'Cwpl arbennig' yn rhoi dau dŷ i elusen i bobl ddigartref
![Penderfynodd Chris a Valerie Norris roi dau dŷ i bobl ddigartref "gan fod angen difrifol am lety"](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1280/cpsprodpb/c0ce/live/aeadcdb0-e931-11ef-9892-4b7641e79162.jpg)
Penderfynodd Chris a Valerie Norris roi dau dŷ i bobl ddigartref "gan fod angen difrifol am lety"
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o Abertawe wedi rhoi dau dŷ i elusen sy'n helpu pobl ddigartref.
Roedd Valerie a Chris Norris wedi bwriadu rhoi'r ddau dŷ pedair ystafell i elusen The Wallich yn eu hewyllys, ond maen nhw bellach wedi penderfynu eu rhoi nhw ar unwaith.
Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen y bydd y cartrefi "yn lleddfu ychydig ar yr argyfwng tai yng Nghymru drwy roi lloches i bobl yn y gymuned".
Bydd y ddau dŷ yn cael eu defnyddio fel rhan o gynllun The Wallich Abertawe, sy'n rhoi llety i bobl sydd angen lloches ar frys.
Mae'r preswylwyr yn aros yn y llety am gyfnod byr, cyn cael eu symud i le mwy parhaol.
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2023
Darlithwyr oedd Valerie, 71, a Chris, 77, ond mae'r ddau wedi ymddeol erbyn hyn.
Eglura Valerie eu bod nhw'n "gwybod faint o gymorth sydd ei angen ar bobl ddigartref".
"Ar ôl i ni gael amser i setlo lawr gyda'n gilydd, penderfynon ni edrych ar ein sefyllfa ariannol. Roedden ni wedi gwerthu dau dŷ, un yr un, a phrynu un gyda'n gilydd a dyna pryd y cawsom ni'r syniad o brynu tŷ a'i roi i'r rhai mewn angen.
"Mae ganddon ni ddigon o arian i wneud yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud.
"Rydyn ni wedi teithio ddigon yn ystod ein gyrfa - gormod i fod yn onest - a dydyn ni ddim eisiau gwneud hynny bellach felly rydyn ni'n fodlon gyda byw bywyd tawel a mynd allan i fwyta nawr ac yn y man."
'Dydyn ni ddim yn gyfoethog'
Wrth gael eu holi ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Chris eu bod nhw'n "gyfforddus yn ariannol".
"Dydyn ni ddim yn gyfoethog ond mae ganddon ni ddigon i fedru byw felly mi wnaethon ni benderfynu gwneud hyn gan fod angen difrifol am lety dros nos yng Nghaerdydd ac Abertawe.
"Roedd yn teimlo fel peth synhwyrol i'w wneud. Rwy'n credu os fydde lot o bobl yn edrych ar eu sefyllfa a'r hyn sydd ganddyn nhw, mi fydden nhw hefyd yn gwneud yr un peth."
![Ty i'r elusen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/095e/live/49209480-e942-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
Dywedodd Valerie a Chris bod rhoi'r tai yn "teimlo fel peth synhwyrol i'w wneud"
Mae Valerie'n dweud eu bod nhw wedi gorfod ystyried nifer o bethau cyn gwneud y penderfyniad terfynol.
"Mae gennym ni bedwar o blant rhyngom ni, a naw o wyrion ac wyresau, a daethom i'r casgliad eu bod nhw am elwa o'n hewyllys mewn ffyrdd eraill, ac felly doedd dim angen i ni boeni am hynny.
"Rydym ni'n gobeithio y bydd y tai yn darparu lloches ddiogel i'r bobl sydd wirioneddol ei angen, ac yn ysgogi rhagor o bobl sydd â rhywbeth i'w roi i feddwl sut y gallan nhw gefnogi pobl yn eu cymuned."
![Pabell](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/b2c9/live/34a866f0-e928-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
Bydd y ddau dŷ yn cael eu rhoi i gynllun Wallich yn Abertawe sy'n rhoi llety i bobl sydd angen lloches ar frys
Dywedodd Mike Bobbett, Cyfarwyddwr gyda The Wallich: "Mae rhoi un tŷ yn rhodd i'r bobl sy'n cael eu cefnogi gan The Wallich yn wych, ond mae rhoi dau dŷ yn syfrdanol.
"Mae Valerie a Chris yn gwpl arbennig, maen nhw'n poeni am bobl eraill, ac yn enghraifft wych o'r daioni sydd yn y byd. Mae eu haelioni wedi ein rhyfeddu.
"Mae The Wallich yn edrych ymlaen at droi'r ddau dŷ yn rhwyd ddiogelwch i bobl Abertawe. Mae 11,000 a mwy o bobl yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru, ac mae prinder gwirioneddol o gartrefi ar gael i bobl fyw ynddynt yn y tymor hir, sy'n golygu bod mynd i'r afael ag anghenion sylfaenol pobl yn fwy heriol byth.
"Byddwn ni'n dal ati i weithio â'r awdurdod lleol, ac asiantaethau yn Abertawe, heb anghofio'r bobl ddigartref er mwyn sicrhau ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar yr adnodd newydd hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023