Digartrefedd yng Nghymru 'ar ei waethaf erioed' - elusen

Digartrefedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae digartrefedd yng Nghymru ar ei waethaf erioed, yn ôl Byddin yr Iachawdwriaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae digartrefedd yng Nghymru ar ei waethaf erioed ac mae'n broblem gynyddol, yn ôl elusen sy'n ceisio helpu.

Yn ôl Byddin yr Iachawdwriaeth mae diffyg adnoddau i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Yng Nghaerdydd, mae ffigyrau yn dangos bod bron i 2,000 o aelwydydd yn ddigartref ac yn defnyddio llety dros dro, fel gwely a brecwast.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i'r afael â'r sefyllfa ac i ddarparu mwy o dai.

Mae digartrefedd wedi codi i'w lefel uchaf ers 2015. Roedd 13,539 aelwydydd yn ddigartref yn 2023/24 - 8% yn uwch na'r flwyddyn gynt.

Yn ôl ffigyrau gan Gyngor Caerdydd roedd 1,888 o aelwydydd yn ddigartref yn y brifddinas ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae hynny'n gynnydd o 37% o'i gymharu â'r ffigwr ym mis Medi 2020 - oedd yn 1,370.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod bron i 50 o bobl yn cysgu ar strydoedd Caerdydd bob nos.

Kyle Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kyle Jones wedi cysgu mewn meysydd parcio, drysau a bin yn y gorffennol

Mae Kyle Jones yn ddigartref yng Nghaerdydd ac yn dweud ei fod wedi bod yn sefyllfa honno "on ac off" ers 28 o flynyddoedd.

"Dwi wedi cysgu mewn maes parcio, mewn drysau a hyd yn oed mewn bin mawr unwaith," meddai.

"Dyw e ddim yn dda ond mae rhywun yn dysgu i addasu, ymdopi a goroesi er mwyn gweld y diwrnod nesa'."

Lee Duncan
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r gymdeithas wedi ffaelu'r bobl yma," meddai Lee Duncan

Mae yna amryw ffactorau dros ddigartrefedd, meddai Lee Duncan, sy'n arbenigwr atal niwed gyda'r elusen.

"Mae yna rai wedi gadael y ddalfa a'r fyddin… diffyg cartrefi newydd, yn enwedig yng Nghymru", meddai.

"Efallai bod nhw'n gaeth i sylweddau ac alcohol ac efallai bod perthynas wedi torri lawr hefyd," ychwanegodd.

"Mae'r gymdeithas wedi ffaelu'r bobl yma a dyna le ni'n dod mewn i lenwi'r bwlch."

Andrew Connell
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r sefyllfa cyn waethed a dwi'n ei gofio," meddai Andrew Connell

Dywedodd Andrew Connell, cynghorydd polisi Byddin yr Iachawdwriaeth, bod consensws gwleidyddol ynghylch beth sydd angen ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd.

"Dyw ddim yn broblem o ewyllys neu ddeddfwriaeth ond adnoddau ydi'r broblem," meddai.

"Mae'r sefyllfa cyn waethed a dwi'n ei gofio."

'Gwneud popeth o fewn ein gallu'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â digartrefedd ac i ddarparu mwy o dai.

"Rydym wedi gosod targed heriol ac wedi darparu mwy o gyllid nag erioed yn ystod tymor y Senedd yma, gan gynnwys mwy na £1.4bn wedi ei fuddsoddi hyd yma."

"Y flwyddyn yma rydym yn buddsoddi bron i £220m i atal digartrefedd a chefnogaeth i ddarparu tai i geisio lleihau'r nifer o bobl sydd angen llety dros dro."

Pynciau cysylltiedig