Bethan Sayed: 'Symud tu ôl i'r llen' wedi bod yn erbyn Leanne Wood

Roedd Bethan Sayed yn Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru tan iddi benderfynu peidio sefyll yn etholiad 2021
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-Aelod o'r Senedd Bethan Sayed wedi dweud y bu "lot o symud tu ôl i'r llen yn erbyn Leanne Wood" cyn iddi golli arweinyddiaeth Plaid Cymru yn 2018.
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru, bu Ms Sayed yn sôn am y cyfnod pan gafodd Ms Wood ei herio am yr arweinyddiaeth.
Cafodd Ms Wood ei herio gan Adam Price a Rhun ap Iorwerth, ac wedi i Mr Price ennill, fe gollodd Ms Wood ei sedd yn y Senedd yn yr etholiad canlynol.
Wrth drafod ei phenderfyniad i beidio â sefyll yn etholiad 2021 dywedodd Ms Sayed bod y cyfnod wedi bod yn anodd iddi hi yn ogystal â'r arweinydd ar y pryd.
Dywedodd hefyd ei bod yn teimlo ei bod wedi wynebu "mwy o gwestiynau" am ei bod yn fenyw.
Doedd Plaid Cymru ddim am wneud sylw ar y mater.
'Y cyhoedd ddim yn gweld hwn'
Dywedodd Ms Sayed: "Roedd e'n gyfnod dwi'n credu pan oedd - fi isie dweud hyn mewn ffordd sensitif – roedd lot o symud tu ôl i'r llen yn erbyn Leanne Wood fel arweinydd y Blaid a doedd y cyhoedd ddim yn gweld hwn gan amlaf, er bod rhai straeon yn y wasg o bethe negyddol amdani er mwyn ceisio pardduo ei henw wrth gwrs fel arweinydd.
"Ac felly fel rhywun oedd yn cefnogi hi roedd e'n anodd achos roeddet ti'n gweld sut oedd hynny'n effeithio arni hi a sut oedd hynny wedyn yn effeithio ar bobl o gwmpas chi."
Daeth Leanne Wood yn arweinydd Plaid Cymru yn 2012, cyn cael ei disodli yn dilyn penderfyniad Adam Price a Rhun ap Iorwerth i'w herio am y swydd ym mis Gorffennaf 2018.
Wedi iddi golli'r arweinyddiaeth i Mr Price fe gollodd ei sedd yn y Rhondda yn etholiadau'r Senedd yn 2021.

Fe gafodd Leanne Wood ei disodli fel arweinydd Plaid Cymru ar ôl i Adam Price a Rhun ap Iowerth ei herio am y swydd
Fe gafodd Ms Sayed ei hethol i'r Senedd yn 2007, yn 25 oed, wedi iddi ddod ar frig rhestr ranbarthol Plaid Cymru er ei bod wedi cael llai o bleidleisiau na Dr Dai Lloyd.
Roedd hyn oherwydd polisi 'merched gyntaf' y blaid er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth o fenywod o fewn y Senedd.
Roedd rhai yn feirniadol o'r polisi, ac er iddi ennill etholiadau wedi i'r rheol ddod i ben hefyd, dywedodd Ms Sayed bod hen grachod wedi eu codi yn sgil y negyddiaeth tuag at Ms Wood.
Meddai: "Roedd hynny falle yn drip drip lawr i'r Blaid ac roedd pobl oedd yn cefnogi hi falle, fel fi, ddim yn cael yr un fath o gefnogaeth ag oedden ni'n cael o'r blaen.
"A hefyd jest teimlo fel bod pobl yn suro tuag at brosesau oedd yn caniatáu pobl benodol i lwyddo."
'Mwy o gwestiynau fel menyw'
Ychwanegodd: "Er mod i yn yr ail a trydydd tymor wedi ennill yn fy enw fy hun yn ddigon teg, roeddet ti jest dal yn teimlo fel bod 'na fwy o gwestiynau dros be' oeddech chi'n gneud fel menyw.
"Roedd Leanne yn cael yr un math o beth fel arweinydd hefyd - wastad pobl yn herio hi, wastad pobl yn trio neud bywyd hi'n anodd felly ie, roedd e'n gyfnod anodd ar y pryd ac hefyd daeth Covid hefyd wrth gwrs, doedd Covid ddim yn helpu'r sefyllfa."
Dywedodd Ms Sayed bod ffactorau eraill wedi bod yn rhan o'i phenderfyniad i beidio â brwydro yn etholiad 2021, gan gynnwys dechrau teulu.
Fe roddodd enedigaeth i'w mab yn ystod cyfnod Covid.
Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 18:00 dydd Sul, 15 Mehefin neu ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2024