Galw ar Dŵr Cymru i fod yn deg gyda thaliadau iawndal

Mae trigolion sy'n byw ar yr un stryd yn dweud eu bod wedi derbyn taliadau iawndal gwahanol
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion oedd heb ddŵr am bedwar diwrnod ar ôl i brif bibell fyrstio, yn dweud eu bod wedi derbyn yr iawndal lleiaf oedd ar gael gan Dŵr Cymru.
Mae dwsinau o bobl sy'n byw ar ffordd yng Nghei Connah, Sir y Fflint, wedi derbyn taliad o £30 am 12 awr heb ddŵr, er eu bod wedi colli eu cyflenwad am bron i bedwar diwrnod.
Mae wedi dod i'r amlwg hefyd fod rhai o'u cymdogion wedi derbyn £150.
Mae trigolion yn Ffynnongroyw gerllaw yn dweud eu bod nhw heb dderbyn unrhyw daliadau o gwbl, er iddyn nhw golli eu cyflenwad dŵr hefyd.
Dywedodd Dŵr Cymru y gallai gollyngiad fod wedi cael effaith ar bwysedd dŵr yn Ffynnongroyw, ac y byddan nhw'n gwneud "taliadau ewyllys da" i drigolion yno.
Ond ychwanegodd fod yr iawndal sydd wedi'i roi i bobl Cei Connah yn cyd-fynd â'u gofynion statudol.
- Cyhoeddwyd18 Awst
- Cyhoeddwyd11 Medi
Roedd miloedd o bobl ar draws gogledd-ddwyrain Cymru heb ddŵr ddiwedd mis Awst ar ôl i bibell fyrstio ym Mrychdyn, Sir y Fflint.
Fe gymrodd y gwaith atgyweirio ddau ddiwrnod i'w gwblhau, ond roedd rhai cwsmeriaid yn dal i fod heb ddŵr deuddydd yn ddiweddarach wrth iddi gymryd amser i'r cyflenwad ddychwelyd.
Cynigiodd Dŵr Cymru iawndal o £30 i bob aelwyd, am bob cyfnod o 12 awr heb ddŵr.
Ond dywedodd trigolion York Road yng Nghei Connah fod gwahaniaeth enfawr yn y symiau sydd wedi eu talu, hyd yn oed ar yr un stryd.

£30 mae Ralph Rowlands wedi'i dderbyn gan Dŵr Cymru, er fod eraill ar y stryd wedi cael £150
Dywedodd Ralph Rowlands, 74, sy'n byw yno: "Pan ddaeth taliad o £30, nes i feddwl 'dim ond 12 awr ydy hynny, beth sydd wedi digwydd i weddill yr amser?'"
Wrth sgwrsio gyda chymdogion dros ei ffens, clywodd Mr Rowlands bod pobl eraill wedi derbyn hyd at £150 am yr un cyfnod.
Cynhaliodd Alan Sandland, 74, arolwg barn o drigolion York Road.
Dywedodd: "Dechreuon ni ar £30, ond wrth symud i fyny'r stryd cyrhaeddon ni £90, a £120 ac yn y blaen.
"'Da chi'n dechrau meddwl, pam bod o mor wahanol?
"Mae pob un ohonom yn byw ar yr un stryd, 'da ni'n rhannu cod post."

Cynhaliodd Alan Sandland arolwg barn o drigolion York Road
Dywedodd Joan Catherall, 77, fod bod heb ddŵr am bron i bedwar diwrnod yn "anodd", ond fod y sefyllfa wedi'i gwaethygu gan ymateb Dŵr Cymru.
"Fe wnaethon ni ddelio efo'r sefyllfa i ddechrau, ond cael ein trin fel 'na, cael ein diystyru fel petaech chi'n gwneud y peth i fyny!
"Doedden ni ddim yn gwneud hynny.
"Roedd yn gyfnod llawn straen ond fe wnaethon ni ymdopi, a dyma'r sefyllfa nawr."

Mae Joan Catherall yn teimlo fod Dŵr Cymru wedi diystyru ei chwynion hi a'i chymdogion
Mae trigolion yn dweud eu bod nhw wedi cael gwybod gan Dŵr Cymru fod yr iawndal yn seiliedig ar ddata sy'n dod o synwyryddion yn y pibellau, sy'n mesur lefel y dŵr.
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Ffynnongroyw nos Iau.
Dyma ardal arall ble mae trigolion yn dweud eu bod nhw wedi derbyn taliadau gwahanol i'w gilydd, gyda rhai yn adrodd nad ydyn nhw wedi cael unrhyw iawndal o gwbl.
Dywedodd Rob Jones, trefnydd y digwyddiad, fod Dŵr Cymru wedi dweud wrth rhai o'u cwsmeriaid bod cyflenwad dŵr y pentref wedi aros ymlaen, er gwaethaf y broblem gyda'r brif bibell
"Dydy hynny ddim yn wir, ac mae'n sarhad ar y trigolion a gafodd eu heffeithio," meddai.
"Doedd dim diferyn o ddŵr ar gael yn y system."

Mae Rob Jones wedi trefnu cyfarfod yn Ffynnongroyw nos Iau i drafod y sefyllfa
Dywedodd Dŵr Cymru fod synwyryddion yn Ffynnongroyw yn gweithio yn iawn, ond y bydd yn gwneud "taliadau ewyllys da" o £120 i bob cartref a £300 i bob busnes, ar ôl darganfod bod gollyngiadau yn y system o bosib wedi cael effaith ar yr ardal.
Ond does dim mwy o daliadau iawndal yn debygol yng Nghei Connah.
Dywedodd Dŵr Cymru fod sensorau yn yr ardal wedi gweithio'n gywir, a bod iawndal wedi'i dalu i gartrefi yn cyd-fynd â'r cyfnod nad oedd ganddyn nhw gyflenwad dŵr.

Mae'r Cynghorydd Andy Hughes yn galw ar Dŵr Cymru i "wneud y peth iawn"
Mae cynghorydd Sir y Fflint, Andy Hughes, yn cynrychioli Golftyn yng Nghei Connah.
Dywedodd bod trigolion yn barod i frwydro tan mae pawb yn cael eu trin yn deg.
"Dydyn ni ddim eisiau i hyn lusgo ymlaen, ond fyddwn ni ddim yn gadael i'r peth fynd chwaith.
"Felly i Dŵr Cymru os ydych chi'n gwrando - gwnewch y peth iawn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.