Sefyllfa dwy ysgol sy'n llai na chwarter llawn yn 'fregus iawn'

Ysgol Gynradd NeboFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na le i 51 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Nebo - dim ond 10 sy'n mynd yno

  • Cyhoeddwyd

Mae sefyllfa dwy ysgol gynradd yn ardal Dyffryn Nantlle, Gwynedd yn "fregus iawn", mae cynghorydd lleol wedi cydnabod.

Er bod lle i 51 o ddisgyblion, does ond 10 yn mynychu Ysgol Gynradd Nebo, a 13 yn Ysgol Baladeulyn ble mae lle i 55.

Mae'r niferoedd yn destun pryder am gynaladwyedd y ddwy ysgol, yn ôl swyddogion Cyngor Gwynedd, sy'n argymell cynnal trafodaethau gyda'r cyrff llywodraethol.

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan gabinet y cyngor ddydd Mawrth nesaf.

'Agos at galonnau pobl Nantlle'

Mae niferoedd y disgyblion yn Nebo wedi bod yn "fregus ers peth amser", yn ôl swyddogion addysg, a'r niferoedd wedi gostwng yn Ysgol Baladeulyn o 27 yn 2017 i 13 yn Ionawr eleni.

Gyda'r awdurdod yn gwario £14,857 fesul disgybl yn Nebo a £14,982 ym Maladeulyn, mae hyn lawer uwch na'r cyfartaledd sirol o £5,223.

Dywed yr adroddiad y gallai'r sefyllfa bresennol fod yn "her i'r athrawon wrth ddarparu cwricwlwm ar gyfer ystod eang o oedrannau o fewn yr un dosbarth, ynghyd â'r ffaith fod yna rai blynyddoedd heb ddysgwyr".

Yn ymateb i'r adroddiad dywedodd y cynghorydd dros ward Llanllyfni, sy'n cynnwys Ysgol Baladeulyn, bod yr ysgol "yn agos iawn at galonnau pobl Nantlle" a'i fod yn "siomedig dros ben" o weld y niferoedd.

"Mewn byd perffaith mi fysa niferoedd sydd yn mynychu'r ysgol yn cynyddu yn y blynyddoedd sydd i ddod ond nid yw'r rhagamcanion yn edrych yn dda," ychwanegodd Peter Thomas.

Pynciau cysylltiedig