Y bocsiwr Lauren Price yn Bencampwr Pwysau Welter Unedig y Byd

Lauren Price yn dathlu ennill teitl Pencampwr Pwysau Welter Unedig y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae'r bocsiwr Lauren Price wedi ei choroni yn Bencampwr Pwysau Welter Unedig y Byd ar ôl curo Natasha Jonas nos Wener yn Neuadd Albert yn Llundain.
Y sgôr gan y beirniaid oedd 98-93, 100-90 a 98-92 i'r Gymraes.
Ym mis Mai 2024 creuwyd hanes wrth i'r Gymraes ennill pencampwriaeth bocsio'r byd - y ferch gyntaf o Gymru i gyflawni camp o'r fath.
Yn dilyn yr ornest yn erbyn y bocsiwr o Lerpwl, Natasha Jonas nos Wener o flaen torf o 5,272 o bobl, mae hi wedi ychwanegu pencampwriaethau IBF a'r WBC i'w chasgliad.
Mae Price wedi dweud ei bod hi eisiau wynebu'r enillydd yn yr ornest rhwng Mikaela Mayer o America a Sandy Ryan o Loegr ddiwedd y mis, er mwyn ceisio ychwanegu gwregys pwysau welter y WBO at ei chasgliad wedi'i llwyddiant ysgubol.

Curodd Lauren Price y bocsiwr o Lerpwl, Natasha Jonas nos Wener o flaen torf o 5,272 o bobl
Mae hi'n ennill ei lle gyda enwau fel Claressa Shields, Chantelle Cameron, Katie Taylor a Amanda Serrano - bocswyr gorau'r byd ar y funud.
Dilynodd Lauren, sy'n 30 oed, yn ôl traed Jimmy Wilde, Howard Winstone, Joe Calzaghe ac eraill gan ddod y 14eg pencampwr byd o Gymru.
Roedd o bocsiwr o Ystrad Mynach eisioes yn berchen ar wregys pencampwr y WBA, IBO a Ring Magazine.
Yn ogystal â'i llwyddiant diweddar, enillodd Price aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2018, Pencampwriaethau Ewrop 2019, Pencampwriaethau'r Byd 2019 a Gemau Olympaidd Tokyo 2020.
Hi oedd y ddynes gyntaf erioed o Brydain i gystadlu yn y bocsio yn y Gemau Olympaidd.
'Price yn rheoli o'r dechrau'
Wrth siarad ar Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd y gohebydd chwaraeon Bethan Clement, oedd yn gwylio'r ornest yn Llundain, bod yr "awyrgylch yn drydanol".
"Am y tro cyntaf erioed, bocsio merched yn unig oedd yn Neuadd Albert a'r prif atyniad oedd yr ornest rhwng Price a Jonas.
"Nath Price gerdded mas i'r sgwar focsio i gyfeiliant Dafydd Iwan ac Yma o Hyd ac odd y sŵn yn ardderchog ac o'dd Lauren yn bwydo oddi ar yr awyrgylch yna.
Wrth edrych ar yrfa Lauren Price, dywedodd: "Mae'n rhaid i ni gofio, dyma'r nawfed gornest broffesiynol i Price ei hymladd ac mae hi wedi ennill y naw.
"Dywedodd Price cyn yr ornest neithiwr mai dyma'r her fwyaf yn ei gyrfa hyd yma ond beth sydd yn eich taro chi am Lauren Price yw pa mor hyderus yw hi yn ei gallu... mae'n gwybod be' mae'n gallu gwneud ac o'dd hi'n gwybod bo hi'n mynd i allu curo Jonas.
"Nath yr ornest fynd i'r deg rownd ond o'dd Price yn rheoli o'r dechrau. O'dd hi mor chwim, o'dd hi'n bownsio ar ei thraed a doedd Jonas ddim yn gallu ymateb i hynny. O'dd Price yn gwybod odd hi'n gallu ennill ac mi nath hi ennill."
Mae disgwyl iddi ymladd etp ym mis Awst ond dywedodd Bethan Clement mai'r "cwestiwn yw pwy?"
"Mae hi wedi dweud bo hi eisiau i'w gornest nesaf fod yng Nghymru felly mae tipyn i edrych ymlaen ato," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2024