Safonau'r Senedd: Gallai ASau golli sedd wedi celwydd bwriadol

Senedd Cymru
  • Cyhoeddwyd

Gallai Aelodau o'r Senedd sy'n dweud celwydd yn fwriadol golli eu seddi o dan argymhellion newydd sy'n cael eu gwneud i Lywodraeth Cymru.

Ond nid yw pwyllgor safonau ymddygiad y Senedd wedi argymell bod twyll bwriadol yn cael ei wneud yn drosedd - i'w ymchwilio gan yr heddlu a'i erlyn yn y llysoedd.

Mae'r pwyllgor yn dweud y dylid cryfhau'r drefn safonau bresennol, gyda'r sancsiwn eithaf o bleidlais debyg i refferendwm mewn etholaeth Aelod o'r Senedd i benderfynu a fyddan nhw'n aros yn eu swyddi.

O dan y cynlluniau byddai gan gomisiynydd safonau'r Senedd hefyd y pŵer i gychwyn ei ymchwiliad ei hun yn hytrach nag aros am gŵyn, a gallai orfodi Aelod o'r Senedd i gyhoeddi cywiriad.

Os na fyddai'r aelod yn gwneud y cywiriad hwnnw, yna bydden nhw'n cael eu hystyried i fod wedi torri'r rheolau, neu'r cod ymddygiad, a bydden nhw'n wynebu cosbau llymach.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r pwyllgor safonau ymddygiad wedi cynhyrchu adroddiad manwl a thrylwyr ar dwyll bwriadol fel rhan o'i ymchwiliad i atebolrwydd aelodau.

"Byddwn nawr yn ystyried ei ganfyddiadau a'i argymhellion cyn ymateb yn ffurfiol."

SeneddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru

Mae'r pwyllgor hefyd yn argymell bod adran 28 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael ei diwygio er mwyn galluogi'r Senedd i benodi aelodau lleyg i eistedd ar y pwyllgor safonau ymddygiad.

Os bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y cynlluniau, byddai Aelodau o'r Senedd yn destun cod ymddygiad cryfach, gyda rheol i weithredu'n "onest" yn ei lle a chyfarwyddyd penodol i ymatal rhag gwneud datganiadau sy'n fwriadol anghywir.

Mae gweinidogion ar hyn o bryd yn ystyried adroddiad blaenorol y pwyllgor a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, oedd yn galw am system 'adalw' newydd a fyddai'n caniatáu i'r Senedd argymell rhoi'r gallu i etholwyr ddiswyddo AS os yw'n torri'r cod ymddygiad yn ddifrifol.

Mae'r pwyllgor nawr yn mynd ymhellach, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r gyfraith i atal a chosbi gwleidyddion ac ymgeiswyr etholiadol sy'n dweud celwydd yn fwriadol.

Hannah BlythynFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr AS Llafur Hannah Blythyn yw cadeirydd pwyllgor safonau ymddygiad y Senedd

Yn eu hadroddiad diweddaraf daeth y pwyllgor i'r casgliad y byddai gwneud twyll bwriadol yn drosedd yn arwain at ganlyniadau anfwriadol, a allai orbwyso unrhyw fanteision.

Roedd wedi clywed tystiolaeth y gallai orlethu'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol – sydd eisoes yn wynebu oedi – ac y byddai'n rhaid i unrhyw honiadau o dwyll bwriadol gyrraedd y safon droseddol.

Pe bai'r amgylchiadau'n cael eu hystyried yn ddigon difrifol, mae aelodau'r pwyllgor yn teimlo mai'r etholwyr ddylai benderfynu yn y pen draw i adalw eu haelod o'r Senedd.

O dan y cynlluniau fe fyddai'r drefn ddisgyblu yn parhau heb ei newid.

Byddai'r comisiynydd safonau yn ymchwilio, byddai'r pwyllgor yn ystyried ei adroddiad ac yn argymell sancsiwn, cyn y byddai'r Senedd yn pleidleisio arno.

Byddai unrhyw Aelod o'r Senedd sy'n torri'r rheolau newydd yn cael nodyn am yr achos ar eu bywgraffiad ar wefan y Senedd.

Galwodd y pwyllgor hefyd ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio twyll bwriadol yn glir.

'Ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd'

Dywedodd Hannah Blythyn AS, cadeirydd pwyllgor safonau ymddygiad y Senedd: "Mae cryfhau'r rheolau ar gyfer Aelodau o'r Senedd ac ymgeiswyr sy'n sefyll i gael eu hethol yn hanfodol ar adeg pan fo ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein sefydliadau yn isel.

"Trwy gryfhau'r gyfraith sy'n llywodraethu etholiadau, cryfhau ein cod ymddygiad a rhoi mwy o rym ac annibyniaeth i'r rhai sy'n ymchwilio i gwynion, gallwn ddechrau ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein sefydliadau gwleidyddol a chefnogi senedd sy'n addas ar gyfer y dyfodol."

Bu aelodau'r pwyllgor yn ystyried tri opsiwn:

  • Creu trosedd o ddichell, y bydd yr heddlu yn ymchwilio iddi a'i rhoi ar brawf gerbron y llysoedd troseddol;

  • Defnyddio corff ymchwiliol presennol, fel yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus a Thribiwnlys Cymreig annibynnol;

  • Cryfhau'r cod ymddygiad yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, i wahardd dweud celwydd neu ddichel sy'n fwy amlwg yn fwriadol, a chryfhau'r sancsiynau y gellid eu cymhwyso.

Deddfu cyn etholiad 2026

Bu pedwar aelod nad oedd ar y pwyllgor safonau - a elwir yn "aelodau arsylwi" - hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith.

Roedd tri ohonyn nhw - yr AS Llafur Lee Waters, Adam Price o Blaid Cymru ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jane Dodds - o'r farn mai'r ffordd orau ymlaen fyddai "cyflwyno trosedd newydd, yr ymchwilir iddi gan yr heddlu a'i herlyn drwy'r llysoedd troseddol".

Roedden nhw'n cefnogi gwelliannau i'r system safonau, ond nid oedden nhw'n meddwl y byddai'n mynd yn ddigon pell i fodloni'r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i addo i'r cyhoedd a'r Senedd.

Roedd y cyn-gwnsler cyffredinol Mick Antoniw, sydd bellach yn aelod o'r pwyllgor safonau, wedi gwneud ymrwymiad y byddai Llywodraeth Cymru yn deddfu mewn pryd ar gyfer etholiad Senedd 2026 ar gyfer diarddel aelodau ac ymgeiswyr a gafwyd yn euog o dwyll drwy broses farnwrol annibynnol.

Gwnaeth y consesiwn ar ôl i'r llywodraeth edrych fel pe byddai'n colli pleidlais ar y mater, a allai fod wedi arwain at greu deddf a fyddai wedi gwneud dweud celwydd yn drosedd benodol.

Byddai set o reolau ar wahân yn berthnasol i ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad i'r Senedd.

Mae'r pwyllgor yn argymell ehangu Deddf Cynrychiolaeth y Bobl y DU i gynnwys twyll bwriadol - rhywbeth y mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i'w wneud.

Ar hyn o bryd mae'n drosedd gwneud datganiad ffug am ymddygiad neu gymeriad gwrthwynebydd.