Ymgyrchydd o Abertawe wedi ei harestio ar y Lan Orllewinol

Mae Deirdre Murphy wedi bod yn ymgyrchu o blaid Palisteina ers degawdau
- Cyhoeddwyd
Mae mab ymgyrchydd o blaid Palesteina sydd wedi cael ei harestio ar y Lan Orllewinol yn dweud ei fod "yn y tywyllwch" am pryd y bydd hi'n cael ei rhyddhau.
Cafodd Deirdre Murphy, sy'n 70 oed ac yn byw yn Abertawe, ei harestio ar 31 Mai tra'n gwirfoddoli gyda grŵp ymgyrchu International Solidary Movement (ISM).
Mae Llywodraeth Israel wedi cael cais am ymateb.
Dywedodd Torsten Bell, yr Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Abertawe, y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddod o hyd i "ddatrysiad cyflym a chyfiawn" i'r sefyllfa.
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2024
Mae'r Lan Orllewinol - yr ardal rhwng ffin ddwyreiniol Israel ac Afon Iorddonen - yn gartref i thua thair miliwn o Balesteiniaid.
Mae byddin Israel wedi meddiannu'r ardal ers 1967, ac maen nhw'n dal i geisio sefydlu ac ehangu eu presenoldeb yno.
Mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales, dywedodd mab Ms Murphy, Dale Ryan, fod ei fam, sy'n dod yn wreiddiol o Iwerddon, "yn iawn" ond ei fod yn gwybod dim o ran pryd fyddai'n ei gweld eto.
Cafodd ei harestio'r penwythnos diwethaf a'i chludo i Faes Awyr Ben Gurion yn Tel Aviv, meddai Mr Ryan.

Mae teulu Deirdre Murphy yn poeni am effaith y profiad ar ei hiechyd
"Cafodd ei harestio ar ôl cael ei chyhuddo o fewn mewn parth milwrol... roedd hi a dynes arall oedd gydag ISM, Susanne Björk, yn cael eu holi gan y fyddin," meddai.
Yn ôl cwmni darlledu RTÉ, roedd y ddwy yn dilyn y canllawiau ar gyfer yr ardal cyn i setlwyr Israelaidd alw'r heddlu.
Dywedodd Mr Ryan, sy'n byw ym mhenrhyn Gŵyr, fod ei fam wedi bod mewn gwrandawiad ddydd Mercher "heb unrhyw gynrychiolaeth".
"Mae 'na gyfreithiwr yno ar ei rhan, ond gan nad yw'n achos ffurfiol bydden nhw wedi bod yno fel tyst - doedd dim hawl iddi drafod gyda'i chyfreithiwr," ychwanegodd Mr Ryan.
Esboniodd nad oedd wedi gallu siarad gyda'i fam, a'i fod - ar hyn o bryd - yn cael ei ddiweddaru gan ei chyfreithiwr ac ISM.
'Mam yn berson gwydn'
"Mae Mam yn berson eithaf gwydn, ond wrth i'r dyddiau basio mae hi'n dechrau blino, a bydden i'n dychmygu, yn dechrau poeni mwy am y sefyllfa," meddai Mr Ryan.
Mae'r teulu hefyd yn bryderus gan fod Ms Murphy wedi cael problemau iechyd yn y gorffennol, ac maen nhw'n benderfynol o gael cadarnhad bod ei chyflwr hi'n iawn.
Eglurodd Mr Ryan bod ei fam wedi mynd i Balesteina am y tro cyntaf yn 2004 gan ei bod eisiau cyfrannu at y gwaith o ddatblygu cyfleusterau yno.
Dywedodd cyfreithiwr Ms Murphy, Noa Dagoni fod y ffordd mae'r awdurdodau wedi trin yr achos yn "hynod bryderus".
"Ers iddi gael ei harestio dyw Ms Murphy ddim wedi gallu cysylltu â mi, er iddi hi a mi wneud sawl cais - a dyw'r rhesymau pam fod y ceisiadau hynny wedi eu gwrthod ddim yn glir," meddai.
Yn ôl AS lleol Ms Murphy, Torsten Bell, mae cannoedd o etholwyr wedi cysylltu ag ef i fynegi eu pryder am y sefyllfa.
"Rydw i wedi bod mewn cyswllt a theulu Deirdre a Llywodraeth Iwerddon sy'n ei chefnogi, a Swyddfa Dramor y DU sydd yn barod i helpu os oes angen.
"Rydyn ni gyd eisiau gweld Deirdre yn cael ei rhyddhau cyn gynted â phosib," meddai, gan ychwanegu ei fod yn pryderu yn benodol am y ffaith nad oes ganddi gynrychiolaeth gyfreithiol ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llysgenhadaeth Iwerddon eu bod yn "ymwybodol o'r achos ac yn darparu cefnogaeth gonsylaidd" ond nad oeddynt am wneud sylw am unrhyw achos yn benodol.
Mae'r Swyddfa Dramor yn dweud "nad ydyn nhw wedi cael cais i ddarparu cefnogaeth gonsylaidd, ond bod staff yn barod i gefnogi dinasyddion Prydain dramor 24/7".