Symud byrllysg y Senedd tra'n adnewyddu'r Siambr

Roedd y byrllysg yn rhodd gan Senedd De Cymru Newydd yn Awstralia
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r gwaith adeiladu ar siambr y Senedd barhau, mae byrllysg seremonïol y sefydliad wedi ei symud.
Mae'n rhaid ehangu'r siambr i greu lle ar gyfer mwy o Aelodau o'r Senedd yn dilyn yr etholiad nesaf.
Bydd 36 o wleidyddion ychwanegol yn cael eu hethol ym Mai 2026 gan ddod â'r cyfanswm i 96.
Bydd y byrllysg yn cael ei ailosod yn yr hen siambr ddadlau yn yr adeilad drws nesaf, ble bydd yr Aelodau'n eistedd tra bo'r newidiadau'n digwydd.

Y byrllysg yn cael ei roi mewn bocs er mwyn ei symud
Mae'r byrllysg - sydd wedi ei wneud o aur, arian a phres - yn eistedd o flaen y Llywydd.
Cafodd ei roi i'r Senedd yn rhodd gan Senedd De Cymru Newydd yn Awstralia.
Yn dilyn etholiad, caiff y byrllysg ei osod yn ei briod le yn y siambr drafod i nodi agoriad swyddogol y Senedd.

Mae angen ehangu'r siambr i greu lle ar gyfer y 36 yn rhagor o ASau
Mae'r byrllysg yn cael ei symud achos bod yn rhaid i'r Aelodau adael y siambr o ganlyniad i'r gwaith adeiladu sy'n digwydd yno.
Mae angen ehangu'r siambr i greu lle ar gyfer y 36 yn rhagor o ASau fydd yn cael eu hethol fis Mai nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y Senedd bod £2.8m wedi ei neilltuo i dalu am y newidiadau i'r siambr.
Am y flwyddyn nesaf, bydd yr ASau yn eistedd yn hen siambr Tŷ Hywel yn yr adeilad y tu ôl i'r Senedd ble bydd y byrllysg yn cael ei osod.
Yn siambr Tŷ Hywel y gwnaeth y Cynulliad, fel ag yr oedd, ymgynnull rhwng 1999 a 2006.
Beth arall sy'n newid?
Yn ogystal â chynnydd i nifer yr aelodau, mae'r modd y caiff ASau eu hethol yn newid hefyd.
Mae Cymru'n cael ei rhannu'n 16 etholaeth a bydd pob un yn cael ei chynrychioli gan chwe Aelod fydd wedi eu hethol drwy drefn gyfrannol.
Mae'r newidiadau'n digwydd yn dilyn cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Mae cefnogwyr y newidiadau'n dweud bod angen mwy o ASau i adlewyrchu'r cyfrifoldebau ychwanegol sydd gan y Senedd erbyn hyn o gymharu â dechrau datganoli ym 1999.
Ond mae gwrthwynebwyr, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod y newidiadau'n wastraff arian.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd4 Mai 2023