Cyngres UEFA: Y Seintiau Newydd gam yn nes at y grwpiau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Seintiau Newydd gam yn nes at gyrraedd grwpiau Cyngres UEFA wedi buddugoliaeth wych o 0-3 yn erbyn FK Panevėžys yn y gemau ail gyfle.
Pe bai'r Seintiau yn trechu pencampwyr Lithwania dros ddau gymal, nhw fyddai'r tîm cyntaf o Gymru i gyrraedd grwpiau un o brif gystadlaethau Ewrop erioed.
Yn ystod hanner cyntaf digon difflach prin iawn oedd y cyfleoedd o safon i'r ddau dîm, ond y Cymry oedd yn rheoli'r chwarae ar y cyfan.
Saith munud wedi'r egwyl, fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen diolch i gôl Danny Davies - ei ail yn Ewrop y tymor hwn.
Fe wyrodd y bel oddi ar Davies ger y postyn pellaf ar ôl i gic gornel achosi bob math o broblemau i amddiffyn Panevėžys.
Fe ddisgynnodd Y Seintiau i'r gystadleuaeth hon ar ôl colli i bencampwyr Hwngari, Ferencvaros yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, ac yna i Petrocub o Moldofa yn nhrydedd rownd rhagbrofol Cynghrair Europa.
Ond roedd yr hyder yn llifo ar ôl iddyn nhw fynd ar y blaen, a daeth ail gôl wedi 64 o funudau wedi gwaith ardderchog gan Dan Williams.
Fe wnaeth yr asgellwr dwyllo dau o amddiffynwyr y tîm cartref ar yr asgell dde, troi yn sydyn tuag at ymyl y cwrt cosbi a chrymanu'r bêl i gornel isa'r postyn pellaf.
Daeth y drydedd gôl yn yr eiliadau gan yr eilydd Ben Clark.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod gan y Seintiau fantais wirioneddol cyn yr ail gymal yn Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt ar nos Iau 29 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst
- Cyhoeddwyd6 Awst
- Cyhoeddwyd2 Awst