad erioed i ddiogelu cyllidebau ar draws y portffolio pe bai modd ac o ystyried y buddsoddiad ychwanegol sydd ar gael i mi, gallwn gynnal y cyllid craidd ar gyfer teithio llesol ar £15m a chadw'r cyllid cyffredinol bron yr un lefel â'r llynedd."
Dywedodd fod yn rhaid gwario "60%" o'r gyllid craidd ar "newid gwirioneddol ar lawr gwlad".
"Yn hytrach na gwario arian trethdalwyr ar ffioedd gweinyddol ac ymgynghori, bydd cynghorau'n gallu buddsoddi mewn trwsio palmentydd, gollwng cyrbau, gosod seddi, gwella llochesi bysiau a gwneud strydoedd yn fwy diogel i bawb," ychwanegodd.