Safonau addysg yn cadw gweinidog 'ar ddihun yn y nos'

Dwy ddisgybl yn gwisgo siwmperi porffor yn eistedd mewn ystafell dosbarth yn gweithio wrth ddesg
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod dan y lach yn sgil canlyniadau profion rhyngwladol a phryder am sgiliau darllen a mathemateg

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi dweud ei bod yn teimlo "cyfrifoldeb dwys" ar yr angen i wella cyrhaeddiad disgyblion Cymru yn sgil pryderon am safonau addysg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod dan y lach gan y gwrthbleidiau yn y Senedd ac arbenigwyr addysg, gyda'r honiad bod eu polisi ar ddysgu darllen i'r plant ifancaf yn "sgandal cenedlaethol".

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Lynne Neagle bod yr angen i wella cyfleoedd bywyd plant yn ei "chadw ar ddihun yn y nos".

Dywedodd un undeb addysg mai digon o gyllid i ysgolion sy'n allweddol ar gyfer gwella safonau.

Beth yw'r pryderon am safonau?

Mae'r pwysau ar Lywodraeth Cymru i wella safonau addysg wedi dwysau dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil y canlyniadau gwaethaf erioed ym mhrofion rhyngwladol Pisa.

Roedd canlyniadau disgyblion 15 oed Cymru yn is nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig yn y profion darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Dangosodd data am asesiadau darllen plant saith i 14 oed bod safonau wedi gostwng dros y pandemig a'r bwlch rhwng y plant tlotaf a'u cyd-ddisgyblion yn sylweddol - 21 mis yn Saesneg a 31 mis yn Gymraeg.

Ysgogodd hyn adroddiad beirniadol gan yr Institute for Fiscal Studies am safonau o fewn y drefn addysg yng Nghymru, gan awgrymu y gallai'r cwricwlwm newydd wneud y sefyllfa'n waeth.

Yn fwy diweddar, mae safiad Llywodraeth Cymru am y ffordd mae'r plant ifancaf yn cael eu dysgu sut i ddarllen Saesneg wedi cael ei feirniadu'n hallt gan arbenigwyr a gwleidyddion ym Mae Caerdydd.

Mae'r sefyllfa wedi cael ei ddisgrifio fel "loteri" a'r cyhuddiad yw ei fod yn gadael miloedd o blant yn ymarferol anllythrennog.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lynne Neagle yn gwadu bod yna laesu dwlyl wedi bod dros safonau addysg

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg bod gwella cyrhaeddiad yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth a bod yna gamau wedi bod eisoes i roi mwy o gefnogaeth llythrennedd a rhifedd i ysgolion.

Ynglŷn â'r pryderon am ddarllen, dywedodd ei bod yn rhoi arweiniad cliriach i ysgolion am yr angen i ddefnyddio'r dull ffoneg wrth addysgu plant ifanc i ddarllen yn Saesneg a bod arolygwyr Estyn yn dweud bod y mwyafrif o ysgolion yn addysgu darllen yn dda.

Mae grŵp o arbenigwyr wedi cael ei sefydlu i gynghori Ms Neagle, sy'n dweud ei bod yn benderfynol o weld gwelliant mewn safonau.

"Dyna beth sy'n fy nghadw'n effro yn y nos. Dwi ddim am adael y bobol ifanc yna lawr ac rwy'n bwriadu gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd ar gyfer y bobl ifanc hynny", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cefnogi plant mor gynnar â phosib sy'n allweddol ar gyfer gwella safonau, meddai pennaeth Ysgol y Bedol, Garnant, Gethin Richards

Yn ôl pennaeth Ysgol y Bedol yn Garnant ger Rhydaman, Gethin Richards, mae angen edrych yn ehangach na data llythrennedd a rhifedd wrth fesur addysg.

Serch hynny, mae'n cydnabod bod safonau llythrennedd wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil y pandemig a newidiadau i gymdeithas.

Mae 'na gylch Dechrau'n Deg ar safle'r ysgol ac mae gallu cefnogi'r plant a'u rhieni o ddwy oed yn allweddol, meddai.

Dywedodd Mr Richards: "O’n i’n darllen yn ddiweddar, mae tua chwarter o rieni bellach ddim yn siarad gyda’u plant yn rheolaidd - mae hwnna’n waith ymchwil cenedlaethol.

"Felly mae gweithio gyda rhieni yn holl, holl allweddol er mwyn adeiladu sgiliau rhieni hefyd i ddatblygu llythrennedd i blant".

Wrth ddysgu'r disgyblion, meddai, "y ffactor fwyaf i ni yw gallu gynnal grwpiau bach ymyrraeth, grwpiau bach o gefnogaeth – ond wrth gwrs mae angen staff i wneud hynny".

Ac mae cyllid felly'n hanfodol, meddai Mr Richards, wrth i'r plant sy'n dod i'r ysgol ddangos mwy o anghenion nag yn y gorffennol.

Disgrifiad o’r llun,

Yn yr ysgol yma maen nhw'n ceisio cael dosbarthiadau llai, ond mae gallu gwneud hynny'n ddibynnol ar gyllid

Mae undeb penaethiaid yr NAHT yn "bryderus iawn" na fydd digon o gyllid yn cael ei glustnodi i ysgolion yng nghyllideb Cymru sy'n cael ei gyhoeddi ar 10 Rhagfyr.

“Rydym yn clywed llawer gan Lywodraeth Cymru am godi safonau a bod safonau yn flaenoriaeth," meddai Laura Doel o'r undeb.

"Fyddai arweinwyr ysgol yn dweud bod angen i gyllid fod yn flaenoriaeth er mwyn iddyn nhw allu cyflogi’r athrawon, yr arweinwyr a’r cynorthwywyr dysgu gwych sydd eu hangen arnyn nhw i wneud y darnau hanfodol hynny o waith i godi safonau yn gyffredinol”.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg ei bod yn dadlau'r "achos cryfaf posib" o fewn y llywodraeth dros roi blaenoriaeth i addysg yn y gyllideb.

Dywedodd Lynn Neagle y byddai'n cyhoeddi mwy o gefnogaeth i ysgolion i hybu presenoldeb mewn datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth, gan ychwanegu nad oedd modd codi safonau "os nad yw plant a phobol ifanc yn yr ysgol".