Ynys Môn: Diddymu apêl dros gais chalets gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae arolygwyr cynllunio wedi diddymu apêl yn erbyn penderfyniad Cyngor Môn i wrthod caniatáu datblygiad o 25 chalet gwyliau ar safle cyn-fferm foch.
Yn Nhachwedd 2023 cafodd cais i godi'r bythynnod ym Modwina Bellaf, ger Gwalchmai, ei wrthod yn unfrydol gan gynghorwyr yr ynys.
Yn ôl yr ymgeisydd byddai'r datblygiad o 25 chalet dwy a thair llofft yn hybu'r economi leol ac yn chwalu adeiladau oedd wedi "dadfeilio" a bellach "mewn cyflwr gwael iawn".
Ond roedd y cynlluniau wedi denu gwrthwynebiad yn lleol gan gynnwys deiseb â 200 o enwau, gyda rhai yn poeni am yr effaith ar y Gymraeg.
Barn swyddogion priffyrdd y cyngor oedd na all y cynllun ddarparu pum man pasio ar y ffordd gul sy'n arwain i'r safle - a oedd yn cael ei ystyried yn angenrheidiol i wneud ffordd o'r fath yn addas.
Wedi ystyried dadleuon y cyngor a'r ymgeisydd, Mr Cliff Williams, barn yr arolygydd cynllunio Helen Smith oedd bod penderfyniad yr awdurdod i wrthod y cais yn un teg.
Dywedodd yn ei hadroddiad: "Mae’n debygol y byddai’r cynnig hefyd yn cynhyrchu symudiadau cerddwyr a beicwyr ychwanegol ar y lôn gan feddianwyr y cabanau gwyliau sy’n defnyddio’r safleoedd bysiau cyfagos ar yr A5, pentref Gwalchmai gerllaw ac yn mynd am dro a theithiau beic.
"Byddai hyn yn arbennig o wir gan na fyddai siop na chyfleusterau bwyty ar gyfer y preswylwyr ar y safle."
Gan gydnabod bod yr ymgeisydd wedi cynnig creu mwy o lefydd pasio ar y ffordd gul, ei barn oedd byddai'r sefyllfa yn "gyfyngedig o hyd".
"O ganlyniad, nid wyf yn fodlon y gellid creu ardal mynd heibio addas i liniaru effaith y datblygiad arfaethedig ar weithrediad diogel y briffordd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2024